Agenda item

Diwygiad i Tacsi a Hurio Preifat Polisi ac Amodau 2016

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn adroddiad gan y Prif Swyddog Trwyddedu  er mwyn ystyried cynnig i newid Polisi ac Amodau Tacsi a Hurio Preifat  2016.

 

Roedd yr Awdurdod wedi cymeradwyo’r  Polisi ac Amodau Tacsi a Hurio Preifat  2016 a ddaeth i rym ar y 1af o Ebrill 2016.

 

Roedd Atodiad D eitem 6 o’r o’r Polisi hwn wedi gwneud cais nad yw cerbydau  yn y categori N1 neu N2 (cerbydau nwyddau) sydd wedi eu newid, yn derbyn trwydded oni bai fod Cymeradwyaeth Cerbydau Unigol i M1 neu M2 wedi ei roi gan y VOSA. Mae wedi dod yn amlwg erbyn hyn na fydd y Driver and Vehicle Standards Agency (y VOSA cyn hyn) yn newid categori cerbyd o gategori N (cerbydau nwyddau) i gategori M (cerbydau teithwyr) yn dilyn gwiriad cymeradwyo cerbydau. Fodd bynnag, maent wedi datgan y bydd y cerbydau categori  N yn addas i gludo teithwyr, a hynny ar yr amod fod y math hwn o gerbyd yn meddu ar dystysgrif British Single Vehicle Approval neu British Individual Vehicle Approval. O’r herwydd, argymhellwyd fod geiriad Atodiad D eitem 6 yn cael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu hyn. 

 

3.3 Mae Atodiad D eitem 21 yn gwneud cais fod  diffoddydd tân sydd wedi ei wasanaethu (gyda medrydd os yn bosib), yn cael ei osod mewn lle y mae’n hawdd cael mynediad ato. Bydd rhif cofrestru'r cerbyd  yn cael ei farcio’n glir drwy’r amser ar y diffoddydd tân.  Rhaid gofalu am y diffoddydd tân yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a rhaid gosod un arall yn ei le os caiff ei ddefnyddio neu yn unol â dyddiad sydd wedi ei nodi gan y gwneuthurwr.  Dylid ond defnyddio’r diffoddydd tân ar gyfer tân llai. Mewn pob math o amgylchiadau eraill, dylid stopio’r car a dianc gan sicrhau eich bod yn ddigon pell o’r car, a hynny heb grwydro ar unrhyw briffordd.

 

Mae pryderon wedi eu mynegi yngl?n â diogelwch y gyrrwr a’r teithwyr os ydynt yn ceisio diffodd y tân gan ddefnyddio’r diffoddydd tân.  Caiff ei argymell felly fod y gyrrwr yn ceisio sicrhau bod pawb yn dianc o’r cerbyd yn ddiogel. Os yw cerbyd yn cludo diffoddwr tân, efallai y bydd y gyrrwr neu’r teithiwr yn cael ei berswadio i aros yn y cerbyd a cheisio defnyddio’r diffoddwr, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl pe bai’r tân yn lledaenu’n gyflym.  O’r herwydd, fe argymhellwyd fod geiriad Atodiad  D eitem 21 yn cael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu hyn.

 

Nid oes angen ymgynghori ar y diwygiadau i Bolisi ac Amodau Tacsi a Hurio Preifat  2016

fel sydd wedi ei argymell yn 3.2 a 3.3 uchod. Mae 3.2 yn ofynnol o dan y DVSA ac mae  3.3. yn dileu amod er mwyn sicrhau bod gyrrwr a theithwyr y cerbyd yn ddiogel.

 

Dywedwyd wrth aelodau na fyddai diffoddwyr tân yn cael eu profi yn flynyddol gan fod y pwyslais erbyn hyn ar sicrhau bod y gyrrwr a’r teithwyr yn dianc o’r cerbydau ac yn ymatal rhag ceisio ymladd y tân.

 

Esboniwyd y bydd cerbydau mwy, megis bysiau mini,  yn gorfod cydymffurfio ag amodau ychwanegol.

 

Pleidleisiodd y Pwyllgor yn unfrydol er dros derbyn y ddau amod fel sydd wedi eu hamlinellu isod;

 

1. Mae Aelodau yn cymeradwyo’r diwygiad i Atodiad  D eitem 6 o’r Polisi ac Amodau Tacsi a Hurio Preifat  2016 fel ei fod yn darllen fel a ganlyn:-

Cyn cael ei drwyddedu, rhaid i’r cerbyd i gwrdd â’r safonau technegol un o’r canlynol;

(i) Cymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan Ewropeaidd

(ii) Cymeradwyaeth Math Prydeinig Cenedlaethol neu

(iii) Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol Prydeinig cyn 31ain Rhagfyr 2009

(iv) Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol Prydeinig o’r 1af Ionawr 2010

Dim ond cerbydau yng nghategorïau  M1 neu M2 (cerbydau sydd yn cludo teithwyr), a fydd yn cael eu trwyddedu gan Gyngor Sir Fynwy. Ni fydd cerbydau yn y categorïau  N1 neu N2 (cerbydau nwyddau) sydd wedi eu newid  yn cael eu trwyddedu oni bai fod y cerbyd wedi derbyn naill ai British Single Vehicle Approval neu British Individual Vehicle Approval gan y  Driver and Vehicle Standards Agency er mwyn sicrhau bod y cerbyd yn addas i gludo teithwyr. Mae mwy o wybodaeth am gategorïau cerbydau ar gael yma  - www.dft.gov.uk.

 

2. Roedd Aelodau wedi cymeradwyo’r diwygiad i Atodiad D, eitem 21 o’r Polisi ac Amodau Tacsi a Hurio Preifat  2016, sef: Pan fydd yna dân yn y cerbyd, dylid – mewn pob un sefyllfa  -  stopio’r cerbyd a dianc, gan fynd i bellter diogel heb fynd ar y briffordd.

Dogfennau ategol: