Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyniwydyr Adroddiad Blynyddol ar gynnydd a'r hyn a gyflawnodd gr?p Cynnig Integredig i Ieuenctid Sir Fynwy.
MaterionAllweddol:
· Cadwydmonitro a chraffu chwarterol ar raglenni gwaith is-gr?p gan sicrhau y caiff dangosyddion perfformiad y Cynllun Integredig Sengl eu cyflawni.
· Mae gan y Cynnig Integredig i Ieuenctid strwythurau llywodraethiant ac adrodd clir drwy Fwrdd Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
· Mae gan y Cynnig Integredig i Ieuenctid brotocolau ar ddiogelu ac mae ganddo gronfa ddata o holl aelodau'r gr?p ar gyfer cliriad gan y DBS, hyfforddiant a pholisïau a weithredir, ac mae'n gyfredol ac yn ddilys.
· Aelodaeth o'r Cynnig Integredig i Ieuenctid wedi ei gynnal a thyfu i ysgogi momentwm. Mae cynrychiolaeth dda o bob partner ar y gr?p llawn a'r is-grwpiau sy'n galluogi rhannu'r gwaith a gweithredu gweledigaeth y Bwrdd Gwasanaethau Lleol a blaenoriaethau'r Cynllun Integredig Sengl.
· Mae gwaith parhaus y gr?p Cynnig Integredig i Ieuenctid wedi arwain at ostwng dyblygu a gwella darpariaeth gwasanaethau gyda ffocws i bobl ifanc.
· Parhau i ddatblygu 'prosiectau cymunedol' mewn ardaloedd lle mae prosiectau arbenigol wedi'u targedu yn cefnogi pobl ifanc, yn arbennig ar faterion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweithgaredd troseddol a bwlio.
· Parhau i gyfrannu tuag at gynnydd cyrhaeddiad a phresenoldeb rhai yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 ar draws Sir Fynwy a pharhau i ddarparu gwasanaethau sy'n gostwng y ffigurau heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth - sy'n 1.7% ar hyn o bryd.
· Gyda'i gilydd, mae'r holl wasanaethau cefnogaeth ieuenctid, fel rhan o'r Cynnig Integredig i Ieuenctid, wedi gweithio gyda 6907 o bobl ifanc unigol rhwng 11-25 oed yn 2015/16 (39.9% o'r boblogaeth 11-25).
· Mae'rCynnig wedi casglu gwybodaeth gan bartneriaid i'w bwydo i'r Cynllun Integredig Sengl i roi tystiolaeth glir ar y canlyniadau a gyflawnwyd.
· Mae'rPrif Swyddog a hefyd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc yn mynychu ac yn derbyn gwybodaeth bob chwarter ar waith y Cynnig Integredig i Ieuenctid.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid yr wybodaeth ddilynol i'r Pwyllgor Dethol parthed deilliannau cadarnhaol y Gwasanaeth Ieuenctid dros y flwyddyn flaenorol:
· Parhau i ddatblygu a chydweithredu i sicrhau y cedwir y gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc
· Cynydduprosiectau cymunedol drwy weithio partneriaeth.
· Cynnaldigwyddiad ymwybyddiaeth diogelwch ffordd yn yr haf yn y Fenni gyda nifer dda o'r cyhoedd a chyrff gwasanaethau cyhoeddus yn bresennol.
· Cynnal digwyddiad gwirfoddoli aml-asiantaeth yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent yn Ebrill 2016 gyda 31 o sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Fel canlyniad, mynegodd 97 o wirfoddolwyr ddiddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc.
· Parhau i ddarparu gwasanaethau arbenigol i'r bobl ifanc fwyaf bregus yn Sir Fynwy.
· Mae'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol yn gynllun ar y cyd rhwng Gwasanaethau Hamdden, Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid a'r Gwasanaeth Ieuenctid. Cyflwynwyd hyn yn y pedair ysgol gyfun ac Ysgol T? Mounton dros y 12 mis blaenorol. Daeth y rhaglen hon i ben erbyn hyn. Mae'r prosiect ar gael ar gyfer ysgolion os dymunant hynny ond bydd yn rhaid iddynt dalu am y rhaglen. Sicrhawyd cyllid arall i ddarparu'r gwasanaeth mewn ysgolion cynradd, yn arbennig yn gweithio gyda myfyrwyr blwyddyn 6 gyda golwg ar eu helpu yn ystod y cyfnod pontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
· Ymgysylltugyda phobl ifanc yng nghyswllt addysg a hyfforddiant.
· LleisiauIfanc - mae'n bwysig y caiff pobl ifanc eu clywed.
· Cydweithio gyda gwasanaethau iechyd meddwl i roi gwybodaeth i bobl ifanc ar ble i fynd i gael help.
· Mae un o aelodau'r Cyngor Ieuenctid o Sir Fynwy bellach yn llysgennad ar raglen Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Llywodraeth Cymru a chafodd y dasg o weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau fod pobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses.
· Llwyddo i gadw lefel dda o ymgysylltiad gyda phobl ifanc.
· Wedi cael craffu a her cyson ar yr is-grwpiau drwy'r Cynnig Integredig i Ieuenctid a Gr?p Rheoli Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
· Tairo'r prif flaenoriaethau yr edrychir arnynt dros y 12 mis nesaf yw:
- Mapio cyllid y Gwasanaeth Ieuenctid ar draws Sir Fynwy.
- Yr archwiliad diogel gan y Tîm Diogelu sy'n debygol o gael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2016.
- Gwerthuso'r gwaith a wneir, gan flaenoriaethu ardaloedd ar gyfer y flwyddyn nesaf fel y medrant eu halio i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Craffuaelodau:
Nodwyd y pwyntiau dilynol:
· Nid oes unrhyw dystiolaeth sylweddol yn yr adroddiad. Yn y dyfodol, byddai'n fanteisiol i'r Pwyllgor Dethol pe gallai adroddiadau gynnwys mwy o ddata.
· Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn cyfeirio at gysylltiadau unigol ar gyfer pob maes gwasanaeth fel rhan o'r Cynnig Integredig i Ieuenctid. Mae Heddlu Gwent wedi gwneud 1000+ cyswllt gyda phobl ifanc. Nodwyd fod y ffigur yma'n cyfeirio at swyddogion cydlynu ysgolion Heddlu Gwent a'r tîm plismona cymdogaeth. Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio'n agos iawn gyda'r timau hyn. Felly, mae'r 1000+ yn cyfeirio at y gwaith cadarnhaol gyda phobl ifanc.
· Ystyriwyd fod angen i waith Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy fod ar gael yn rhwyddach yn yr adroddiad. Nodwyd fod nifer o gynghorau tref a chymuned yn Sir Fynwy a fyddai'n hoffi buddsoddi'n ariannol yn y Gwasanaeth Ieuenctid gan y gwyddant fod gwasanaethau mewn risg oherwydd y dirywiad yn y cyllid grant sydd ar gael. Hefyd, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r adroddiad ddynodi unrhyw bwyntiau pwysau sylweddol a brofir gan y Gwasanaeth Ieuenctid.
DywedoddRheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid nad oedd y Cynnig Integredig yn ei le i roi'r wybodaeth a geisiwyd gan fod Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy yn un o 32 asiantaeth lle cynhelid gwaith partneriaeth. Fodd bynnag, gellid cyflwyno adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Ieuenctid i gyfarfod yn y dyfodol o'r Pwyllgor Dethol a fyddai'n rhoi manylion y gwaith a wneir yn benodol gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy.
· Mewnymateb i gwestiynau gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid yr wybodaeth ddilynol:
Cysylltiadau
Mae gwahaniaeth rhwng person unigol a chyswllt. Mae cyswllt unrhyw beth yn ymwneud â thair awr a mwy gyda pherson ifanc. Y cysylltiadau a ddynodwyd yn yr adroddiad yw pobl ifanc sydd wedi cofrestru gyda phob maes gwasanaeth.
Deilliannaumeddal
Mae'r rhain yn anodd eu mesur. Mae gan y Gwasanaeth Ieuenctid effaith ar fywydau pobl ifanc, weithiau mae hyn ar unwaith, weithiau gall fod mewn 12 mis neu hyd yn oed yn fwy. Mae'n dibynnu ar daith y person ifanc unigol. Mae 11 cwnselydd ar gael drwy'r Gwasanaeth Ieuenctid. Mae timau o fewn ysgolion uwchradd a chynradd. Mae gan hyn adnoddau da.
Darpariaeth i ieuenctid mewn ardaloedd gwledig
Cefnogaeth i glybiau ieuenctid os ydynt yn gofyn am gefnogaeth gan roi hyfforddiant, arweiniad ac adnoddau.
Busnescraidd statudol y Gwasanaeth Ieuenctid
Y busnes craidd yw sicrhau fod pobl ifanc yn ymwneud â gweithgaredd ystyrlon yn eu hamser rhydd, rhywle y gall pobl ifanc fynd i gael cyngor, gwybodaeth, help a chefnogaeth. Gyda gwerth ychwanegol fel rhaglenni ysgol, mae'r rhain yn rhaglenni a gyllidir gan grant sy'n ychwanegu at yr hyn y mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei ddarparu ar gyfer pobl ifanc.
Casgliad y Pwyllgor:
Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb fel sy'n dilyn:
· Roedd y Pwyllgor Dethol wedi derbyn adroddiad diddorol a defnyddiol.
· Dylaiadroddiadau yn y dyfodol gynnwys data sylweddol ynghyd â'r astudiaethau achos.
· Yn y dyfodol dylid cael Adroddiad Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy wrth ochr yr adroddiad Cynnig Integredig i Ieuenctid er mwyn rhoi trosolwg cyflawn.
· Annogmwy o gyfathrebu gyda'r cynghorau tref a chymuned yn Sir Fynwy. |
Dogfennau ategol: