Agenda item

Adroddiad perfformiad Diogelu'r Cyhoedd 2015/16

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio er mwyn rhoi gwybod i Aelodau am ddarpariaeth gwasanaeth a pherfformiad ar draws yr adran  Amddiffyn y Cyhoedd, sydd yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach a Thrwyddedu. 

 

Roedd y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf wedi derbyn adroddiad perfformiad a oedd yn ymdrin â Gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd ar yr 21ain o Orffennaf. Roedd hyn mewn ymateb i adroddiad  Cabinet yn Ionawr 2015 yn argymell fod y Pwyllgor hwn yn monitro unrhyw newid yn ein perfformiad, a hynny yn sgil y gostyngiadau sydd wedi eu gwneud i gyllidebau yn 2014/15.

 

Ar y 7fed o Ionawr2015, roedd y Cabinet wedi gwneud cais am adroddiadau bob chwe mis i’r Pwyllgor Cymunedau Cryf er mwyn monitro perfformiad dros amser. O’r herwydd, bydd modd asesu a gweithredu ar unrhyw sgil-effeithiau negatif yn syth. Er mwyn gwella dealltwriaeth yr Aelodau a’r rhan y maent yn chwarae ar draws yr ystod o wasanaethau sydd yn cael eu darparu gan Amddiffyn y Cyhoedd, mae hefyd yn helpu i adrodd ar berfformiad drwy’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio.

 

Roedd yr adroddiad wedi crynhoi’r perfformiad diweddar ac wedi amlygu’r canlynol:-

 

·         Mae’r pedwar tîm gwasanaeth, a hynny  o ran y mwyafrif helaeth o wasanaethau y maent yn darparu, yn cwrdd â goblygiadau cyfreithiol yr Awdurdod o ran y gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd. 

·         Mae yna ychydig o ddirywiad wedi bod o ran datrys cwynion o fewn Iechyd Cyhoeddus, er enghraifft, sydd yn ymwneud â s?n ac achosion statudol eraill. Dylid nodi fod y tîm bach hwn (sydd yn cynnwys 5.5 person llawn amser) wedi delio gyda 1,559 o geisiadau gwasanaeth newydd (1,667 o gleientiaid) yn 2015/16.

·         Byd adroddiadau yn parhau i gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor hwn bob chwe mis er mwyn asesu sgil-effaith y gostyngiadau i gyllidebau ar berfformiad gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd. 

 

 

 

·         Mae archwiliadau diweddar gan swyddfa Archwilio Cymru, ac Asiantaeth Safonau Bwyd  Cymru, yn dangos fod y perfformiad cyfredol yn foddhaol o fewn Iechyd Amgylcheddol ond byddai’r gwasanaeth yn cael trafferthion ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau statudol newydd i amddiffyn y cyhoedd a’r amgylchedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn sydd yn ymwneud â herio staffio o fewn yr adran wrth i’r adran ymgymryd â mwy o ddyletswyddau statudol, cawsom wybod y byddwn yn lobïo Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid i ddelio ag unrhyw faich newydd a’n sicrhau fod yr adnoddau gennym er mwyn cwrdd â’r disgwyliadau. 

 

Roedd Aelod wedi gofyn am fater penodol ynghylch s?n mewn t? tafarn lleol sydd wedi ei leoli mewn ardal breswyl, a hynny yn sgil y nwyddau sydd yn cael eu gollwng yno’n gynnar yn y bore. Dywedodd swyddogion fod ffynhonnell s?n sefydlog (megis Caraoce) yn hawdd ei fonitro gan fod modd cymryd camau i fynd i’r afael â’r mater ond bydd yn siarad gyda’r Aelod am fanylion pellach. 

 

Gofynnodd Aelod pa gamau sydd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r ardaloedd hynny sydd yn y Sir sy’n dioddef llygredd awyr. Dywedwyd wrthym fod yna gynllun gweithredu eisoes yn bodoli ac mae  Huw Owen o Iechyd Amgylcheddol yn cadeirio gr?p sydd yn gweithio ar y mater hwn. 

 

Dywedwyd wrthym y bydd Amy Lawton yn rhoi hyfforddiant i aelodau ar y ddeddfwriaeth newydd sydd yn ymwneud â chyfrifoldebau landlordiaid.

 

Gofynnwyd sut oedd arian sy’n dod o ddirwyon hylendid bwyd yn cael ei ddefnyddio ac esboniodd y swyddog o’r adran gyfreithiol fod y dirwyon yn mynd i’r Llywodraeth Ganolog ac mae costau’r llys yn dod i’r Awdurdod Lleol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Iechyd Cyhoeddus a Diwylliant am yr adroddiad a gofynnodd iddo sicrhau bod y tîm cyfan yn cael eu diolch am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. 

 

      i)        Mae’r ffioedd sydd wedi eu manylu yn Atodiad A o’r adroddiad i’w cymeradwyo ac yn dod i rym o’r 21ain Mai 2015; a

     ii)        Mae’r ffioedd i’w hadolygu’n flynyddol wedi hyn.

 

Dogfennau ategol: