Agenda item

CAIS DC/2015/01424 - NEWID DEFNYDD TIR I DDARPARU SAFLE CARAFANAU SIPSI YN CYNNWYS SAITH CARAFAN BRESWYL A DATBLYGIAD CYSYLLTIEDIG TIR GYFERBYN Â FFERM MAERDY UCHAF, LLANGYFIW.

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am y tri rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mynychodd y Cynghorydd D.K. Pollitt, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llantrisant Fawr y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol ar ran y cyngor cymuned:

 

           Nid yw'r cais yn cydymffurfio gyda'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

           Bu'r safle yn destun apêl cynllunio yn 2011. Caniataodd yr Arolygiaeth Cynllunio'r apêl ar sail anghenion fel y gallai'r ymgeisydd fyw gyda'i theulu agosaf. Gweithredwyd amodau llym am nifer (2) a'r math o garafanau, union leoliad y carafanau hynny, enwau defnyddwyr pob carafán, nifer y cerbydau a ganiateir ar y safle (2) a maint y gorchudd daear a ganiateir.

 

           Ni chydymffurfiwyd ag unrhyw un o'r amodau hyn ers y dyfarniad hwnnw. Nid yw'r defnyddwyr a enwyd erioed wedi byw ar y safle a bu'r safle yn wag gan fwyaf ers hynny. Mae hyn yn diddymu'r angen am y safle.

 

           Yn syth ar ôl y dyfarniad gosodwyd gwasanaethau ar gyfer tair, nid dwy garafán.

 

           Nid yw'r carafanau ar y safle naill y math a ganiateir nac wedi eu lleoli fel oedd angen.

 

           Cafodd y safle ei orchuddio i ddechrau gyda chraidd caled. Cafodd hyn ei symud yn dilyn gweithredu gorfodaeth ond gadawyd tomen o graidd caled ar un gornel o'r safle.

 

           Yn ystod yr haf roedd pum carafán a saith cerbyd ar y safle.

 

           Gwnaed peth gwaith ffensio ac roedd angen i Swyddog Gorfodaeth y Cyngor Sir  fynd i mewn i'r safle a sicrhau bod y carafanau'n cael eu symud.

 

           Oherwydd yr hanes, mae'r cyngor cymuned yn ystyried na ellir bod yn sicr sut y bydd datblygiad y safle yn mynd rhagddo pe cymeradwyid y cais.

 

           Mae mynediad i'r safle ar hyd lon sengl hir a chul heb unrhyw leoedd pasio. Mae'r lôn hefyd yn agored i lifogydd.

 

           Gan nad oes unrhyw wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i'r safle, bydd y cynnydd mewn traffig o hyd at 14 cerbyd ynghyd â faniau teithio achlysurol yn rhoi pwysau diangen ar lif traffig ac yn groes i Bolisi NV1.

 

           Mae ymgeision blaenorol i symud carafanau i'r safle wedi arwain at ddifrod i wrychoedd.

 

           Mae'r safle mewn tir amaethyddol agored ac mae'r cais yn groes i Bolisïau LC1, LC5 a S1 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

           Bydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y tirlun lleol a gellir ei weld o'r A449 a'r ffordd ymuno, yn arbennig yn yr hydref a'r gaeaf.

 

           Bydd y datblygiad arfaethedig yn achosi niwed sylweddol i gymeriad lleol yr ardal. Mae mewn safle anghydnaws ac nid yw'n cyd-fynd â'r ardal leol.

 

           Mae'r cyngor cymuned yn gryf yn erbyn y cais cynllunio.

 

Amlinellodd yr ymgeisydd, Mr. T. Lee, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Bwriad y cais cynllunio yw i'r ymgeisydd a'i deulu agosaf fyw ar y safle.

 

           Mae'r ymgeisydd yn ystyried y dylai'r cais gael ei gymeradwyo, gan ei fod yn cydymffurfio gyda'r Polisi Safleoedd Sipsiwn a fabwysiadwyd dan gynllun datblygu H8.

 

           Mae Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2015 yn sefydlu angen am o leiaf wyth o leiniau preswyl parhaol ychwanegol erbyn 2021. Byddai'r cais hwn yn darparu 40% o'r angen hwnnw.

 

           Mae'r safle yn lleoliad addas a chynaliadwy ar gyfer Safle Sipsiwn. Nid yw'r swyddog achos wedi cyrraedd y rhan berthnasol o'r apêl flaenorol lle canfu'r Arolygydd bod lleoliad y safle wedi ei gytuno. Mae paragraff y 26 y cylchlythyr yn hyrwyddo dull pragmatig at deithiau mewn ceir yng nghyswllt defnyddiau safleoedd sipsiwn.

 

           Mewn cyd-destun gwledig, nid yw'r safle yn neilltuol o anghysbell o'r ystod eang o wasanaethau sy'n darparu ar gyfer tref Brynbuga, sydd tua dau gilomedr o'r safle ac mae ysgol gynradd o fewn y dref.

 

           Mae safle bws o fewn un cilomedr o'r safle a fyddai'n rhoi gwasanaeth i'r ysgol uwchradd newydd yn Nhrefynwy.

 

           Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r cais ac nid oes risg llifogydd neu wrthwynebiadau eraill.

 

           Nid oes unrhyw faterion yn ymwneud ag amwynder preswyl, gan fod y safle ar wahân i'r preswylwyr agosaf.

 

           Caiff y cais ei gefnogi gan gynllun gwella tirlun a ddiogelir gan TDA sy'n darparu'r asesiad gweledol tirlun ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol.

 

           Ers yr apêl flaenorol, ni chaniatawyd unrhyw safle pellach sy'n dangos methiant y cynllun datblygu, gan fod y cylchlythyr yn disgwyl i anghenion gael eu cyflawni drwy'r cynllun datblygu drwy ddyrannu'r tir ar gyfer y safle ac yna ar gyfer ceisiadau unigol, megis y cais hwn.

 

           Ni ddyrannwyd unrhyw dir er i'r GTAA sefydlu fod angen. Dylid rhoi pwysau sylweddol ar y mater hwn.

 

           Yn ychwanegol at yr angen, mae angen i'r ymgeisydd a'i deulu gael eu huno unwaith eto ar yr un safle oherwydd ei fod wedi methu byw yn y safle yn Drenewydd Gellifarch lle cafodd ei fagu. Ers iddo ddod yn oedolyn, y polisi ar y safle yw y gall un aelwyd wneud cais am lain. Dim ond nifer o garafanau fesul llain sydd gan Gaerdydd hefyd, felly methodd roi ei garafán ar lain ei deulu. Hoffai'r ymgeisydd gael ei deulu ei hun ac fel y prif enillydd cyflog, mae ganddo ymrwymiadau i'w deulu presennol. Mae angen i'r teulu fod gyda'i gilydd gan mai dyna eu diwylliant a thraddodiad. Bu teulu'r ymgeisydd yn deithwyr yn Sir Fynwy am genedlaethau ac mae'n ystyried y byddent yn gaffaeliad i'r gymuned.

 

Hysbysodd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y Pwyllgor pe byddai'r Pwyllgor o blaid cymeradwyo'r cais yna y byddai'n argymell fod Aelodau'n ystyried amod ychwanegol bod enwau'r preswylwyr, nifer y carafanau ar y safle, y lleoliad, tirlunio a maint y datblygiad yn hysbys gan fod y materion hyn yn orfodadwy. Fodd bynnag, y mater y bydd angen i'r Pwyllgor ganolbwyntio arno yw os oes angen am y cais hwn. Eglurwyd nad oedd yr un o'r preswylwyr arfaethedig yn ffurfio rhan o'r angen a ddynodwyd drwy'r GTAA.

 

Mynegodd aelodau gydymdeimlad gyda'r ymgeisydd. Fodd bynnag, wrth fynd i ffwrdd o'r safle, daeth yr anawsterau a ddynodwyd gan y safle yn glir. Gan roi ystyriaeth i sylwadau'r Arolygydd yn yr apêl flaenorol, roedd yn glir mai dim ond ar gyfer nifer y carafanau a gytunwyd yr oedd y safle yn addas. Aiff y cais yn erbyn polisi cynllunio.

 

Nodwyd fod swyddogion wedi ceisio siarad gyda'r ymgeisydd ond heb gael unrhyw ymateb. Felly ni chafwyd eglurdeb llwyr am y sefyllfa. Hefyd, mae gwrthdaro rhwng sylwadau'r ymgeisydd a rheolwr safle Caerdydd.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir R. J. Higginson y dylid gwrthod cais DC/2015/01424 am y tri rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gwrthod       -         13

Yn erbyn gwrthod    -          0

Ymatal                    -          0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gwrthod cais DC/2015/01424 am y tri rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: