Agenda item

Adroddiad Arolygiad Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

Cofnodion:

Cyd-destun:

           

Amlinelludiben, canfyddiadau allweddol a chasgliadau ail Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor Cynllunio i fynychu'r cyfarfod ynghyd â'r Pwyllgor Dethol i graffu'r adroddiad

 

MaterionAllweddol:

 

CafoddCynllun Datblygu Lleol 2011-2021 Sir Fynwy ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ar 27 Chwefror 2014. Mae angen i'r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol fel rhan o broses statudol y cynllun datblygu.

 

 Yr Adroddiad Monitro Blynyddol

 

YrAdroddiad Monitro Blynyddol yw'r sail ar gyfer monitro effeithlonrwydd y Cynllun Datblygu Lleol ac yn y pen draw benderfynu os oes angen unrhyw ddiwygiadau i'r Cynllun. Mae'n anelu dangos i ba raddau y caiff strategaeth ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol eu cyflawni a ph'un ai yw polisïau'r Cynllun yn gweithio'n effeithlon. Mae hefyd yn galluogi'r Cyngor i asesu'r effaith a gaiff y Cynllun Datblygu Lleol ar lesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Sir ac yn dynodi unrhyw newidiadau cyd-destunol sylweddol a all ddylanwadu ar weithredu neu adolygu'r cynllun.

 

Hwnyw'r Adroddiad Monitro Blynyddol ers mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy ac mae'n seiliedig ar y cyfnod 1 Ebrill 2015 - 31 Mawrth 2016.

 

FframwaithMonitro'r Cynllun Datblygu Lleol

 

Mae polisi'r Cynllun Datblygu Lleol a fframweithiau monitro gwerthuso cynaliadwyedd yn ffurfio sail yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn asesu sut mae polisïau strategol y Cynllun a pholisïau cefnogi cysylltiedig yn perfformio ar y targedau monitro allweddol a ddynodwyd a'r canlyniadau a ph'un ai yw strategaeth ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni. Mae hyn wedi galluogi'r Cyngor i ffurfio barn wybodus am gynnydd y Cynllun wrth gyflawni'r targedau/monitro canlyniadau a pholisïau yn ystod y cyfnod monitro yma.

 

CanfyddiadauAllweddol

 

Mae Adran 5 yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhoi asesiad o berfformiad y Cynllun. Mae canlyniadau'r broses monitro yn dangos y caiff llawer o'r targedau dangosydd a chanlyniadau monitro eu cyflawni. Rhai o'r canfyddiadau mwyaf sylweddol yng nghyswllt hyn yw:

 

·         Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud tuag at weithredu'r strategaeth ofodol.

·         Caiff targedau polisi tai fforddiadwy a nodir ym Mholisi S4 eu cyflawni fel arfer yng nghyswllt caniatâd cynllunio a roddwyd yn y prif drefi a'r prif bentrefi.

 

·         Mae gan y Cyngor gyfanswm o 41.8ha o dir cyflogaeth ar gael, gan ddangos y cedwir digon o dir cyflogaeth i gyflawni'r gyfradd defnydd a ddynodwyd.

 

·         Bu cynnydd yn nhermau caniatâd cyflogaeth o fewn y Sir, gyda chaniatâd wedi ei roi ar gyfer ystod o ddefnyddiau cyflogaeth ar safleoedd busnes a diwydiannol a ddynodwyd (SAE1), safleoedd cyflogaeth a ddiogelwyd (SAE2) a safleoedd heb eu dyrannu (cyfanswm o 4.48 hectar). Roedd y rhain yn bennaf yng Nglannau Hafren. Rhoddwyd caniatâd hefyd ar gyfer 3.72 hectar o dir yn safle defnydd cymysg strategol y Cynllun Datblygu Lleol yn Heol Wonastow, Trefynwy.

 

·         Cymeradwywydnifer o gynlluniau arallgyfeirio gwledig a menter gwledig (10).

 

·         Cymeradwyodd y Cyngor gynigion ar gyfer cyfanswm o 10 cyfleuster twristiaeth, 8 ohonynt yn ymwneud â llety twristiaid. Ni chaniatawyd unrhyw geisiadau yn golygu colli cyfleusterau twristiaeth.

 

·         Mae cyfraddau lleoedd gwag yn ardaloedd siopa canolog holl drefi a chanolfannau lleol y Sir yn parhau'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol.

 

·         Mae'rgyfran o ddefnyddiau manwerthu A1 o fewn prif ffryntiad siopau yn gyffredinol yn cydfynd â'r trothwyon a ddynodwyd yng Nghanllawiau Datblygu Atodol prif ffryntiad siopau.

 

·         Rhoddwyd caniatâd cynllunio i gyfanswm o 5 cyfleuster cymunedol a hamdden ac ni chaniatawyd unrhyw geisiadau yn golygu colled cyfleusterau cymunedol/hamdden.

 

·         Ni chollwyd unrhyw adeiladau rhestredig neu safleoedd hanesyddol ac ni chaniatawyd unrhyw ddatblygiad a fyddai'n cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd hanesyddol.

 

·         Gwneir cynnydd tuag at y cyfanswm capasiti rheoli gwastraff ar gyfer cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol ac ni fu unrhyw ostyngiad yn y banc tir mwynau.

 

·         Caniatawydcyfanswm o 8 cynllun yn cynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle (ac eithrio deiliad t?, newid defnydd a defnydd amaethyddol).

 

·         Ni chaniatawyd unrhyw ddatblygiadau mewn ardaloedd gorlifdir C1/C2 nad oedd yn cyflawni profion TAN15.

 

Fodd bynnag,  mae nifer o dargedau dangosydd polisi allweddol a chanlyniadau monitro'n ymwneud â darpariaeth tai nad yw'n cael eu cyflawni ar hyn o bryd. Y canfyddiadau mwyaf arwyddocaol yng nghyswllt hyn yw:

 

·         Cofnodwyd cwblhau cyfanswm o 234 o anheddau newydd (marchnad gyffredinol a fforddiadwy) yn ystod y cyfnod monitro presennol. Mae hyn, ynghyd â'r 205 annedd a gwblhawyd a gofnodwyd yn ystod y cyfnod monitro diwethaf, yn gyfartal â chyfanswm o 439 o anheddau newydd ers mabwysiadu'r Cynllun. Mae hyn yn sylweddol is na'r targed a ddynodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol o gwblhau 488 y flwyddyn.

 

·         Cofnodwyd cwblhau cyfanswm o 63 o anheddau fforddiadwy yn ystod y cyfnod monitro cyfredol. Mae hyn, ynghyd â'r 17 o anheddau fforddiadwy a gwblhawyd a gofnodwyd yn ystod y cyfnod monitro presennol, yn gyfanswm o 80 anheddau fforddiadwy wedi eu cwblhau ers mabwysiadu'r Cynllun. Mae hyn yn sylweddol is na'r targed a ddynodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol o gwblhau 96 annedd fforddiadwy bob blwyddyn.

 

·         Mae Cyd Astudiaeth Argaeledd Tir Tai Sir Fynwy am y cyfnod 2015-16 yn dangos fod gan y Sir gyflenwad o 4.1 mlynedd o dir tai (yn seiliedig ar y fethodoleg weddilliol a nodwyd yn TAN1).

 

·         Bu'r cynnydd yn gyfyngedig ar gyflawni safleoedd tai strategol dynodedig. Ac eithrio safle Heol Wonastow, nid oes dim o'r safleoedd strategol wedi cael caniatâd cynllunio ers mabwysiadu'r Cynllun. Rhoddir cynnydd ar gyflenwi safleoedd tai strategol y Cynllun Datblygu Lleol yn yr adran dadansoddi polisi ar gyfer Polisi S3.

 

·         Roedd nifer yr anheddau a gafodd caniatâd ac a gafodd eu cwblhau mewn aneddiadau yng Nglannau Hafren yn sylweddol is na'r targedau a ddynodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Dengyshyn nad yw polisïau allweddol darpariaeth tai y Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni fel y disgwylid ac mae'r diffyg dilynol o gyflenwad tir tai 5 mlynedd yn fater o gonsyrn. Y ffactor sylfaenol sy'n cyfrannu at y diffyg hwn yw'r cynnydd arafach na'r disgwyl yn y safleoedd tai strategol dynodedig, er bod cynnydd yn cael ei wneud wrth ddod â'r safleoedd hyn rhagddynt ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu na fedrir cyflawni'r dyraniadau (fel y manylir yn Adran 5 yr Adroddiad Monitro Blynyddol), Serch hynny, mae'r gyfradd cyflenwi arafach na'r disgwyl yn awgrymu bod angen dyraniadau safleoedd ychwanegol.

 

GwybodaethCyd-destun

 

Mae Adran 3 o'r Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhoi dadansoddiad o'r deunydd cyd-destun perthnasol a gyhoeddwyd ers mabwysiadu'r Cynllun ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol ynghyd â thueddiadau economaidd cyffredinol. Daw hyn i'r casgliad nad yw'r newidiadau a ddynodwyd hyd yma yn awgrymu bod angen adolygiad cynnar o'r Cynllun.

 

CanllawiauCynllunio Atodol (SPG)

 

Gwnaed cynnydd wrth baratoi a mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol i helpu hwyluso dehongliad a gweithrediad polisi'r Cynllun Datblygu Lleol. Rhoddir manylion hyn yn Adran 3 yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Bydd y gwaith o baratoi a mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol yn parhau yn y cyfnod monitro nesaf.

 

MonitroGwerthusiad Cynaliadwyedd

 

Mae Adran Chwech yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn ehangu ar yr asesiad o berfformiad y Cynllun Datblygu Lleol o gymharu ag Amcanion Monitro’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd, gan roi datganiad safle tymor byr ar berfformiad y Cynllun o gymharu â nifer o ddangosyddion cynaliadwyedd. Mae gorgyffwrdd rhwng rhai o ddangosyddion y Cynllun Datblygu Lleol a'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd yn helpu i ddangos sut mae'r ddwy broses monitro yn rhyng-gysylltu.

 

Casgliadau ac Argymhellion

 

Mae Adran Saith yn nodi casgliadau ac argymhellion yr Ail Adroddiad Monitro Blynyddol. Daw Adroddiad 2015-16 i'r casgliad, er y gwnaed cynnydd da wrth weithredu llawer o bolisïau'r Cynllun a bod y strategaeth yn gyffredinol yn parhau'n gadarn, nad oes nifer o dargedau polisi allweddol darpariaeth tai yn cael eu cyflawni sy'n dangos nad yw'r polisïau hyn yn gweithredu yn ôl y bwriad. Mae diffyg cyflenwad 5 mlynedd o dir tai yn fater o bryder sydd angen ei drafod os yw gofynion tai'r Cynllun i gael eu cyflawni.  

 

Felly ystyrir bod angen adolygiad cynnar o'r Cynllun Datblygu Lleol oherwydd y diffyg mewn cyflenwad tir tai. Gan nad oes unrhyw bryderon gyda pholisïau eraill y Cynllun ar hyn o bryd, daw'r Adroddiad Monitro Blynyddol i'r casgliad na ystyrir bod angen adolygu agweddau eraill o'r Cynllun ar hyn o bryd. Felly, mae'r Adolygiad Monitro Blynyddol yn argymell adolygiad cynnar o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy fel canlyniad i'r angen i drin y diffyg yn y cyflenwad tir tai a hwyluso dynodi a dyrannu tir tai ychwanegol. Bydd hyn yn golygu y bydd angen cynhyrchu adroddiad adolygu fydd yn nodi ac esbonio cwmpas y diwygiad sydd ei angen ar y Cynllun. Mae'r adolygiad o'r Cynllun yn debygol o gynnwys dynodi/dyrannu safleoedd ychwanegol hyfyw a rhwydd eu cyflwyno i hybu'r cyflenwad tir.

 

Argymhellirymhellach bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn unol â'r gofynion statudol. Cyhoeddir hyn ar wefan y Cyngor a rhoddir cyhoeddusrwydd iddo drwy gyfrif Twitter yr Adran Cynllunio.

 

CamauNesaf

 

Bydd y Cynllun yn parhau i gael ei fonitro ar sail flynyddol drwy baratoi Adroddiadau Monitro Blynyddol dilynol, gyda strwythur bras yr Adroddiad yn parhau'r un fath o flwyddyn i flwyddyn er mwyn ei gwneud yn rhwydd dadansoddi adroddiadau dilynol.

 

Ystyrir bod angen adolygiad cynnar oherwydd pwysigrwydd y mater cyflenwi tir, fel y nodir yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Byddai hyn hefyd yn cynorthwyo wrth geisio osgoi 'cynllunio drwy apêl' a datblygiad ad hoc yn dod ymlaen tu allan i system y cynllun datblygu heb fod yn cyd-fynd gyda strategaeth y Cynllun. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd y bydd mabwysiadu dull pragmatig i benderfynu ceisiadau ymadawiad ar gyfer safleoedd datblygu preswyl yn gymorth yn y cyd-destun hwn.

 

Mae'r Rheoliadau yn caniatáu 'adolygiad dethol' o ran (neu rannau) o Gynllun Datblygu Lleol. Byddai darpariaeth o'r fath yn caniatáu adolygiad rhannol o'r Cynllun i gynnwys materion yn gysylltiedig gyda chyflenwad tir tai a dewis safle, yn unol ag argymhellion yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i'r Cyngor ddechrau adolygiad llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol bob pedair blynedd. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid dechrau adolygiad llawn i gyflawni gofynion statudol ym mis Chwefror 2018 Ystyrir, felly, y byddai'n fwy addas dechrau adolygiad i ystyried pob agwedd o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y cam hwn er mwyn asesu'n llawn beth yw natur a maint y diwygiadau y gallai fod eu hangen. Bydd adolygiad cynnar llawn hefyd yn cynorthwyo wrth gyrraedd amserlen 2012 ar gyfer cael Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig wedi'i fabwysiadu yn ei le i osgoi'r gwagle polisi lleol y mae'r Rheoliadau newydd yn bygwth ei greu.

 

Bydd angen paratoi Adroddiad Adolygu i ddechrau adolygiad o'r Cynllun. Dylai hyn nodi'n glir yr hyn a ystyriwyd, gyda pha randdeiliaid allweddol yr ymgysylltwyd a, lle mae angen newidiadau, beth sydd angen ei newid a pham, yn seiliedig ar dystiolaeth; yn cynnwys materion, amcanion, strategaeth, polisïau a'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd, yn ogystal â goblygiadau diwygiadau disgwyliedig ar unrhyw rannau o'r Cynllun na chynigir ei diwygio. Mae'n rhaid iddo hefyd ddod i gasgliad ar y weithdrefn ddiwygio a gaiff ei dilyn h.y. dull llawn neu fyr. Gall adroddiad adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol ddod i'r casgliad fod y materion dan sylw o ddigon o arwyddocâd i gyfiawnhau dilyn y weithdrefn ddiwygio lawn. Fel arall, mae gweithdrefn ddiwygio dull byr ar gael ar gyfer amgylchiadau lle nad yw'r materion dan sylw o ddigon o arwyddocâd i gyfiawnhau cynnal y weithdrefn ddiwygio lawn. Efallai mai'r weithdrefn ddiweddaraf yw'r fwyaf addas yn yr achos hwn, o gofio mai'r prif fater yw'r diffyg yn y cyflenwad tir, ond caiff hyn ei benderfynu drwy'r dadansoddiad a gynhelir ar gyfer yr Adolygiad.

 

Gwneir adroddiad i'r Cabinet yn gofyn am benderfyniad ffurfiol i ddechrau adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol. Rhoddir adroddiad i'r Cabinet am unrhyw sylwadau o'r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. Os byddai'r Cabinet yn cytuno ar yr argymhellion i ddechrau adolygiad o'r Cynllun, byddid yn cynhyrchu adroddiad adolygu Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer adroddiadau gwleidyddol yn y dyfodol, yn nodi'r argymhelliad ar gyfer y math o ddiwygiad Cynllun (llawn neu fyr). Byddai angen i'r penderfyniad hwnnw ystyried amserlenni, ffit a'r berthynas gyda gwaith a ddaw i'r amlwg ar Dyfodol Sir Fynwy, Dêl Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chynllun Datblygu Strategol De Ddwyrain Cymru.

 

Craffugan Aelodau:

 

Ar ôl craffu'r Adroddiad, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

  • Mewnymateb i gwestiwn a godwyd parthed tir ddim yn dod ymlaen a diffyg cyflenwad, nodwyd fod cyfres o ffactorau yn gysylltiedig. Dyrannwyd safleoedd yn y Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag y rhesymau am hyn yw:

 

-       Materionmarchnad allanol.

-       Sut y caiff cyflenwad tir tai ei gyfrif.

-       Mae rhai o'r safleoedd strategol ar wahanol gamau yng nghyswllt caniatâd cynllunio. Cynhaliwyd trafodaeth gadarn gydag ymgeiswyr am faterion hyfywedd.

-       Felly mae nifer o resymau, gyda llawer ohonynt heb fod o fewn rheolaeth yr Adran Cynllunio.

 

  • Byddyr adolygiad yn edrych ar y polisïau a dynodi os ydynt yn gweithio ac edrych sut mae'r polisïau'n cysylltu â'i gilydd. Mae'r adolygiad wedyn yn argymhell p'un a gynhelir adolygiad ai peidio.

 

  • Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod am adolygiadau barnwrol ar y safleoedd yn Lloegr yn agos at y ffin gyda Sir Fynwy, nodwyd na chaiff y rhain eu hystyried gan yr Awdurdod Cynllunio. Nid yw'r angen tai yno o fewn yr angen tai ar gyfer ein hardal farchnad neu ran o angen tai Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy. Mae adolygiadau barnwrol yn risg a ystyrir gan yr Awdurdod Cynllunio, yn neilltuol yng nghyswllt y cynlluniau mawr.

 

  • Caiff yr adolygiad anghenion tai ei asesu sy'n edrych ar yr angen am dai fforddiadwy. Bydd yr adolygiad nesaf yn dechrau ym mis Ebrill 2017. Caiff unrhyw ganlyniadau eu bwydo i'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

  • Mae'rangen tai ehangach yn her i ddal lan â hi felly mae angen edrych ar ymestyn y cynllun. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o gyllid grant ar gael a bydd yr Awdurdod yn ceisio manteisio ar hyn.

 

  • Mynegodd Aelod o'r Pwyllgor bryder fod problemau yng nghyswllt sicrhau tir adeiladu a thir datblygu ar gyfer busnesau. Cafodd llai na 50% o'r tai eu cwblhau a hefyd cafodd llai na 50% o'r tai fforddiadwy eu cwblhau. Ni chodwyd unrhyw dai ar safle strategol a dim ond un busnes aeth ar safle strategol. Gallai'r cynnig i ddarparu safleoedd ychwanegol gael effaith niweidiol mewn rhai ardaloedd megis Trefynwy gan y gwaethygir y problemau presennol gyda seilwaith a thrafnidiaeth. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y bydd bob amser fwlch amser ar ddod â safleoedd mwy yn eu blaen.

 

  • Gallaigymryd tua dwy flynedd i orffen adolygiad llawn.

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Trafododd y Pwyllgor y Cynllun Datblygu Lleol a'r Adroddiad Monitro Blynyddol yn fanwl a chytunodd y dylid cyflwyno'r adroddiad i Lywodraeth Cymru. Ymhellach cefnogodd aelodau yr argymhelliad i ddechrau'r adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol. Derbyniodd y Pwyllgor y byddai'r adolygiad yn penderfynu os nes angen diwygiadau'r Cynllun Datblygu Lleol a chytunodd aros gasgliadau'r adolygiad y rhoddir adroddiad arno i'r pwyllgor dethol. Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad diweddaru maes o law ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, ynghyd â rhestr o ardaloedd perthnasol. Gofynnodd aelodau hefyd am ddod â chanllawiau cynllunio atodol ar dai fforddiadwy i gyd-gyfarfod craffu gyda Phwyllgorau Dethol Cymunedau Cryf ac Oedolion ar yr amser priodol.

 

 

 

Dogfennau ategol: