Cofnodion:
Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Amlinelloddyr Aelod lleol dros Lanbadog, oedd yn mynychu'r cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:
• Mae'r cais yn gynnig gwahanol iawn i'r cais blaenorol. Mae'n gynllun unigryw ac unigol gyda dyluniad diddorol.
• Fodd bynnag, mae preswylwyr wedi mynegi pryder am fynediad i'r cynnig.
• Mae'r traffig ar hyd y ffordd hon yn gyflym iawn.
• Mae un o'r arwyddion cyflymder yn amharu ar welededd y mynediad newydd arfaethedig.
• Pryderon am faterion diogelwch yng nghyswllt y fynedfa newydd. Byddai'n fwy diogel cadw a gwella'r fynedfa bresennol.
• Os yw'r fynedfa yn parhau yn ei safle presennol, bydd y datblygiad yn cael llai o effaith ar eiddo cyfagos oherwydd y cedwid y gwrych gwreiddiol.
Amlinellodd Mr. P. Williams, oedd yn mynychu'r cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:
• Roedd wedi cefnogi'r cais gwreiddiol gyda materion preifatrwydd yn cael eu trin.
• Fodd bynnag, roedd gwrthwynebiadau i'r cais newydd:
• Dyluniad modern, sy'n cynyddu maint yr eiddo presennol gan 57%, sy'n fwy na'r cynnydd mewn maint a ganiateir.
• Bydd y datblygiad arfaethedig yn arwain at eiddo tebyg i giwb na fyddai'n gydnaws gyda'r eiddo o amgylch.
• Ni fydd symud y fynedfa yn gwella'r llain welededd gyda llinellau safle anaddas yn cael eu creu.
Amlinellodd Mr. G. Buckle, yn cynrychioli'r ymgeisydd y pwyntiau dilynol:
• Byddai'n fwy darbodus i ddymchwel yr eiddo presennol a chreu eiddo newydd gydag insiwleiddiad da ac a fyddai'n effeithiol o ran ynni.
• Mae'r dyluniad yn gyfoes a chafodd dderbyniad ffafriol gan swyddogion.
• Bydd y cynnig newydd yn defnyddio deunyddiau modern gydag insiwleiddiad o safon uchel yn y grib.
• Bydd yr eiddo ddwy fetr yn is na'r eiddo gwreiddiol.
• Mae'r fynedfa newydd yn well na'r fynedfa bresennol. Bydd ganddi lain welededd mwy, yn dilyn misoedd o drafodaeth gyda swyddogion.
• Bydd yr eiddo o ddyluniad modern yn creu allyriadau carbon isel.
• Bydd dyluniad y cynnig newydd yn gydnaws â'r ardal o amgylch.
• Darperir cynllun amgylchedd adeiladu.
Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:
• Mynegwyd pryderon am y fynedfa newydd arfaethedig a'r llain welededd. Ystyriwyd y byddai cadw'r fynedfa wreiddiol yn opsiwn gwell.
• Roedd dyluniad yr eiddo yn dda ond byddai'n anaddas yn y safle yma.
• Roedd y cynnydd ym maint yr annedd arfaethedig yn fater o gonsyrn ac nid oedd yn gydnaws gyda'r eiddo o amgylch.
Dywedoddswyddogion na fyddai'r cynnydd ym maint yr annedd newydd arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar yr ardal o amgylch.
Wrthgrynhoi, ategodd yr Aelod lleol fod yr annedd newydd arfaethedig yn ddyluniad unigryw. Fodd bynnag, roedd y fynedfa newydd arfaethedig yn achos consyrn.
Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir R. Harries ac eiliodd y Cynghorydd Sir D. Evans fod cais DC/2015/00938 yn cael ei gymeradwyo gyda'r 10 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar i'r materion yn ymwneud â'r fynedfa newydd arfaethedig yn cael eu trin.
Argael eu rhoi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
O blaid cymeradwyo 4
Ynerbyn cymeradwyo 12
Ymatal 0
Ni chariwyd y cynnig.
Penderfynwydein bod o'r farn y dylid gwrthod cais DC/2015/00938 ar sail mynedfa, maint, ymddangosiad/dyluniad a bod y cais yn cael ei ailgyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gyda rhesymau priodol am wrthod.
Dogfennau ategol: