Agenda item

Drafft Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol Adroddiad Blynyddol Panel Cydnabyddiaeth Cynnar Cymru (IRP). Nodwyd bod y cynigion yn cynnwys cynnydd bach (£100) yng nghyflog sylfaenol Cynghorwyr Sir a dim cynnydd i gyflogau uwch (oni bai am y cynnydd yn y cyflog sylfaenol). Gwahodd adborth ac fe godwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ceisiwyd eglurhad mewn perthynas â’r £150 ar gyfer pob aelod (£500 mewn achosion arbennig).  Esboniwyd mai cynnydd yng nghyflog sylfaenol y Cynghorydd Sir oedd y £100. Gellir dyfarnu’r £150 i gynghorau trefi a chymunedau mewn achlysuron arbennig.

·         Awgrymwyd y dylid cynyddu’r lwfans cyfrifoldebau gofalu o £403. Gan ddatgan buddiant, roedd y Cynghorydd Sir D. Edwards yn cefnogi’r farn bod £403 yn swm annigonol y mis gan nodi bod gofalwyr, ar gyfartaledd, yn cael tâl o £12.00 yr awr a nodwyd y dylid tynnu sylw IRP at hyn. Awgrymwyd y dylid cyflwyno pryderon am lefel y Lwfans Gofalwyr fel rhan o’r ymateb i ymgynghoriad y Panel.

·         Cwestiynwyd y gynrychiolaeth ar Awdurdod y Parciau Cenedlaethol, gan nodi nad oedd yn glir os dylai cynrychiolwyr gynrychioli Sir Fynwy yn gyffredinol neu’n fwy penodol trwy fyw yn a chynrychioli ward sydd o fewn y Parc Cenedlaethol. Cwestiynwyd hefyd os ddylai Sir Fynwy gael mwy na dau gynrychiolydd, fel sydd ganddi ar hyn o bryd, oherwydd mai’r ail ardal fwyaf o fewn y Parc Cenedlaethol ydyw. Darparwyd ymateb bod cyd-daro rhwng cynrychiolaeth leol a chydbwysedd gwleidyddol gan gyfeirio at Ddeddf yr Amgylchedd sy’n nodi y dylai awdurdodau lleol, wrth  gyflwyno enwebiadau i Awdurdod y Parciau Cenedlaethol, benodi aelodau sy’n cynrychioli wardiau o fewn y Parc Cenedlaethol. Nid yw hyn yn mynd y tu hwnt i allu awdurdodau lleol benodi aelodau i bwyllgorau / cyrff ar y cyd i adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol. Mae hyn yn gallu achosi problemau pan nad yw aelodau’n byw yn ardal y Parc Cenedlaethol. Nodwyd ei fod yn debygol y byddai cynrychiolaeth Cyngor Sir Fynwy ar Awdurdod y Parciau Cenedlaethol yn gostwng i un aelod yn y dyfodol.

·         Mynegwyd pryder y byddai’n anodd annog pobl i ddod yn gynghorwyr sir yn y dyfodol gan nodi’r llwyth gwaith amrywiol mewn gwahanol gynghorau. Derbyniwyd bod gan wahanol gynghorau lwythi gwaith, ardaloedd ward a phoblogaethau gwahanol, a chadarnhawyd hefyd bod dim cynghorau trefi na chymunedau yng Nghaerdydd. Soniwyd hefyd am anallu rhai gweithwyr amser llawn i ystyried y rôl yn nhermau ymarferol gyda chyflog sylfaenol o £13,400, a’r tebygolrwydd dilynol o golli allan ar ymgeiswyr o ansawdd da. Teimlwyd bod hwn yn bwynt pwysig i’w godi. Cytunwyd bod yr angen i ddenu pobl addas i rôl cynghorydd sir yn bwynt pwysig gan ychwanegu bod cyd-daro rhwng y dichonoldeb o ddod yn gynghorydd yn nhermau ymarferol a’r pwrs cyhoeddus ac er mwyn cael cynghorwyr amser llawn, byddai cyfyngiadau ariannol yn gofyn bod llai o bobl yn ymgymryd â’r rôl.  

·         Mewn perthynas â’r ymgyrch ar Amrywiaeth, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chyflogwyr i annog, a rhyddhau, gweithwyr i ymgymryd â’u dyletswyddau fel cynghorwyr.

·         Nodwyd bod y Mesur Llywodraeth Leol yn caniatáu i gynghorwyr osod amserau eu cyfarfodydd. Nodwyd y byddai llawer haws i gynghorwyr a oedd yn gweithio amser llawn fynychu cyfarfodydd gyda’r nos. 

·         Awgrymwyd bod Llywodraeth Cymru a’r IRP yn cyfathrebu gyda thrigolion i’w addysgu am rôl y cynghorydd sir, y lwfansau sydd ar gael a’r amser a gyfrannir gan gynghorwyr unigol i wella’r canfyddiadau o’r rôl.

·         Nodwyd na fod digon o gefnogaeth gan Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu gan nodi yn Sir Fynwy, bod un rheolwr craffu â llwyth gwaith gynyddol uchel oherwydd y nifer o graffu sy’n ofynnol (fel y cydnabyddir yn adroddiad yw IRP) a gofynnwyd bod y pwynt hwn yn cael ei ychwanegu i unrhyw adborth. Cydnabuwyd bod galw cynyddol am graffu a tra bod y swyddogaeth yn gweithio’n dda, roedd pryder am faint o gefnogaeth sydd ar gael. Esboniwyd mai’r gefnogaeth a gyfeirir ati yn yr adroddiad oedd y cyfarpar i wneud y swydd (gliniadur, ffôn ayyb) yn hytrach na’r strwythurau staffio o fewn awdurdod.

·         Awgrymwyd y dylai cynghorwyr gael lwfans mynychu, gan nodi bod nifer fechan o aelodau’n mynychu cyfarfodydd yn anaml. Roedd aelod yn cefnogi’r awgrymiad o gyhoeddi lwfansau a phresenoldeb cynghorwyr. Mae ffrydio cyfarfodydd yn fyw yn caniatáu i etholwyr weld a chlywed cyfraniad eu cynrychiolwyr.

·         Cytunwyd ceisio barn aelodau mewn perthynas â’r gofynion cefnogaeth, eu hymwybyddiaeth o lwfansau ac unrhyw sylwadau eraill i lunio ymateb ffurfiol. Mynegwyd pryder na fod aelodau’n defnyddio’r lwfans ar gyfer costau gofal, o bosib oherwydd canfyddiadau negyddol. 

 

 

Dogfennau ategol: