Agenda item

Trosolwg o Newidiadau Diwygio Lles

Cofnodion:

Cefndir:

 

Fe groesawyd Sue Harris, Rheolwr Partneriaethau Lleol ar gyfer Casnewydd a Sir Fynwy, yr Adran Gwaith a Phensiynau, i'r cyfarfod i ddarparu trosolwg o'r Newidiadau Diwygio Lles. 

 

·         Fe ddarparwyd diweddariad ar Gredyd Cynhwysol ac fe nodwyd y lansiwyd y cynllun ym mis Ebrill 2013, a'i bod ar gael mewn Canolfannau Byd Gwaith ac yn cael ei hawlio gan 280,000 o bobl.  Fe esboniwyd bod y cynllun heb gael ei rolio allan yn llawn yn yr ardal hon ac yn sgil hyn, pobl sengl nad sy'n berchen ar d? yw'r hawlwyr yn Sir Fynwy.  Ar ben hynny, fe hysbyswyd Aelodau bod amryw ddiwygiadau llesiant eraill wedi digwydd a'r nod yw datblygu gwasanaeth mwy personol i bawb.  Er gwybodaeth, fe esboniwyd, o dan y cynllun budd-daliadau cyfredol, ar gyfer pob 100 person sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, bod 113 hawlydd yn symud i mewn i waith sy'n cynrychioli gwelliant.

 

·         Fe hysbyswyd Aelodau bod rhai newidiadau eraill ar fin cael eu cyflwyno megis cael gwared â chyfradd uwch y Credyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn cyntaf a'r gyfradd is ar gyfer plant dilynol.  Bydd y cyfraddau hyn yn cael eu disodli gyda chyfradd safonol ar gyfer pob plentyn o fis Ebrill 2017. Fe esboniwyd y bydd hawliadau cyfredol yn parhau fel Credyd Cynhwysol ond bydd hawliadau newydd gan deuluoedd gyda dau blentyn neu fwy yn cael eu cyfeirio yn ôl i Gredydau Treth tan fis Tachwedd 2018 ac yna'n dychwelyd i Gredyd Cynhwysol.  Mae'r mesur hwn er mwyn sicrhau bod y system Credyd Cynhwysol yn gweithio'n gywir. 

 

·         Bydd y symudiad a reolir o hawliadau cyfredol ar gyfer Credyd Cynhwysol yn cael ei ohirio i gychwyn ym mis Gorffennaf 2019 a bydd wedi'i gwblhau ym mis Mawrth 2022.  Mae disgwyl cyflwyniad llawn y cynllun yn yr ardal hon yn ddiweddarach eleni bellach wedi cael ei ohirio.  Mae disgwyl bydd gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn ar gael mewn pum Canolfan Byd Gwaith y mis o fis Mehefin 2017.

 

·         Fe ddarparwyd gwybodaeth ar gapio budd-daliadau, sy'n cynrychioli un o'r materion mawr gyda diwygiadau llesiant.  Fe esboniwyd bod budd-daliadau ar hyn o bryd wedi'u capio ar £26,000 y flwyddyn ar gyfer rhieni sengl a chartrefi mewn cyplau, a £18,200 ar gyfer pobl sengl.  O fis Tachwedd 2016, bydd budd-daliadau'n cael eu capio ar £20,000 ar gyfer cyplau a £13,500 ar gyfer pobl sengl sy'n byw yn eu llety eu hunain.  Fe nodwyd bod disgwyl y bydd hyn yn effeithio ar 88,000 cartref yn genedlaethol yn y flwyddyn gyntaf.  Yn lleol, mae disgwyl y bydd hyn yn effeithio ar 90 cartref yn Sir Fynwy a 160 cartref yn Nhorfaen. Fe esboniwyd bod rhai eithriadau i'r cap budd-daliadau megis ar gyfer pobl sy'n hawlio credydau treth gwaith, taliadau annibyniaeth personol, lwfans gweini ayyb. 

 

·         Mae sgan wedi cael ei wneud ac mae'r Adran Gwaith a Phensiynau'n gweithio gyda Chynghorau i drafod pa gefnogaeth gellir ei gynnig i'r sawl a effeithir arnynt.  Fe esboniwyd bod cyswllt wedi cael ei wneud â'r cartrefi yr effeithir arnynt.  Mae awdurdodau lleol yn ymweld â'r cartrefi hyn ond nodwyd bod rhai yn gwrthod help.

 

Fe groesawyd Richard Davies, Pennaeth y Gwasanaeth Budd-daliadau ar y Cyd ar gyfer Sir Fynwy a Thorfaen, a atgoffodd Aelodau y bydd pob cartref a effeithir arno yn cael ymweliad ac yn aml fod gan y cartref sy'n hawlio'r lefelau uchaf o fudd-daliadau amgylchiadau cymhleth, er enghraifft, bydd teuluoedd un rhiant gyda mwy na thri o blant angen cefnogaeth sylweddol i newid cyllid y cartref.

 

·         Mae ail sgan wedi cael ei gwblhau a'i anfon at awdurdodau lleol ac mae gwaith ar y gweill i gael gwared ag eithriadau.  Mae llythyron wedi cael eu hanfon gyda'r cyfle i drefnu apwyntiad gwirfoddol i drafod y newidiadau.  Ar ben hyn, bydd gan hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith y cyfle i drafod y cap budd-daliadau pan mae'n mynd mynychu'r Canolfan Byd Gwaith.  Bydd y rhai sydd ddim yn gorfod mynychu am apwyntiadau gorfodol yn cael y cynnig i wneud apwyntiad gwirfoddol.  Os nad ydynt yn gwneud apwyntiad gwirfoddol, bydd tri ymgais yn cael eu gwneud i gysylltu â nhw i wneud trefniadau i drafod sut gellir eu cefnogi.

 

·         Mae ail lythyr a anfonwyd yn cynnwys amcangyfrif o effaith ariannol capio budd-daliadau ac roedd yn nodi mai'r gostyngiad ar gyfartaledd yw £70 yr wythnos a fydd yn cael ei didynnu o elfen dai y Credyd Cynhwysol felly cyfrifoldeb yr awdurdod lleol fydd hi i'w cynghori o'r gostyngiad. 

 

Mae staff yr Adran Gwaith a Phensiynau'n gweithio'n fewnol a gydag awdurdodau lleol i gynnig cefnogaeth i'r sawl a effeithir. Mae'r bobl hynny sy'n mynychu apwyntiadau gwirfoddol yn cael cynnig cefnogaeth gofal plant, y cynllun cefnogaeth cynhwysol i gefnogi annibyniaeth ddigidol ac ariannol, cyngor cyllido am ddim a chyngor am daliadau tai yn ôl disgresiwn.  Fe esboniwyd bod cyfweliadau â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r awdurdod lleol wedi cael eu trefnu mewn rhai ardaloedd.  Fe rannwyd esiamplau o arfer da ac ymrwymiad i helpu'r sawl a oedd wedi'u heffeithio fwyaf.

 

Craffu gan Aelodau

 

·         Holodd Aelod am y ganran o 41% yn mynd i'r gwaith os nad oedd yn cael ei gapio.  Fe esboniwyd, wrth edrych ar y cartrefi, bod gwerthusiad o'r cap budd-daliadau cychwynnol yn 2013 wedi dangos bod cartrefi wedi'u capio 40% yn fwy tebygol o fynd i mewn i'r gweithlu o'i gymharu â chartrefi heb eu capio.  Fe ychwanegwyd bod y realiti o golli'r arian yn annog defnydd o'r gefnogaeth ychwanegol a gynigir.

 

·         Fe holodd Aelod am fanylion cyswllt, i'w hanfon at bob Aelod, er mwyn gallu cynghori etholwyr ar bwy i gysylltu gydag ymholiadau am fudd-daliadau.  [GWEITHREDU: anfon nodiadau'r cyflwyniad a manylion cyswllt at bob Aelod].

 

·         Fe gadarnhawyd y bydd pob cartref yn cael ymweliad ac fe dynnwyd sylw at gr?p risg penodol sef tenantiaid rhentu preifat sydd naill ai'n methu neu ddim yn gwneud defnydd o'r gwasanaethau cefnogaeth sydd ar gael.  Mae'r Timau Budd-daliadau a Thai'n gweithio'n agos i ymdrin â'r categori hwn.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, fe gadarnhawyd bod yna amgylchiadau pan fod trigolion Trefynwy yn gallu derbyn costau teithio i fynd i apwyntiadau a gwasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn y Fenni. Fe roddwyd sicrwydd y bydd pob hawlydd yn cael cynnig yr un gefnogaeth. Fe holwyd a oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu gweithio gyda'r Uned Cludiant Teithwyr i ddarparu gwasanaeth bws.

 

·         Fe gadarnhawyd bod ymateb isel wedi bod i'r llythyr cyntaf ac y byddai tri ymgais yn cael eu gwneud i gysylltu gan staff y Ganolfan Byd Gwaith, PACE Sir Fynwy a Chymunedau am Waith.  Fe fynegodd Aelod bryder bod y cyfrifoldeb yn dychwelyd i'r Cyngor os yw'r trefniadau tenantiaeth preifat yn methu.  Roedd cydnabyddiaeth bod tueddiad i anwybyddu gohebiaeth tan fod y sefyllfa'n newid, dyma'r rheswm dros drefnu ymweliadau cartref.  Fe gynghorwyd Aelodau yr amcangyfrifir bod teulu digartref yn costio tuag £8,000 y flwyddyn i'w lletya a bod Plentyn sy'n Derbyn Gofal yn costio £125,000.  Felly, mae'r goblygiadau ariannol i'r Cyngor o deulu'n dod yn ddigartref o ganlyniad i'r newidiadau, yn sylweddol.