Agenda item

Trafodaeth gyda Chyngor Sir Fynwy ar effaith Taliadau Tai ar Ddisgresiwn mewn atal digartrefedd

Cofnodion:

Cefndir:

 

Fe ddarparodd Michele Morgan, Cymdeithas Tai Sir Fynwy, ychydig o gyd-destun i esbonio effaith y Diwygiad Lles ar denantiaid Tai Sir Fynwy. 

 

Fe esboniodd hi, pan gyflwynwyd y dreth ystafell wely yn 2013, fe effeithiwyd ar dua 400 o denantiaid a bod hyn bellach wedi gostwng i 284 oherwydd bod rhai wedi dewis symud i gartref llai o faint, bod oedran y plant yn caniatáu iddynt gael eu hystafell wely eu hunain a bod rhai wedi dod o hyd i waith.  Fe ychwanegodd hi fod yr ôl-daliadau ar gyfer y 284 o denantiaid a effeithiwyd gan y dreth ystafell wely ar lefel o £51,000.  O'r 284, mae tri chwarter angen llety un ystafell wely os ydynt yn barod i symud i gartref llai o faint.  Fe esboniwyd bod prinder lletyau un ystafell wely yn y Sir, felly nid yw symud i gartref llai o faint yn opsiwn i nifer. 

 

Fe hysbyswyd aelodau, o'r 284, bod 133 tenant wedi derbyn Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i fodloni'r diffyg mewn budd-daliadau tai (sydd werth, ar gyfartaledd, £9.66 yr wythnos).  Fe ychwanegwyd na fod y Taliad Tai yn ôl Disgresiwn yn ddigon i dalu cyfanswm y dreth ystafell wely a bod angen i'r tenant gyfrannu'r gweddill o'u budd-daliadau. 

 

Fe hysbyswyd aelodau bod 64 Taliad Tai yn ôl Disgresiwn yn dod i ben y mis hwn a bod Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn gweithio gyda thenantiaid i gynorthwyo gyda'r ceisiadau newydd. Bydd 90 tenant yn cael eu heffeithio gan y cap budd-daliadau is o fis Tachwedd 2016.  Fe esboniwyd mai dim ond 5 sydd wedi'u heffeithio ar hyn o bryd ac y bydd hyn yn codi i 23 ym mis Tachwedd.  Teuluoedd gyda 3 neu fwy o blant yw'r rhain gan fwyaf.  Fe hysbyswyd aelodau mai'r effaith posib ar y 23 cartref oedd colled o dros £2,000 yr wythnos (£109,000 y flwyddyn). 

 

Fe atgoffwyd aelodau bod yr ardal hon heb gael ei heffeithio'n llawn eto gan Gredyd Cynhwysol a bod 17 hawlydd Lwfans Ceisio Gwaith sengl, gyda phob un ohonynt mewn ôl-ddyled.

 

Fe gyflwynwyd ambell astudiaeth achos i ddangos sut mae Taliadau yn ôl Disgresiwn wedi cael eu defnyddio yn y Sir.  Fe ofynnwyd am gadarnhad o'r ymagwedd gan gydnabod y bwriad i liniaru'r effaith ar y Cyngor.  Fe nodwyd y byddai newidiadau pellach yn effeithio ar y landlord, gan greu galw newydd yn ychwanegol at y gefnogaeth i deuluoedd a oedd eisoes yn cael ei darparu a phwysau ar gyllideb gan arwain at ostyngiad mewn taliadau.

 

Fe fynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad am gyflwyno'r astudiaethau achos.

 

Craffu gan Aelodau

 

Yn dilyn y cyflwyniad, fe wahoddwyd Aelodau i gyflwyno sylwadau.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn am yr astudiaeth achos gyntaf, fe gadarnhawyd bod y 2 blentyn wedi dod yn rhai sy'n derbyn gofal a'u bod yn annhebygol o ddychwelyd. Fe nodwyd y byddai hyn yn rhoi baich ariannol sylweddol ar y Cyngor.  Fe holwyd beth fyddai'n digwydd pe bai'r plant yn cael eu cymryd i mewn i ofal dros dro yn unig a'u bod yn cael eu dychwelyd ac fe gadarnhawyd y byddai gorwariant yn dal i fodoli oherwydd tan-feddiannaeth tra bod y plant yn derbyn gofal.  Byddai Cymdeithas Tai Sir Fynwy hefyd yn gweithio gyda'r tenant a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

·         Gan gyfeirio at yr ôl-daliadau rhent a oedd yn gyffredin yn y ddwy astudiaeth achos, fe holwyd faint o amser mae'n cymryd i adnabod problem ac fe gadarnhawyd y byddai colli taliad rhent yn cael ei sylwi ar unwaith ac y byddai'r broses o adfer yr ôl-daliad yn cael ei roi ar waith ar unwaith gan ymrwymo gyda thenantiaid i ddatrys y mater.  Fe nodwyd na fod y tenantiaid yn ymrwymo bob tro ac yn y pen draw bod yna hawl gyfreithiol i adfer y ddyled.  Fe gadarnhawyd bod ymdrechion yn cael eu gwneud i ail-addysgu pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithrediadau.

 

·         Fe gadarnhawyd bod taliadau rhent a dderbynnir o fudd-daliadau tai a thaliadau tai yn ôl disgresiwn yn cael eu talu'n uniongyrchol i Gymdeithas Tai Sir Fynwy.  Mae 17 hawlydd Credyd Cynhwysol a 120 hawlydd budd-dal Tai, am gyfnod prawf, yn derbyn taliad uniongyrchol. Mewn ymateb i gwestiwn, fe gadarnhawyd bod yna ganlyniadau cymysg gyda'r cyfnod prawf a bod y sawl mewn ôl-ddyled o dros 8 wythnos yn cael eu tynnu allan o'r cyfnod prawf.

 

·         Fe nododd y Cadeirydd bod gwaith Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn gymeradwy a holwyd pam ei fod yn gwneud y rôl o gefnogi tenantiaid.  Fe esboniwyd mai landlordiaid cymdeithasol yw cymdeithasau tai sy'n darparu cyngor a chefnogaeth i gynnal tenantiaid a chymunedau, wedi'i datblygu yn sgil toriadau i wasanaethau'r sector cyhoeddus. Fe ychwanegwyd bod trafnidiaeth yn anhawster yn Sir Fynwy felly mae gwasanaethau'n cael eu darparu yng nghartref y tenant. 

 

Fe holwyd beth oedd y ffordd orau o helpu pobl sy'n wynebu'r anawsterau hyn ac fe awgrymwyd rhoi ystyriaeth i'r potensial o rannu arfer gorau ac archwilio cyfleoedd i greu effeithiolrwydd ac arbedion wrth ddarparu gwasanaethau cynghori ar les.