Cofnodion:
Derbyniodd y Cyngor adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethiant dros dro i symud ymlaen â darpariaethau Cytundeb Dêl Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a lofnodwyd gan Arweinwyr y 10 Awdurdod Lleol ym mis Mawrth 2016. I gymeradwyo’r defnydd o gronfa wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio (16/17), sef cyfanswm o £30,835 fel cyfraniad Sir Fynwy i’r gronfa adnoddau ganolog i alluogi’r gwaith ar y rhaglen i barhau, gan arwain at gytundeb terfynol Dêl y Ddinas.
Yn ystod y drafodaeth, fe nodom y canlynol:
· Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â chyllid yr UE, fe esboniodd yr Arweinydd bod y 10 Arweinydd wedi cwrdd â Phrif Weinidog Cymru i gael sicrwydd, ac roedd Llywodraeth Cymru yn hyderus, beth bynnag fydd yn digwydd gyda’r UE, bod y cyllid yn ddiogel.
· Holwyd beth fyddai’r ddêl yn golygu i Sir Fynwy yn benodol. Mewn ymateb i hyn, esboniodd yr Arweinydd ei bod yn anodd gwybod ar hyn o bryd, ond y gobaith oedd y byddai natur yr ardaloedd roedd yn cael eu hystyried yn dod â rhagor o fuddsoddiad a chyfleoedd. Byddai creu cyfleoedd ar draws yr ardal yn darparu gobaith ar gyfer dyfodol ein pobl ifanc.
· Holodd aelod os oedd yn rhaid i’r arweinydd gynrychioli Sir Fynwy wrth drafod Dêl y Ddinas. Esboniwyd mai cyfrifoldeb yr arweinydd oedd cynrychioli’r Cyngor, ac ar adegau pan nad oedd hyn yn bosib, byddai Dirprwy Arweinwyr yn camu i mewn. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd bod llawer o barch gan arweinwyr eraill y rhanbarth at yr arweinydd, a bod ganddo gyfrifoldeb dros Arloesi, Digidol a Busnes, un o ardaloedd pwysicaf Dêl y Ddinas.
· Cyfeiriodd Arweinydd yr Wrthblaid at 2.1, b, pwynt 5 o’r adroddiad, y Comisiwn Twf a Chystadleuaeth Annibynnol, a holwyd sut roedd y comisiwn yn gweithredu, pwy oedd yn cael ei benodi, beth oedd y broses. Mewn ymateb i hyn, esboniodd yr arweinydd mai gr?p gorchwyl a gorffen oedd y Comisiwn, dan arweiniad yr Athro Greg Clarke a gafodd y dasg o edrych yn fanwl ar y Comisiwn er mwyn helpu pethau i symud ymlaen. Yr arweinydd wrth lunio’r gr?p oedd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale.
· Holwyd os oedd rolau Cyd-bwyllgor yr Wrthblaid yn rhai â thâl, ac o felly, a oeddent yn cael eu talu o arian a roddir at ei gilydd ar y cyd? Holwyd hefyd a oedd treuliau’n cael eu hawlio o Gyngor Sir Fynwy. Atebodd yr arweinydd bod dim tâl ar gyfer y rolau hyn, ond yn hytrach, roedd yn gyfle i arweinwyr ddod at ei gilydd er budd y rhanbarth ac fe fynegodd siom yn y cwestiwn. Fe gadarnhaodd bod costau teithio yn cael eu talu gan yr awdurdodau unigol.
· Holodd un aelod, o ran gwella trafnidiaeth yn y De Ddwyrain a’r i’r Gogledd o Sir Fynwy, bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod Sir Fynwy yn cael ei gynrychioli’n dda gyda’r Metro. Mewn ymateb i hyn, pwysleisiodd yr arweinydd bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Trafnidiaeth i Gymru.
· Gofynnwyd am eglurhad o ran sut byddai’r arweinydd yn adrodd yn ôl ar y materion pwysig. Awgrymwyd cytuno ar fecanwaith adrodd rheolaidd.
Penderfynodd y Cyngor gytuno i’r argymhellion:
· I roi awdurdodaeth ddirprwyedig i Arweinydd y Cyngor i wneud penderfyniadau o’r fath yn ôl yr angen, mewn perthynas â’r canlynol:-
a) Parhau gyda’r trefniadau llywodraethiant dros dro yn amodol ar ailenwi’r Bwrdd Prosiect (mae’r aelodaeth gyfredol yn cynnwys 10 Arweinydd Awdurdod Lleol) yn “Cyd-bwyllgor yr Wrthblaid Dêl Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd”.
b) Sefydlu’r cyrff newydd canlynol:-
(i) Awdurdod Trafnidiaeth Ranbarthol Anstatudol,
(ii) Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd,
(iii) Sefydliad Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd,
(iv) Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd,
(v) Comisiwn Twf a Chystadleuaeth Annibynnol.
c) Penodi Cyfarwyddwr y Rhaglen.
d) Cytuno ar bortffolios aelodau cabinet yr wrthblaid.
e) Ceisio cytundeb i gaffael a phenodi cynghorwyr cyfreithiol i ddrafftio’r holl ddogfennau perthnasol ar gyfer Dêl Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, “Cytundeb ar y Cyd” o Gytundeb Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron yn hytrach na Fframwaith y Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol.
· Cymeradwyo’r defnydd o gronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio (16/17), sef cyfanswm o £30,835, fel cyfraniad Sir Fynwy i’r gronfa adnoddau ganolog i alluogi’r gwaith ar y rhaglen i barhau, gan arwain at gytundeb terfynol Dêl y Ddinas.
Dogfennau ategol: