Agenda item

CAIS DC/2013/00349 - NEWID DEFNYDD LLAWR DAEAR TŶ TAFARN I DDEFNYDD MANWERTHU A CAFFE. TROSI A NEWID LLAWR CYNTAF TŶ TAFARN PRESENNOL I FFLAT. NEWID DYLUNIAD ANHEDDAU NEWYDD ARFAETHEDIG YN Y MAES PARCIO I FFURFIO PÂR O RANDAI DEULAWR. THE BRIDGE INN, STRYD Y BONT, CAS-GWENT NP16 5EZ.

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 4 Hydref 2016 gydag argymhelliad ar gyfer cymeradwyaeth. Fodd bynnag, gohiriwyd ystyriaeth o'r cais i alluogi swyddogion i gydlynu gyda'r ymgeisydd i ystyried newid y dyluniad, gan y teimlai'r Pwyllgor Cynllunio nad yw ffurf y datblygiad yn gydnaws gyda chymeriad yr ardal o amgylch. Gofynnodd aelodau am eil ail-ddylunio'n llwyr. Fodd bynnag, ystyriai'r ymgeisydd mai'r cais presennol oedd y datrysiad dylunio gorau.

 

Nodwyd pe byddai'r Pwyllgor Cynllunio o blaid gwrthod y cais ar sail dylunio, cynigid rheswm dros wrthod islaw:

 

           Ystyrir bod elfen adeilad newydd y cais o ddyluniad anghydnaws ac yn ymddangosiad anghymharus yng nghyswllt cymeriad traddodiadol a chysefin yr amgylchedd adeiledig o amgylch, a ddynodwyd fel ardal cadwraeth. Byddai'r cynnig yn methu cadw neu hybu cymeriad ac ymddangosiad yr Ardal Gadwraeth a byddai'n groes i Bolisi HE1 yn y Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy a fabwysiadwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod y Pwyllgor yng nghyswllt Polisi TAN 15, dywedodd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle fod polisi cynllunio yn caniatáu i'r Pwyllgor gymeradwyo datblygiad preswyl ar Barth Llifogydd C1 os yw'n safle tir llwyd, os yw'n cyflawni cynllun adfywio neu gyflogaeth yr awdurdod lleol ac os yw canlyniadau llifogydd yn dderbyniol. Nodwyd fod swyddogion cynllunio yn fodlon fod y cais hwn yn cydymffurfio â'r polisi risg llifogydd.

 

Dywedodd Aelod lleol Santes Fair, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, wrth y Pwyllgor Cynllunio ei fod yn cydnabod y gwnaed gwaith ychwanegol yng nghyswllt y cais ac y rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth ddifrifol i'r mater yn y cyfarfod blaenorol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reswm dros newid dim o'r hyn a ddywedodd yn y cyfarfod blaenorol. Ailgyflwynwyd y cais gyda pheth gwaith ychwanegol ond nid yw wedi cyflawni'r gwrthwynebiadau a ddaeth i'r cyfarfod a fynegwyd ar ran barn leol. Fodd bynnag, mae ei sylwadau a fynegwyd yn y cyfarfod blaenorol yn dal yn berthnasol.

 

Nododd na chafodd y dyluniad ei newid ond iddo gael ei gyflwyno'n well gyda lluniadau lliw. Felly, roedd rhai Aelodau bellach yn cytuno mai'r cais, yn ei ffurf bresennol, oedd y dyluniad gorau ar gyfer y safle.

 

Fodd bynnag, roedd Aelodau eraill yn dal i ystyried fod y dyluniad yn anaddas a bod materion yn ymwneud â pharcio wedi eu hanwybyddu ac ystyrient y dylai'r cais gael ei wrthod am y rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir R. Harris fod cais DC/2013/00349 yn cael ei gymeradwyo gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo        8

Yn erbyn cymeradwyo     5

Ymatal                            0

 

Cariwyd y cynnig

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DC/2013/00349 gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: