Cofnodion:
Ystyriwyd y cynnig a gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth, gyda'r 22 amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Mai 2016 gydag argymhelliad i'w wrthod. Yn y cyfarfod bu Aelodau yn pwyso a mesur ac ystyried goblygiadau risg llifogydd y datblygiad yn erbyn buddion economaidd adeiladu gwesty a sba yn y safle. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn rhoi buddion economaidd sylweddol i'r ardal a gwella golwg y safle.
Felcanlyniad i fuddion sylweddol neilltuol y datblygiad arfaethedig, ni dderbyniwyd yr argymhelliad i wrthod y cais ar sail llifogydd.
Hysbyswydaelodau fod gwrthwynebiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau. Caiff y manylion eu hamlinellu mewn gohebiaeth hwyr.
Yropsiynau sydd ar gael i Bwyllgorau Cynllunio yw:
• Rhoi caniatâd tebyg i'r penderfyniad blaenorol gydag amod ychwanegol yn gofyn am fanylion y cynllun rheoli llifogydd.
• Gwrthod y cais megis yn adroddiad y swyddog.
• Gohirio i wneud modelu pellach.
Amlinelloddyr Aelod lleol dros Wyesham, oedd yn mynychu'r cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:
• Gohiriwyd penderfyniad y cais am chwe mis.
• Y fantol yw pwyso a mesur y risg llifogydd posibl yn erbyn buddion economaidd y cynnig.
• Fel aelod Ward, mae'r buddion economaidd yn bwysicach na'r risg llifogydd posibl.
• Mae angen mawr am swyddi yn Nhrefynwy a bydd y cynnig yn dod â swyddi i'r ardal. Cyflawnir buddion eraill i'r ardal megis twristiaeth a hyrwyddo Sir Fynwy.
• Gofynnodd yr Aelod lleol i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried cymeradwyo'r cais i alluogi sicrhau buddion cadarnhaol i'r dref.
HysbysoddPennaeth Cynllunio, Tai a Rheoli Lle yr Aelodau pe byddai'r Awdurdod o blaid cymeradwyo'r cynllun y byddai'n rhaid i ni fel Awdurdod ei gyfeirio at Weinidog Llywodraeth Cymru i weld os yw'n dymuno galw'r cais i mewn oherwydd natur y datblygiad a risg llifogydd.
Mae'rCadeirydd wedi caniatáu siarad cyhoeddus ychwanegol yng nghyswllt y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd a Cyfoeth Naturiol Cymru i annerch y Pwyllgor. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthod y cais ond roedd yr ymgeisydd wedi'i dderbyn.
Mynychodd Ms. J. Kitcher, Arweinydd Datblygu Prosiect ar gyfer y Gwesty a'r Sba, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:
• Roedd yr ymgeisydd yn ystyried bod cymeradwyaeth unfrydol i'r cais ym Mai 2016 yn ffafriol iawn.
• Mae'r modelu risg llifogydd wedi awgrymu na fyddai effeithiau niweidiol mewn man arall ac roeddent yn hyderus y byddai'r modelu llifogydd yn cadarnhau hyn.
• Ystyriai'r Ymgeisydd fod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru yn afresymol, er bod yr ymgeisydd yn derbyn rôl Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhoi cyngor technegol am lifogydd a risg llifogydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd tu hwnt i'r eglurhad y gofynnodd y Pwyllgor amdano ac yn bod yn farnwr ac yn rheithgor ar y mater. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n ei gwneud yn glir yn eu gohebiaeth mai mater i'r Awdurdod Cynllunio yw penderfynu os cymeradwyir y cais ond drwy barhau i gwestiynu modelu llifogydd yr ymgeisydd a methu cadarnhau na chynyddir risg llifogydd mewn man arall, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gadael y swyddogion cynllunio heb fawr neu ddim dewis heblaw argymell gwrthod. Fodd bynnag, os yw'r Pwyllgor Cynllunio yn dal i deimlo na all gymeradwyo'r cais, mae'r ymgeisydd wedi gofyn am ohirio'r cais eto ac egluro sut y byddai'r atebion i unrhyw gwestiynau neu geisiadau pellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hasesu a gosod amserlen ar gyfer y broses er mwyn osgoi oedi hyd yn oed ymhellach a allai roi'r prosiect mewn risg.
• Cafodd buddion economaidd y datblygiad gwesty a sba eu nodi'n dda drwy gydol y cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a'r broses cynllunio. Mae'r ymgynghorwyr modelu llifogydd wedi ateb cwestiwn y Pwyllgor Cynllunio a chadarnhau na chaiff risg llifogydd ei gynyddu mewn man arall.
• Bu'r safle diffaith yn segur i raddau helaeth am y naw mlynedd flaenorol, mae angen atgyweirio sylweddol a defnydd mwy cadarnhaol a chynaliadwy. Mae'r gwesty a'r sba yn cynnig cyfle adfywio sylweddol i Drefynwy a chyfle cryf i Heol Hadnock symud ymaith o'i orffennol diwydiannol.
• Byddai'r gwesty a'r sba yn helpu i gyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru am westai moethus gyda chyfleusterau sba a llesiant a bydd yn creu cyrchfan twristiaeth rhagorol ar gyfer Trefynwy a'r Sir.
Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, mynegodd Aelodau eu cefnogaeth i'r cais ar y seiliau dilynol:
• Roedd y buddion economaidd i'r dref a'r ardal o amgylch yn enfawr.
• Byddai'r datblygiad yn cael effaith gadarnhaol ar dwristiaeth yn yr ardal.
• Roedd y datblygiad wedi'i leoli'n ddigon uchel i osgoi unrhyw lifogydd posibl. Byddai rhybudd digonol o unrhyw lifogydd posibl yn cael ei ddynodi'n gynnar.
• Mae ymgynghorwyr wedi mynegi cefnogaeth i'r cais.
• Mae buddion economaidd y datblygiad yn gwneud defnydd da o safle segur.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir D. Dovey ac eiliodd y Cynghorydd Sir A. Wintle fod cais DC/2015/01431 yn cael ei gymeradwyo gyda'r 22 amod, fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 104, a amlinellwyd yn yr adroddiad hefyd.
Dogfennau ategol: