Agenda item

CAIS DC/2015/01594 - 6 ARWYDD RHYDD-SEFYLL

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cais yn cyfeirio at gais am gyfanswm o 6 arwydd rhydd-sefyll yn y mannau dilynol ar hyd yr A48 yn ymyl Cas-gwent a Chaerwent:

 

           Dau arwydd i'w lleoli yn y A48 ger Cylchfan Parkwall (y cyfeirir atynt fel Arwyddion 1-2).

 

           Un arwydd i'w leoli ar yr A48 ger Canolfan Garddio Cas-gwent (y cyfeirir ato fel Arwydd 3).

 

           Un arwydd i'w leoli ar Ffordd Gyswllt Dyffryn Gwy ger Cylchfan High Beech, Cas-gwent (y cyfeirir ato fel Arwydd 4).

 

           Dau arwydd i'w lleoli ar yr A48 yng Nghaerwent, rhwng Heol Dinham a Pound Lane (y cyfeirir atynt fel Arwyddion 5-6).

 

Mynegodd Aelod bryder am Arwydd 3. Byddai'n lleoliad hwn yn anaddas ar gyfer arwyddion rhydd-sefyll gan y byddai'n tynnu sylw modurwyr ar y rhan brysur yma o'r priffyrdd. Gallai hefyd annog gosod posteri anghyfreithlon yn y lleoliad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sir P. Farley i annerch y Pwyllgor Cynllunio ar y cais, gan ei fod yn Aelod dros Gas-gwent. Mynegodd yr Aelod bryder mai'r ymgeisydd yw Adran Priffyrdd Cyngor Sir Fynwy sydd hefyd yn rhoi'r cyngor technegol ar gyfer y cais. Ni chafodd y broses hon ei herio. Ni chafodd arolygon a gynhaliwyd gan yr Adran Priffyrdd eu gwneud ar gael ar gyfer dibenion craffu. Mae Cyngor y Dref a phreswylwyr lleol hefyd wedi ystyried sylwadau ar y cais. Mynegwyd pryder nad yw'r Awdurdod wedi cymryd sylw o'r farn a fynegwyd yn erbyn y cais.

 

Mewn ymateb, hysbysodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y Pwyllgor y daeth y cais gan yr Awdurdod Priffyrdd ond ei fod yn dîm gwahanol i'r tîm sy'n rhoi sylwadau ar geisiadau cynllunio. Felly, mae swyddogion Cynllunio wedi edrych ar y cyngor a gafwyd. Mae'r archwiliadau ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar wefan y Cyngor Sir.

 

Nodwyd y byddai'r Adran Priffyrdd yn rheoli cynnwys yr arwyddion.

 

Roedd Aelod lleol Drenewydd Gellifarch wedi nodi ei gefnogaeth i'r cais drwy ohebiaeth hwyr.

 

Mynegodd Aelod lleol Caerwent, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, ei bryder fod arwyddion 5-6 yn cael eu lleoli ar lain ganol yr A48 ac ystyriai y dylent gael eu tynnu o'r cais ar sail diogelwch.

 

Ar ôl ystyried y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir D. Dovey ac eiliodd y Cynghorydd Sir A. Webb fod Arwyddion 1,2 a 3 cais DC/2015/01594 yn cael eu cymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo             13

Yn erbyn cymeradwyo          0

Ymatal                                  0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir R. Harris ac eiliodd y Cynghorydd Sir R.J. Higginson fod Arwydd 4 cais DC/2015/2014 yn cael ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

 

O blaid cymeradwyo             7

Yn erbyn cymeradwyo          5

Ymatal                                 1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir R.J. Higginson fod Arwyddion 5 a 6 o gais DC/2015/01594 yn cael ei wrthod ar sail amwynder a diogelwch priffordd.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gwrthod             10

O blaid cymeradwyo      0

Ymatal                           3

 

Cariwyd y cynnig.

 

Felly penderfynwyd:

 

(i)         Cymeradwyo Arwyddion 1, 2 a 3 cais DC/2015/01594 gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad;

 

(ii)        Cymeradwyo Arwydd 4 cais DC/2015/01594 gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad;

 

(iii)       Gwrthod Arwyddion 5 a 6 cais DC/2015/01594 ar sail amwynder a diogelwch priffyrdd.

 

 

 

Dogfennau ategol: