Agenda item

Diweddariad polisïau twristiaeth y Cynllun Datblygu Lleol.

Cofnodion:

Cyd-destun

 

Derbyn adolygiad wedi'i ddiweddaru o bolisïau cynllunio cysylltiedig â thwristiaeth i alluogi ystyried i ba raddau y mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cefnogi amcanion y Cyngor i dyfu ein heconomi twristiaeth.

 

Materion Allweddol:

 

I gynorthwyo ystyriaeth o'r pwnc hwn, caiff yr adroddiad ei rannu'n ddau ran. Mae rhan gyntaf yr adroddiad yn dynodi ceisiadau cynllunio cysylltiedig â thwristiaeth a benderfynwyd yn ystod cyfnod monitro'r ail Gynllun Datblygu Lleol i benderfynu ar effeithlonrwydd y fframwaith polisi presennol mewn galluogi datblygu cysylltiedig â thwristiaeth. Mae'r adran yn defnyddio manylion o Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol i ymchwilio caniatâd cynllunio a dynodi unrhyw geisiadau a wrthodwyd.

 

Mae ail ran yr adroddiad yn diweddaru'r canfyddiadau y rhoddwyd adroddiad arnynt yn flaenorol i'r Pwyllgor Dethol. Mae'n adolygu sut y dylid dehongli'r polisïau Cynllun Datblygu Lleol yng nghyswllt dulliau cynaliadwy o lety twristiaeth ac yn ailystyried i ba raddau y mae'r polisïau yn cefnogi datblygiad o'r fath.

 

Penderfyniadau Rheoli Datblygu

 

Dengys canfyddiadau Adroddiad Monitro Blynyddol 2015-16 y cymeradwywyd 10 cais ar gyfer defnyddiau twristiaeth yn ystod y cyfnod monitro, wyth ohonynt am gyfleusterau llety twristiaeth. Roedd hyn yn cynnwys chwe gosodiad gwyliau (i gyd wedi'u trawsnewid) mewn gwahanol aneddiadau, estyniad i safle'r lluesty gwyliau presennol ym Mharc Gwledig St Pierre ar gyfer pum lluesty a gwesty newydd 60 ystafell wely yn Nhrefynwy (Premier Inn). Gyda'i gilydd, maent yn darparu dros 70 gofod gwely newydd a byddant yn hwb pellach i'r llety ymwelwyr sydd ar gael yn Sir Fynwy. Cymeradwywyd dau gais arall am ddefnyddiau eraill cysylltiedig â thwristiaeth - caffe cerddwyr yn Llanddewi Ysgyryd ac ardal chwarae newydd yng Nghanolfan Ymwelwyr Llandegfedd. Mae nifer y cyfleusterau twristiaeth a gymeradwywyd yn debyg i'r nifer a gymeradwywyd yn ystod y cyfnod monitro diwethaf (10 cais) sy’n dangos fod fframwaith polisi twristiaeth y Cynllun Datblygu Lleol yn gweithredu'n effeithlon i alluogi datblygiad twristiaeth yn y Sir.

 

Mae'n werth nodi na chaniatawyd unrhwy geisiadau oedd yn ymwneud â cholli cyfleusterau twristiaeth yn ystod cyfnod monitro 2015-16. Yn yr un modd, ni wrthodwyd unrhyw geisiadau'n ymwneud â defnyddiau cysylltiedig â thwristiaeth. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol gyda'r Adroddiad Monitro Blynyddol blaenorol lle cymeradwywyd pum cais yn ymwneud â cholli cyfleusterau twristiaeth a gwrthodwyd dau gais cysylltiedig â thwristiaeth. Dengys hyn, ynghyd â nifer y cyfleusterau twristiaeth a gymeradwywyd dros gyfnod monitro 2015-16 ac yn gronnus ers mabwysiadu'r Cynllun, fod y polisïau perthnasol y Cynllun yn gweithredu'n effeithlon gan alluogi datblygiadau o'r fath i ddigwydd yn Sir Fynwy.

 

Fframwaith Polisi Twristiaeth y Cynllun Datblygu Lleol

 

Tyfodd mathau newydd o lety ymwelwyr mewn blynyddoedd diweddar yn cynnwys yurtiau, tepees a phodiau pren e.e. 'glampio' Gan fod dulliau llety o'r fath yn rhai cymharol ddiweddar, ni chânt eu diffinio mewn deddfwriaeth ac nid oes cyfeiriad eglur atynt ym mholisïau'r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol. Yn unol â hynny, mae angen ystyried sut y dylai cynigion o'r fath gael eu hasesu o gymharu â'r fframwaith polisi presennol ac i benderfynu os gellid egluro dehongli/gweithredu polisi drwy gynhyrchu Cynlluniau Cynllunio Atodol. Er y cafodd y mater hwn ei ystyried yn yr adroddiad blaenorol i'r Pwyllgor Dethol, ystyriwyd ei bod yn addas adolygu'r gwaith hwn yng ngoleuni nifer cynyddol o ymholiadau parthed y mathau newydd hyn o lety ymwelwyr.

 

Sefydlwyd Gweithgor Swyddogion i adolygu'r dehongliad o bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol yng nghyswllt mathau newydd o lety ymwelwyr ac ailystyried i ba raddau y mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cefnogi'r maes cynyddol hwn o dwristiaeth gynaliadwy.

 

Gosodir ystyriaethau polisi allweddol a pholisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer pob math o lety twristiaeth. O fewn ffiniau anheddiad, mae datblygiad yn gyffredinol dderbyniol mewn egwyddor yn amodol ar ystyriaethau arferol am gyfleusterau a materion polisi megis risg llifogydd.

 

Yn gryno, y man cychwyn yw Polisi S11 sy'n cefnogi mathau cynaliadwy o dwristiaeth yn yr un modd â Pholisi S8. Mae cynigion o'r fath yn dderbyniol mewn egwyddor os na chânt eu hatal gan Bolisïau T1, T2 neu T3. Byddai cynigion yn cael eu hasesu yn erbyn polisïau eraill, er enghraifft niwed i'r dirwedd (LC5) neu wrthwynebiadau diogelwch ffordd ac ati.

 

Mae T1 yn caniatau ar gyfer carafanau teithiol a phebyll.

Mae T2 yn caniatáu adeiladu hunanddarpar newydd mewn amgylchiadau penodol:

 

-           Ategol i sefydlu gwestai canolig neu fawr.

-           Ailddefnyddio neu drosi adeiladau presennol yng nghefn gwlad yn amodol ar H4.

-           Ailadeiladu sylweddol o fewn libart fferm lle mae'n cydymffurfio gyda RE3 arallgyfeirio amaethyddol.

 

Mae T3 yn caniatáu llety ymwelwyr a chyrsiau golff lle mae'n cefnogi'r economi twristiaeth, yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl.

 

Daw blociau amwynder hefyd o fewn S11 ac S8 yn amodol ar niwed i'r tirwedd.

 

Yn gyffredinol, dylai cynigion megis yurtiau/cutiau bugeiliaid gael eu tynnu i lawr neu eu symud i storfa allan o'r tymor. Fodd bynnag, dylid ystyried os oes angen hyn ar sail achos wrth achos yn dibynnu ar ddifrod i'r tirwedd ac effaith gweledol. Mae angen ystyried amodau cynllunio i roli nifer yr unedau, lleoliad, ymddangosiad/math o uned a defnydd.

 

Yn groes i rai o'r canfyddiadau a adroddwyd yn y Pwyllgor Dethol blaenorol ar y mater, canfu'r adolygiad fod fframwaith polisi'r Cynllun Datblygu Lleol mewn gwirionedd yn gyffredinol gefnogol i fathau cynaliadwy o lety twristiaeth, yn cynnwys 'glampio',. Byddai cynigion o'r fath yn dal i fod yn amodol ar ystyriaethau polisi eraill perthnasol (tirwedd, priffyrdd, amgylchedd naturiol/hanesyddol). Fodd bynnag, y man cychwyn ar gyfer asesu cynigion o'r fath yw Polisi Strategol S11 (Economi Ymwelwyr) sy'n cefnogi ac yn ceisio galluogi darparu datblygiad twristiaeth gynaliadwy yn Sir Fynwy.

 

Fodd bynnag, penderfynodd yr adolygiad hefyd y byddai paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol yn fuddiol er mwyn rhoi eglurhad i swyddogion a chwsmeriaid ar ddehongli/gweithredu'r fframwaith polisi presennol yng nghyswllt cynigion o'r fath.

 

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i weithredu polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol yng nghyswllt math arall o lety twristiaeth na chyfeirir atynt yn benodol ym mholisïau'r Cynllun Datblygu Lleol, sef carafanau sefydlog. Mae polisi strategol S11 yn annhebyg o gefnogi cynigion o'r fath gan ei bod yn amheus y gellid ystyried carafanau sefydlog yn fath cynaliadwy o lety twristiaeth.

 

Craffu Aelod:

 

Holodd Aelod am y trefniadau ar gyfer cerbydau'n ymweld â safleoedd. Esboniodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle fod agweddau'n amrywio; mae gan rai safleoedd le yn ymyl yr uned a logwyd a gall eraill fod â maes parcio bach wedi'i dirlunio mewn lleoliad heb fod yn amlwg. Yn gyffredinol mae natur profiadau math glampio yn gwrthannog cerbydau er mwyn cadw amgylchedd agored a diogel. Cadarnhawyd fod hwn yn faes twf o fusnes twristiaeth.

 

Holodd Aelod am y farchnad am gabanau pren yn y Sir gan nodi fod yr unedau hyn yn boblogaidd yn Fforest y Ddena. Cadarnhawyd fod diddordeb achlysurol fel y rhestrir yn yr adroddiad ategol. Trafodwyd polisi ar gyfer y categori yma o uned gan nodi y gall cefnogaeth ar gyfer y cais amrywio. Er enghraifft, cefnogid cais os yw wedi'i gysylltu gyda gwesty canolig neu fawr ond na fedrid ei gefnogi fel rhan o arallgyfeirio amaethyddol gan y byddai hyn yn cyfrif fel adeiladau newydd.

 

Holwyd os oedd y polisi yn rhy llym yn nhermau arallgyfeirio amaethyddol. Er na fyddai'n bosibl newid Canllawiau Cynllunio Atodol, cytunwyd y byddai'n bosibl egluro dehongliad ac edrych ar bolisi'r dyfodol dan yr adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ac i annog cyfleoedd twristiaeth cydnaws mewn lleoliadau derbyniol.

 

Holodd y Rheolwr Strategol Bwyd a Thwristiaeth sut y byddai buddsoddwyr posibl yn cael eu hysbysu am bosibilrwydd hyblygrwydd mewn amgylchiadau eithriadol. Cadarnhawyd y gellid ystyried y posibilrwydd hwn yn yr ymweliad cyngor cyn gwneud cais sy'n edrych ar geisiadau posibl ar sail achos wrth achos tra'n cadw rheolaeth i wrthod cais. Cytunwyd y byddai canllawiau cynllunio atodol yn ddefnyddiol a chefnogwyd cynhyrchu taflen yn crynhoi'r prif bwyntiau.

 

Holodd Aelod am bolisi Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yng nghyswllt ceisiadau a wrthodwyd ac a gaiff yn awr eu galw gan y Gweinidog oherwydd risg tybiedig llifogydd. Cyfeiriodd yr Aelod at y risg llifogydd isel ym misoedd twristiaeth yn yr haf gan danlinellu colled bosibl mantais economaidd.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y cyflwynir Canllawiau Cynllunio Atodol i'r Pwyllgor ym mis Chwefror 2017.

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Croesawodd y Cadeirydd y bwriad i adolygu’r Canllawiau Cynllunio Atodol a hefyd yr ymrwymiad i gysylltu’n rhagweithiol gyda busnesau i annog cyfleoedd busnes twristiaeth. Cyfeiriodd at y cynnig i gynhyrchu taflen a chynlluniau erial. Canmolodd y Cadeirydd y cydweithio cadarnhaol ar draws adrannau er budd y Sir.

 

 

Dogfennau ategol: