Agenda item

Adroddiad Llywodraethiant Cymunedol

·         Diweddariad ar yr Hybiau Cymunedol

·         Diweddariad ar y Lle Cyfan

 

Cofnodion:

Adroddiad Llywodraethiant Corfforaethol:

Fe ddarparodd y Pennaeth Llywodraethiant, Ymrwymiad a Gwelliant adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar sut mae’r Cyngor yn newid ei berthynas gyda’r Cynghorau Trefi a Chymunedau.

 

Fe dynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol:

 

  • Fe benderfynodd Aelodau sefydlu gweithgor aml-blaid, dan arweiniad Aelodau i ystyried argymhellion a phenderfynu ar strwythur ar gyfer llywodraethiant ac ymrwymiad cymunedol.
  • O’r saith opsiwn a awgrymwyd, Opsiwn 2 i sefydlu pum cymuned ardal yn hytrach na’r pedair gyfredol oedd yr hoff fodel – Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga, Cil-y-Coed a Chas-gwent.
  • Roedd Chris Jones wedi cael ei gomisiynu i wneud darn o waith gyda’r Lle Cyfan a’r holl Aelodau i edrych ar enw’r gr?p, cylchoedd gorchwyl, pa mor aml dylai’r grwpiau gwrdd, lefel o b?er a chyfranogiad. 
  • Blaenoriaeth yw gwella cyfathrebu rhwng y Cyngor Sir a’r Cynghorau Trefi a Chymunedau.
  • Mae Aelod o’r Uwch Dîm Rheoli wedi cael ei benodi fel swyddog cyswllt ar gyfer pob un o’r pum ardal. Mae cyfarfod Cas-gwent wedi cael ei gynnal.

 

Fe nododd Aelodau y pwyntiau canlynol:

 

·         Fe holwyd sut byddai’r diwygiadau i lywodraeth leol yn effeithio ar y cynigion.

·         Roedd cyfarfod ardal Cas-gwent yn werthfawr ac yn un cadarnhaol.

·         Fe fynegwyd pryder bod gan ward un Cynghorydd dau gyngor cymunedol a fyddai mewn ardaloedd gwahanol o dan y cynigion ac fe holwyd a fyddai hyn yn achosi unrhyw anawsterau.

·         Fe fynegwyd pryder bod dim sôn am ddarpariaeth gyllidebol ar gyfer y pwyllgorau newydd ac y byddai’r cyhoedd yn parhau i beidio â mynychu cyfarfodydd. Fe holwyd pan mor ffrwythlon a rhagweithiol byddai’r cyfarfodydd a’i bod o bosib yn haen arall o fiwrocratiaeth neu siop siarad.

·         Fe awgrymwyd ail-sefydlu’r ymagwedd o gynghorau trefol a gwledig fel dewis amgen. 

·         Fe nodwyd na fod y cynigion yn diffinio rôl Cynghorwyr Sir, Cynghorwyr Trefi a Chymunedau.

·         Fe godwyd y cyfle i siarad am faterion lleol ar gyfer ardal fel blaenoriaeth, tra’n derbyn na fydd y cyhoedd o reidrwydd yn mynychu pan maen nhw’n gan fwyaf yn fodlon gyda’r gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn.

·         Fe awgrymwyd y dylid cadw mewn cof y byddai unrhyw ymgais i gael gwared ar gynghorau cymunedau yn anodd oherwydd bod eu haelodaeth yn cynnwys gwirfoddolwyr ymroddedig gydag ysbryd cymunedol.

·         Fe nodwyd bod y cyfalaf cyfyngedig ar gael i bwyllgorau ardal o dan y trefniadau cyfredol yn gyfyngiad ac y dylid eu hystyried fel rhan o fanylion y cynigion newydd y gallai gynnwys sut i wario cyllid Adran 106 a gwelliannau i’r broses grantiau hefyd.

·         Mae’n anodd penderfynu ar y ffordd orau o annog cyfranogiad oni bai bod y cynigion yn effeithio yn uniongyrchol ar y cyhoedd.

 

Hyb Cymunedol:

Fe galonogwyd Aelodau o’r cynnydd ac roedd yr ymweliadau wedi creu argraff dda arnynt. Mae arwyddion gwell ac ymestyn ardal y ddesg ar fin digwydd. Fe ddarparwyd cadarnhad bod y llyfrgell yn parhau i gael ei gefnogi gan lyfrgellwyr proffesiynol, sydd hefyd yn gweithio yn yr Hyb. Gofynnwyd am adborth ar amrediad yr ymholiadau ar wasanaethau ac ymyriadau. Ar ben hynny, fe ofynnwyd bod Cynghorwyr yn derbyn adborth pan fo ceisiadau’n cael eu gwneud yn ymwneud â’u Ward.

 

Y Lle Cyfan:

Fe ddarparodd Rheolwr y Lle Cyfan ddiweddariad ar y Lle Cyfan. Fe godwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Fe werthuswyd y cynlluniau ac nid oeddent yn gweithio’n dda, felly fe benderfynwyd newid i weithio gyda grwpiau a phenodi arweinwyr er mwyn gwneud cynnydd mwy cynaliadwy. 

 

·         Fe gytunodd Aelodau bod angen iddynt wybod beth sydd angen ar y trigolion a darpar drigolion datblygiadau tai mawr.

 

·         Fe esboniwyd bod cais o £55,000 wedi cael ei gyflwyno i weithio gyda GAVO i ddatblygu pecyn cymorth er mwyn i gr?p y Lle Cyfan gael cynlluniau eu hunain. Ar ben hynny, mae cais wedi cael ei gyflwyno i ddarparu hyfforddiant ar gyfer aelodau cymunedol ar e.e. cau ffyrdd, arwain, rheoli digwyddiadau a rheoli cyllid. 

 

·         Fe nodwyd bod y cyfarfod yn ddefnyddiol er mwyn trafod clystyrau, lleoli uwch swyddogion yn ardaloedd y clystyrau a’r gwaith gyda chymunedau, fodd bynnag, mae colled y wybodaeth leol a oedd gan y cyn Reolwyr Gwasanaeth Ardal yn anffodus.   

 

·         Mae’n bosib bydd arian Adran 106 ar gael ar gyfer hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Cymunedol. Efallai bydd hyfforddiant ar gynllunio hefyd yn cael ei drefnu. Bydd hefyd yn bosib gwahodd cynghorydd ar y Cynllun Datblygu Gwledig i fynychu cyfarfod yn ôl yr angen. 

 

·         Fe gadarnhawyd bod y Cynghorau Trefi a Chymunedau’n gallu cael mynediad at grantiau ar gyfer prosiectau arloesol sy’n targedu bylchau mewn gwasanaethau. Fe dynnwyd sylw at argaeledd y grantiau £2.7 miliwn, gyda £250,000 wedi cael ei dyrannu hyd yn hyn.

 

·         Gwaith peirianneg – Twnnel Hafren: Roedd cydnabyddiaeth o’r gwaith sylweddol i ail-drefnu trenau, darparu trefniadau teithio amgen a bodloni anghenion y cyhoedd. 

 

Dogfennau ategol: