Agenda item

Nodi rhestr Camau Gweithredu y cyfarfod diewthaf

Cofnodion:

Fe nodom restr camau gweithredu’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2016.

 

Anerchodd y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland y Cyngor er mwyn darparu diweddariad ar safle newydd Morrisons yn y Fenni.  Fe ddiolchodd i swyddogion am symud y mater ymlaen i’r cam olaf, gan nodi gwaith caled y Pennaeth Cyflwyno dan Arweiniad y Gymuned, D. Hill-Howells, yn arbennig.

 

Fe nodom y datganiad i’r wasg canlynol:

 

“Ar ddydd Iau 22 Medi fe lofnodwyd prydles gan Gyngor Sir Fynwy a chadwyn archfarchnadoedd Morrisons i orffen cynlluniau i adeiladau archfarchnad ar safle’r farchnad wartheg yn y Fenni. Daw’r cytundeb ar ôl cyfnod hir o aros ac mae’n rhoi caniatâd i’r broses gychwyn. Mae strwythur y cytundeb yn unol â’r hyn y cytunwyd yn flaenorol. Fodd bynnag, mae’r taliadau ariannol wedi cael eu hamrywio er mwyn adlewyrchu’r newid yn amodau’r farchnad ers dechrau trafod y cytundeb yn 2010. Mae premiwm o £13,750,000 wedi cael ei dalu a bydd taliadau rhent o £160,000 y flwyddyn yn daliadau o fis Chwefror 2018 am gyfnod o 25 mlynedd.  Mae Cyngor Sir Fynwy a Morrisons yn awyddus i symud ymlaen gyda datblygu’r safle ac mae cais cynllunio ar gyfer cynllun archfarchnad diwygiedig wedi cael ei derbyn gan ein hawdurdod cynllunio. Mae’r tîm cynllunio yn aros am wybodaeth i gefnogi’r cais a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn unwaith i ni dderbyn hyn. Mae’n swyddogion cynllunio yn disgwyl derbyn y wybodaeth a’r cynlluniau bythefnos o heddiw ac yn disgwyl adrodd am y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Rhagfyr.”

 

Mynegodd aelod o'r cabinet ddiolch i uwch swyddogion gweithredol Morrisons a helpodd i symud y mater ymlaen.

 

Roedd aelodau’n fodlon gyda’r newyddion ac yn edrych ymlaen at y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, llewyrch a hyder cyffredinol yn y Fenni.

 

Cydnabuwyd gwaith yr aelod o’r cabinet yn y broses gan yr aelodau.

 

Pwysleisiwyd ein bod yn methu rhagweld canlyniad y cais cynllunio, a dylai unrhyw aelodau sydd am gael manylion pellach gysylltu â’r Pennaeth Cyflwyno dan Arweiniad y Gymuned yn uniongyrchol.

 

Cynnig Brys

 

Fe groesawyd y Cynghorydd Sir R. Greenland gan y Cadeirydd a oedd yn bresennol i gyflwyno’r cynnig brys canlynol:

 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cytuno i gefnogi Velothon 2017 yn dod trwy’r Sir, gan gymryd bod y ffyrdd ar gau ar gyfer y ras amatur yn cael eu hail-agor cyn gynted ag y bod hi’n ymarferol wedi i’r seiclwyr amatur basio heibio.  Buasem hefyd yn croesawu’r ras broffesiynol ond ar sail cau ffyrdd dros dro yn ôl system dreigl gan gyfyngu ar yr anghyfleustra i drigolion.

 

Wrth symud y cynnig ymlaen, fe dynnodd y Cynghorydd Greenland y pwyntiau canlynol:

 

·         Cytunwyd bod y mater o doiledau wedi bod yn broblem eisoes a bydd y trefnwyr yn dyblu nifer y toiledau.

·         Byddai ardaloedd gwyrdd yn cael eu gosod o amgylch Sir Fynwy a bydd y cystadleuwyr yn cael eu hannog i gael gward o’u sbwriel yn yr ardaloedd hynny.

·         Cytunwyd y gellid cau ffyrdd rhwng y rasys amatur a phroffesiynol, fodd bynnag fe wnaethpwyd cynnig arall y dylid ail-agor y ffordd wedi i’r seiclwyr amatur basio heibio. Gellir delio gyda hyn trwy gau’r ffyrdd yn ôl system dreigl. Bydd yr heddlu’n cau’r ffyrdd bach, a fyddai’n cael eu cadw ar gau gan wirfoddolwyr ar ôl hynny. Bydd y ffyrdd yn ail-agor ar unwaith pan mae’r ras wedi mynd heibio, gan symud y ras yn ei flaen. Bydd hyn yn goresgyn mwyafrif y cwynion yn ymwneud â chau ffyrdd.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r cynnig yn dangos ein bod yn gwrando ar etholwyr. Fodd bynnag, mae angen cyfathrebu’n fwy effeithiol er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu gwneud trefniadau priodol.

·         Nid oedd y cynnig yn adlewyrchu’r cais blaenorol i ystyried dechrau a gorffen y ras yng Nghasnewydd, a fyddai’n fwy buddiol i Sir Fynwy. Nodwyd bod y Prif Weithredwr wedi gwneud y sylwadau mewn perthynas â Velothon 2018, a oedd yn dal i gael ei drafod.

·         Pwysleisiodd aelod, yn ogystal â dyblu nifer y toiledau, mae angen ystyried eu lleoliad.

·         Fe nodom na fyddai’r Velothon yn digwydd ar yr un diwrnod â Ras Seiclo’r Fenni. 

·         Fe gymharodd aelod y Velothon â Hanner Marathon Pont Hafren a gafodd ei gynnal yn rhannol yn Sir Fynwy. Roedd hon yn ddigwyddiad wedi’i threfnu’n dda gyda dim problemau, ac roedd y sbwriel i gyd wedi cael ei gasglu o fewn 24 awr. 

 

Esboniodd y Cynghorydd Greenland os nad oedd trefnwyr y Velothon yn fodlon defnyddio system dreigl o gau’r ffyrdd ar draws y sir, nid oeddem yn fodlon, fel Cyngor, i ganiatáu i’r Velothon ddod trwy’r sir yn 2017.

 

Eiliwyd y cynnig ac yn dilyn pleidlais, fe dderbyniwyd y cynnig.

 

Dogfennau ategol: