Agenda item

Rhaglen Ysgolion y Dyfodol

Cofnodion:

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir L. Guppy fuddiant personol, anffafriol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â’i rôl fel Llywodraethwr yr Awdurdod Addysg Lleol yn Ysgol Cil-y-Coed, ac am fod aelod o’r teulu yn mynychu’r ysgol.

 

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir D. Blakebrough fuddiant personol, anffafriol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â’i rôl fel Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Trefynwy, ac am fod ei phlentyn yn mynychu’r ysgol.

 

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir R. Edwards fuddiant personol, anffafriol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau am fod aelod o’r teulu yn mynychu Ysgol Gyfun Trefynwy.

 

Fe groesawodd Aelod o’r Cabinet Pennaeth Ysgol Cil-y-Coed a Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Trefynwy i’r cyfarfod. Fe gyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor a oedd yn darparu diweddariad ar gynnydd Rhaglen Ysgolion y Dyfodol a newidiadau arfaethedig i’r rhaglen gyfalaf gymeradwy a fydd yn galluogi cyflwyno dwy ysgol newydd i ddisodli Ysgol Cil-y-Coed ac Ysgol Gyfun Trefynwy.

 

Fe gynghorodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn llythyr ar ran disgyblion Ysgol Cil-y-Coed yn diolch i Gyngor Sir Fynwy am ei benderfyniad i adeiladu’r ysgol newydd, gan ddiolch i’r Cynghorwyr hefyd. 

 

Yn dilyn cyflwyniad gan Reolwr Rhaglen Ysgolion y Dyfodol, dechreuwyd trafodaeth, ac fe godwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Fe fynegodd y Cynghorydd Sir Hayward siom bod y gyllideb eisoes wedi gorwario gan 15% ac fe holodd am gyfiawnhad ar gyfer hyn. Credwyd y dylid adnabod costau sefydlog yn arbennig oherwydd bod yr amodau gwreiddiol yn hysbys cyn dechrau’r adeiladu. Gofynnwyd am ragor o esboniad am dalu’r costau.

·         Roedd pryder y byddai dymchwel y pwll nofio yn golygu byddai dim pwll nofio ar gael am o leiaf 12 mis.

·         Fe ymatebodd Aelod o’r Cabinet gan ddweud y byddai cost y deunyddiau adeiladu a’r costau llafur yn aros yr un fath beth bynnag y safle. Roedd y tarfu ar yr ysgol yn hysbys ac wedi cael ei gynllunio ar ei gyfer. Roedd y costau bellach yn sefydlog a byddai unrhyw orwariant nawr yn cael ei dalu gan y contractwyr. 

·         Cadarnhawyd y byddai’r costau o fenthyca ar gyfer y gyllideb gyfalaf ychwanegol yn dod allan o’r costau cynnal a chadw ar gyfer yr ysgol, nid costau staff. Byddai’r gost o gynnal a chadw’r ysgol newydd yn finimol.

·         Cadarnhawyd bod yr ysgol angen defnydd parhaus o’r neuadd chwaraeon, ac y byddai dim opsiwn arall heblaw am gau’r neuadd am gyfnod o amser.

·         Ymatebodd aelodau i 2.1.3 yn yr adroddiad:

Cytuno i roi awdurdod dirprwyedig i’r Aelod o’r Cabinet dros Adnoddau, mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog dros Adnoddau a’r Pennaeth Cyllid, i bennu’r pecyn ariannu gorau ar gyfer cyfraniad y Cyngor o £5.95 miliwn gan ystyried:

§  Cyfle i ryddhau asedau ychwanegol dan berchnogaeth y Cyngor i’w gwerthu;

§  Cyfleoedd benthyca darbodus gyda chyfraniadau blynyddol o gyllidebau Ysgol Cil-y-Coed a Threfynwy gan gydnabod gwelliannau arwyddocaol mewn arbed ynni a chael gwared ar unrhyw angen materol i gynnal a chadw’r adeilad am gyfnod estynedig.

§  Cael ei gynnwys o fewn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig o ddarpariaeth refeniw (£476k) i ariannu’r £5.95 miliwn yn llawn trwy fenthyca darbodus dros 25 mlynedd.

Nododd y Cynghorydd Sir Batrouni bod dim modd iddo gefnogi’r ail bwynt bwled yn yr argymhellion. Roedd hefyd pryderon yn ymwneud â’r asedau a werthir, yn unol â’r pwynt bwled cyntaf. 

·         Mewn ymateb i hyn fe esboniodd yr Aelod o’r Cabinet mai adeiladau dros ben oedd yr asedau o dan y cynlluniau cyfredol ar gyfer ad-drefnu, a ffermydd sirol dan gynnig ar hyn o bryd. Y pwynt o ran ysgolion oedd y dylid defnyddio unrhyw arbedion o fewn ysgolion i gael effaith ar y benthyca darbodus, sef y swm lleiaf a fyddai angen ei benthyg. Fe ychwanegodd mai nid mater o gyflawni gostyngiadau staff oedd hi, ond bod cyflawni arbedion yn cynorthwyo gyda’r broses.

·         Ailadroddodd yr aelodau bod pryderon yn ymwneud â rheolaeth ariannol a methu ar addewidion, yn enwedig gan fod gorwariant o £17 miliwn wedi bod, a bod angen rhagor o waith i wirio cost y pwll newydd.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir J. Higginson am 16:10pm

 

·         Bydd yr ysgol yn cael ei dylunio gyda mynediad anabl cyflawn.

·         Mynegodd aelodau ddiffyg hyder ym Mwrdd y Rhaglen a nodwyd y dylai Aelodau chwarae rhan fwy yn y broses o wneud penderfyniadau. 

·         Mynegodd y Cynghorydd A. Watts bryder am y diffyg cyllid ar gael i ddatblygu Ysgol Cas-gwent ymhellach.

·         Roedd y Cynghorydd Down yn gofidio am yr awgrym y dylai’r ysgol dalu cost y llog ar yr arian a fenthycwyd, oni bai bod modd cadarnhau’r arbedion o’r costau cynnal a chadw. Fe ychwanegodd, gan fod y Cynghorydd Hacket Pain wedi cadarnhau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor y byddai datblygiad y pwll yn mynd yn ei flaen fel yr addawyd, rhaid bod yr Aelod o’r Cabinet wedi gwybod ar y pryd y na fyddai’r pwll yn cael ei adeiladu yn unol â’r addewidion a wnaed, ac y dylai ailystyried ei sefyllfa.

·         Cawsom ein cynghori bod yr ymrwymiad i’r pwll yn parhau ac roedd disgwyl y byddai wedi’i gwblhau erbyn 2018. O ran y cyllido, byddai adroddiad arall i’r Cyngor cyn diwedd y flwyddyn hon.

 

Cynigodd y Cynghorydd Howarth addasiad i argymhelliad 2.1.3 pwynt bwled 2, i ddarllen:

 

·         Bydd cyfleoedd benthyca darbodus yn cael eu harchwilio.

 

Eiliwyd y cynnig ac fe drafododd Aelodau’r cynnig:

 

·         Pwysleisiodd y Cynghorydd V. Smith bod Aelodau’n camddehongli’r pwynt bwled dan sylw, a phwysleisiwyd y byddai gan yr ysgolion gyllideb yn seiliedig ar arwyneb y llawer ac y byddai’n costio llai i gynhesu dyluniad newydd.

·         Darparodd y Prif Weithredwr gyd-destun ar y mater, a darparu gwybodaeth yn ymwneud ag ariannu cyfreithiol ysgolion.

·         Holodd yr Aelod o’r Cabinet, os dynnir yr argymhelliad, pa wasanaethau mae’r Aelodau’n awgrymu sy’n cael eu stopio er mwyn darparu’r cyllid.

·         Cadarnhawyd y byddai’r holl arbedion ynni yn dod allan o gyllid yr ysgol gyfan ac yn cael ei defnyddio i dalu’n rhannol am y diffyg cyllid er mwyn symud y rhaglen hon ymlaen.

 

Fe gytunodd y Cyngor i gynnal pleidlais ar gofnod o’r addasiad a gynigwyd i’r argymhelliad. Roedd y canlyniad fel a ganlyn:

 

O blaid: Cynghorwyr Sir Batrouni, Blakebrough, Chapman, Down, Easson, Farley, Hayward, Howarth, D. Jones, A. Watts, Williams, Wintle.

 

Yn erbyn: Cynghorwyd Sir Burrows, Clarke, Dovey, R. Edwards, D. Edwards, Fox, Greenland, Guppy, Hacket Pain, Hickman, Hobson, Howard, P. Jones, Jordan, Murphy, Powell, Prosser, Smith, Strong, Webb.

 

Gyda 12 o blaid, a 22 yn erbyn, fe drechwyd y cynnig. 

 

Felly, fe benderfynodd y Cyngor gytuno i’r argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Mae Bwrdd Rhaglen Ysgolion y Dyfodol yn awgrymu bod y Cyngor:

 

Ø  Yn cymeradwyo cynnydd i’r cyllidebau cyfalaf canlynol:

o   Ysgol Cil-y-Coed o £34.9 miliwn i £40.175 miliwn

o   Ysgol Trefynwy o £41.049 miliwn i £47.674 miliwn

 

Ø  Cymeradwyo gofyniad cyllid ychwanegol o £11.9 miliwn i gyflwyno’r rhaglen hon, i’w gyllido trwy:

o   Cyfraniad o 50% gan Lywodraeth Cymru - £5.95 miliwn (cadarnhad wedi’i atodi yn Atodiad 1).

o   Cyfraniad o 50% gan y Cyngor - £5.95 miliwn

 

Ø  Cytuno i roi awdurdod dirprwyedig i’r Aelod o’r Cabinet dros Adnoddau, mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog dros Adnoddau a’r Pennaeth Cyllid, i bennu’r pecyn ariannu gorau ar gyfer cyfraniad y Cyngor o £5.95 miliwn gan ystyried:

o   Cyfle i ryddhau asedau ychwanegol dan berchnogaeth y Cyngor i’w gwerthu;

o   Cyfleoedd benthyca darbodus gyda chyfraniadau blynyddol o gyllidebau Ysgol Cil-y-Coed a Threfynwy gan gydnabod gwelliannau arwyddocaol mewn arbed ynni a chael gwared ar unrhyw angen faterol i gynnal a chadw’r adeilad am gyfnod estynedig.

o   Cael ei gynnwys o fewn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig o ddarpariaeth refeniw (£476k) i ariannu’r £5.95 miliwn yn llawn trwy fenthyca darbodus dros 25 mlynedd.

 

Ø  Cytuno y bydd yr arbedion gofynnol yn y gyllideb refeniw i ariannu’r benthyca ychwanegol yn cael eu hystyried fel rhan o’r gyllideb a phroses y Cynllun Ariannol Tymor Canolig

 

Ø  Cytuno i ystyried ymagwedd ddiwygiedig at gyfleusterau hamdden newydd ar gampws Trefynwy fel yr amlinellwyd ym mharagraffau 3.13 a 3.14. Bydd adroddiad pellach yn cael ei darparu i’r Cyngor ym mis Ionawr 2017.

 

Dogfennau ategol: