Agenda item

Velothon 2016 Ôl-drafod.

Cofnodion:

 

Cyd-destun:

 

Rhoi adborth ar Velothon Cymru 2016.

 

Materionallweddol:

 

·         DdyddIau 19 Tachwedd 2015 cytunodd y Cyngor i gefnogi Velothon 2016 i'w alluogi i deithio drwy Sir Fynwy ar ôl derbyn sicrwydd y byddai'r llwybr yn cael ei ddiwygio ac y byddai ymgynghori a chyfathrebu helaeth gyda'r rhai yr effeithir arnynt yn ganolog i'w gwaith cyn y digwyddiad.

 

·         Sefydlwyd gr?p llywio cyflenwi gweithredol i oruchwylio cynllunio digwyddiad eleni. Roedd y gr?p yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r pump awdurdod lleol, gwasanaethau argyfwng, Llywodraeth Cymru, British Cycling, Run4Wales a phartneriaid cyflenwi allweddol. Sefydlwyd is-grwpiau ychwanegol i edrych yn benodol ar farchnata a chyfathrebu, logisteg ras a logisteg digwyddiad.

 

·         Sefydlodd Sir Fynwy hefyd gr?p ychwanegol 'Ymyrryd ar Wasanaethau Mewnol' a ddatblygodd drefniadau i gael eu defnyddio gan gynrychiolwyr y Cyngor Sir yn Rheoli Digwyddiad Velothon 2016. Paratodd y gr?p ddogfen yn rhoi manylion gwasanaethau'r Cyngor Sir y byddai'r Velothon yn ymyrryd arnynt, trefniadau y cytunwyd arnynt yng nghyswllt parhad gwasanaeth, strwythurau 'Gorchymyn a Rheoli' y digwyddiad, pwyntiau ELAPS, manylion cyswllt allweddol a sut y byddai'r rhain yn cydweddu â'r trefniadau digwyddiadau mawr presennol pe byddai digwyddiad sylweddol.

 

·         Ermwyn sicrhau y caiff y gwersi o Velothon Cymru 2016 eu casglu'n llawn ac y gweithredir camau i helpu gwella cynllunio sefydliadol a rheoli digwyddiadau, casglodd Gyngor Sir Fynwy adborth gan y rhanddeiliaid a phartneriaid i roi adborth i'r trefnwyr.

 

·         Roeddtrefniadaeth y digwyddiad yn 2016 yn welliant sylweddol ar y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd pryderon yn dal i fod am faint o amser yr oedd ffyrdd ar gau, diffyg cyfleusterau toiled, sbwriel a'r manteision i'n Sir o gynnal y ras. Trafodwyd y materion hyn yn y Cyngor yng nghyfarfodydd Gorffennaf a Medi 2016. Fel canlyniad, cytunwyd mai dim ond pe byddai'r ffyrdd yn cael eu hailagor yn dilyn y ras cyfranogiad torfol ac y gweithredid rhaglen dreigl o gau ffyrdd cyn y ras y byddai'r Cyngor yn cefniogi'r digwyddiad eleni. Yn ychwanegol byddai angen i'r trefnwyr gadarnhau gyda'r sawl sy'n cymryd rhan na ddylent basio d?r ar ymyl ffyrdd a rhoi cyfleusterau digonol i sicrhau na fyddai angen yr ymddygiad hwn. Mae swyddogion yn gweithio gyda threfnwyr Velothon i gyflawni'r gofynion hyn.

 

CraffuAelodau

 

Codwyd y pwyntiau dilynol ar ôl ystyried yr adroddiad:

 

·         Gofynnodd Aelod pa fanteision y mae'r Velothon yn eu rhoi i etholwyr Sir Fynwy. Esboniodd Pennaeth Cyflenwi Cymunedol y tynnwyd sylw at y pwynt hwn fel mater o gonsyrn yn yr adroddiad. Nodwyd mai Caerdydd sy'n cael y brif fantais gan mai yno mae'r ras yn cychwyn ac yn gorffen. Ychwanegwyd fod manteision llai diriaethol yn Sir Fynwy. Rhoddwyd yr enghraifft fod y sawl sy'n cymryd rhan yn y ras yn ymarfer yn yr ardal ac y gallant aros am seibiant gan efallai ddefnyddio busnesau lleol. Gallent ddychwelyd i'r ardal fel ymwelwyr ond nid oes unrhyw dystiolaeth galed i gefnogi budd economaidd. Tanlinellwyd pwysigrwydd cael tystiolaeth o fudd economaidd i gefnogi penderfyniad y Cyngor i barhau i ymwneud gyda'r digwyddiad.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y gweithredir rhaglen dreigl o gau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 2017. Cafwyd diweddariad hefyd y byddai llwybr byrrach ar gael ar gyfer y cyfranogwyr hynny sy'n dymuno osgoi'r Tymbl neu'r Blorens. Hysbyswyd aelodau am y llwybr diwygiedig. Dywedwyd fod yr Aelod Lleol yn cytuno gyda'r cynlluniau ar gyfer y llwybr byrrach. Gofynnwyd i'r trefnwyr gymryd rhan mewn trafodaethau cynnar gydag unrhyw fusnesau y gellid effeitho arnynt, a gofynwyd am sicrwydd hefyd y caiff y ffordd ei hailagor cyn gynted â bod y ras cyfranogiad terfynol wedi mynd heibio. Nodwyd fod y trefnwyr wedi cyflawni'r gofynion a osodwyd gan y Cyngor, felly bydd y ras yn symud ymlaen drwy'r Sir yn 2017, a hysbysir pob Aelod.

 

·         Dywedodd Aelod fod yr adroddiad yn trafod problemau a datrysiadau, a holodd pam fod y digwyddiad a datblygu'r Sir fel cyrchfan seiclo yn cael ei gefnogi. Esboniodd y Rheolwr Strategol Bwyd a Thwristiaeth y cydnabyddir twristiaeth fel marchnad dwf a dynodwyd y Sir fel cyrchfan boblogaidd ar gyfer seiclo fel y dangosir gan nifer y seiclwyr sydd i'w gweld ar ein ffyrdd. Esboniwyd bod Gr?p Seiclo Strategol sy'n trafod cyfleoedd i ddatblygu'r cynnig cynnyrch i roi profiad cadarnhaol i seiclwyr. Ychwanegwyd y gwnaed gwaith fel rhan o brosiect rhanbarthol i ddatblygu pecyn i ddynodi cyfleoedd i ddatblygu twristiaeth seiclo o fewn busnes yn cynnwys dynodi unrhyw rwystrau. Ailadroddwyd ei bod yn hanfodol sefydlu tystiolaeth o fudd economaidd i gefnogi datblygiad y Sir fel cyrchfan seiclo ansawdd uchel. Cytunwyd cylchredeg adroddiad ar bwnc datblygu twristiaeth seiclo yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae'r adroddiad yn ymchwilio cyfleoedd ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn hwyluso twf marchnad.

 

·         Awgrymwyd ei bod yn annigonol dim ond cydnabod adborth fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Eglurodd y Cadeirydd rôl craffu'r pwyllgor a'i allu i ychwanegu gwerth, awgrymiadau ac argymhellion. Dywedwyd nad oedd digon o ddata i roi sicrwydd a bod angen ystyried adenilliad ar fuddsoddiad, yr effaith ar adnoddau a buddion i'r Sir yn y dyfodol. Cytunwyd gofyn i Lywodraeth Cymru a Run4Wales gynnal dadansoddiad economaidd o'r digwyddiad i roi data i'w gynnwys mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunwyd hefyd i ystyried yr adroddiad ar ddatblygu twristiaeth seiclo yn y cyfarfod nesaf er mwyn cynnal dadansoddiad cost budd.

 

·         CododdAelod bryder am y twf mewn seiclo a beicio modur yn y Sir a rhai o'r effeithiau negyddol ar breswylwyr. Dywedwyd, er yn cefnogi'r ddau weithgaredd ac yn gwerthfawrogi'r buddion i fusnesau yn y Sir, bod angen gwybodaeth ar fuddion cost gweithgareddau a digwyddiadau i roi cyfiawnhad i'r rhai yr achosir anghyfleuster iddynt. 

 

·         Esbonioddyr Aelod Cabinet y bydd yn anodd paratoi unrhyw beth heblaw tystiolaeth anecdotaidd o fudd economaidd ac y bydd yn ofynnol, er mwyn i'r Velothon barhau ar ôl 2017, i'r trefnwyr roi tystiolaeth sylweddol o'r adenilliad o'r digwyddiad yn y dyfodol.

 

·         Soniwydfod manteision iechyd seiclo, a'r digwyddiad yn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan, yn agweddau pwysig i'w hystyried.

 

·         DywedoddAelod fod sylw ar y teledu yn dangos cefn gwlad Sir Fynwy yn hysbysebu da ond ychwanegodd nad yw'r holl Sir (e.e. Trefynwy) yn cael budd o'r digwyddiad.

 

·         Cydnabuwydgwaith y swyddogion oedd yn ymwneud â'r digwyddiad.

 

Text Box: Crynodeb y Cadeirydd • Dywedodd y Cadeirydd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu adenilliad ar fuddsoddiad a dynodi buddion y digwyddiad i'r Sir. I wneud hynny, gofynnir i drefnwyr roi adroddiadau ariannol mesuradwy i ddangos yr adenilliad a'r buddion i'r Sir o ddigwyddiad y flwyddyn nesaf. • Cytunwyd ystyried yr adroddiad ar ddatblygu twristiaeth seiclo yn Ne Ddwyrain Cymru yn y cyfarfod nesaf. • Cytunwyd edrych eto ar ein methodoleg ein hunain i ddynodi budd economaidd yn cynnwys tystiolaeth anecdotaidd i roi sicrwydd i breswylwyr drwy ddarparu gwybodaeth lawn.

 

 

Dogfennau ategol: