Agenda item

Perfformiad Twristiaeth Sir Fynwy 2015.

Cofnodion:

Cyd-destun:

Rhoi cerdyn adrodd i Aelodau sy'n ystyried Perfformiad Twristiaeth Sir Fynwy am 2015 o gymharu gyda'r amcanion a'r canlyniadau a nodir yng Nghynllun Gwella'r Cyngor.

 

MaterionAllweddol:

Mae'r cerdyn adroddiad yma yn rhoi sylw i berfformiad o gymharu â dangosyddion perfformiad allweddol 2015. Mewn hinsawdd lle mae adnoddau dan bwysau cynyddol, bu'n hollbwysig canolbwyntio'n gadarn ar flaenoriaethau a chynyddu gweithio partneriaeth a chyfleoedd i gael mynediad i gyllid allanol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Strategol Bwyd a Thwristiaeth.

 

CraffuAelodau

 

Gofynnodd Aelod am ddadansoddiad o gyllideb y Canolfannau Croeso o £42,358 ac effaith hynny ar y gwahanol Ganolfannau Croeso yn y Sir. Eglurwyd mai cyllideb y llynedd oedd y ffigur yr holwyd amdano a bod cyfraniad is o £18,000 i Ganolfannau Croeso am y flwyddyn bresennol. Oherwydd y costau gweithredol ar gyfer Canolfan Croeso Cas-gwent o £65,000 (y derbynnir cyfraniad o £5,000 ato gan Gyngor Tref Cas-gwent), bu angen gwneud cyfraniad is i Ganolfan Croeso y Fenni eleni tra cymerir camau i symud Canolfan Croeso Cas-gwent i fodel partneriaeth y Fenni. Gofynnwyd am wybodaeth ar gostau llawn Canolfan Croeso y Fenni ac ychwanegir eitem agenda ac adroddiad i'r rhaglen waith yn unol â hynny.

 

Roedd aelodau'n gwerthfawrogi'r wybodaeth leol a'r croeso a roddir gan Canolfannau Croeso yn ogystal ag adnoddau digidol. Pwysleisiwyd y gellid priodoli'r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a gofnodwyd i'r oriau agor cyfyngedig mewn ymateb i doriadau cyllideb. Cytunwyd ar yr ymrwymiad i ddynodi partneriaid addas a datblygu gweithio partneriaeth ar gyfer Canolfan Croeso Cas-gwent.

 

Cytunwyd ystyried dichonolrwydd dod yn Ardal Gwella Busnes Twristiaeth. Esboniodd Aelod y gwnaed gwaith i gylchredeg i fasnachwyr yn y Fenni, gan nad oedd cymdeithas fasnach ar gael, i hyrwyddo cyfleoedd twristiaeth.

 

Holodd y Cadeirydd am y cyllid allanol a dderbyniwyd, yn neilltuol, os gall awdurdodau lleol wneud cais am y Cynllun Cefnogi Buddsoddiad Twristiaeth (TISS). Dywedodd y Swyddog y gall awdurdodau lleol wneud cais i unrhyw ffynhonnell cyllid perthnasol yn ôl ei amcanion twristiaeth, a rhoddodd enghreifftiau o'r cyllid a sicrhawyd o e.e. Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol, Enillion Cyflym Teithio Llesol a'r Cynllun Datblygu Lleol. Eglurwyd fod elfennau o TISS y gall y sector cyhoeddus wneud cais amdanynt nad ydynt ar gael ar hyn o bryd ond caiff hyn ei fonitro. Hysbyswyd aelodau y comisiynwyd adolygiad o'r Cynllun Cyrchfan ac y bydd blaenoriaethau a chynlluniau'r cynllun newydd yn rhoi gwybodaeth ar gyfer y cylch nesaf o geisiadau cyllid.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am yr amserlenni ar gyfer datblygu'r Cynllun Cyrchfan newydd a dywedwyd wrtho fod yn rhaid ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2017.  Argymhellwyd y dylid ymgynghori gydag Aelodau ar y blaenoriaethau ar y cyfle cyntaf.

 

Atgoffwyd Aelodau a swyddogion am y cyfnod purdah cyn etholiadau mis Mai 2017. Cytunwyd ymgynghori ag Aelodau, efallai ar ffurf gweithdy, ar ôl ymgysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol.

 

Croesawodd Aelod faint o ddata sydd yn yr adroddiad a rhagwelodd y dylai nifer yr ymwelwyr gynyddu yn y dyfodol gan gofio am yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a'r Premier Inn newydd yn Nhrefynwy y flwyddyn nesaf yn tanlinellu pwysigrwydd twristiaeth a chefnogaeth barhaus i Ganolfannau Croeso  i economi'r Sir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd y Swyddog fod y data defnydd a gesglir yn ddienw ac yn gyffredinol fod llety â gwasanaeth yn y Sir yn perfformio'n gyfartal neu'n well na gweddill Cymru, gan nodi fod problemau capasiti pan gynhelir digwyddiadau mawr.

 

Atgoffwyd aelodau fod rôl y Pwyllgorau Craffu yn ddiduedd ac yn ychwanegu gwerth i'r broses ddemocrataidd.

 

Soniodd Aelod am bwysigrwydd cymryd camau priodol o fewn cyllidebau tra bod yr hinsawdd economaidd presennol yn annog ymwelwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig a hefyd i wneud cynlluniau i sicrhau y cedwir y gwelliannau a wnaed pan fydd cyflwr yr economi'n gwella.

Text Box: Crynodeb y Cadeirydd Nododd y Cadeirydd mai Canolfannau Croeso fu prif ffocws trafodaeth a chytunwyd gofyn am adroddiad pellach i ystyried adnoddau a dyfodol y Canolfannau Croeso. Cytunwyd y byddai Aelodau yn cynnal gweithdy i ystyried y Cynllun Cyrchfan ar ôl derbyn gwybodaeth gan randdeiliaid allweddol. Nodwyd fod trafodaeth ehangach o faterion cyllid a chydnabyddiaeth y dylid rhoi ystyriaeth i ffactorau economaidd allanol yn y cynlluniau cyfredol a chynlluniau'r dyfodol. Croesawyd y ffigurau a'r data a roddwyd a diolchwyd i'r Swyddogon am fynychu a rhoi gwybodaeth gynhwysfawr.

 

 

Dogfennau ategol: