Agenda item

CAIS CYNLLUNIO - DC / 2016 / 00588 - DYMCHWEL ARFAETHEDIG STAND A CHODI ADEILAD AML- DIBEN A GWAITH CYSYLLTIEDIG CHEPSTOW Cae Ras , CHEPSTOW Spectator NORTHERN

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar yr 11 amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Amlinellodd Cynghorydd Cymuned St Arvans Jonathan Richards, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad mewn egwyddor i’r cais.

 

·         Mae’r gwrthwynebiad yn benodol yn gysylltiedig â’r fynedfa arfaethedig i gerbydau.

 

·         Mae dwy fynedfa i gerbydau yng nghynigion y strategaeth a amlinellir yn adroddiad yr adran rheoli traffig. Mae gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned yn uniongyrchol gysylltiedig ag 2il elfen y fynedfa arfaethedig lle bydd yn ofynnol i draffig groesi’r A466.

 

·         Mae’r glwyd fwyaf gogleddol o fewn parth 50 milltir yr awr ac mae’r Cyngor Cymuned yn ystyried hyn yn beryglus heb reolaeth ar y traffig.

 

·         Bydd y fynedfa o’r A466 yn croesi’r heol yn torri ar draws llwybr troed cyhoeddus a llwybr beicio a ddefnyddir yn rheolaidd.

 

·         Codwyd pryderon ynghylch amlder cynyddol defnydd yr adeilad, gan bryderu’n arbennig am y gofod parcio. Mae’r Cyngor Cymuned wedi cyflwyno gwrthwynebiadau ar hyn yn flaenorol.

 

·         Y prif bryder yw’r traffig ychwanegol yn croesi’r A466 y n mynd i mewn ac yn dod allan o’r maes parcio, yn croesi ar draws y llwybr troed a’r llwybr beicio. Bu trafferthion yno yn y faenorol gan fod y gwelededd yn wael wrth fynd i mewn a dod allan o’r maes parcio. 

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned yn falch i weld bod adroddiad y Swyddog yn argymell adroddiad yr adran rheoli traffig ond yn cael nad yw’r amod arfaethedig a’r ddealltwriaeth o’r materion a godwyd, yn mynd i’r afael mewn gwirionedd â phryderon y Cyngor Cymuned.

 

Amlinellodd asiant yr ymgeisydd, Mr Steven Higgins, yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

·         Derbyniodd bod angen rhagor o waith ar y cynllun rheoli traffig ac yr aed i’r afael ag unrhyw ofynion ychwanegol.

 

·         Mae’r Kennel Club, sy’n helpu i ariannu’r datblygiad hwn, wedi gwneud cais am ddefnyddio’r glwyd hon fel y gall ymwelwyr oedrannus sy’n arddangos eu c?n ddod â’u c?n mewn cewyll cyn nesed at y cyfleusterau ag sydd yn bosibl.

 

·         Bydd y cyfleuster newydd yn dwyn manteision gweledol gyda chyfleuster modern newydd wedi’i adeiladu i’r pwrpas sy’n ategu’r dirwedd sy’n ddymunol donnog.

 

·         Bydd yr eisteddle’n ffurfio cam un o’r gwelliant i’r Cwrs Rasio.

 

·         Bydd y cyfleuster er budd y gymuned leol drwy ychwanegu ffynhonnell refeniw arall a bydd yn gobeithio annog ei ddefnyddio’n lleol.

 

·         Bydd y defnydd arfaethedig yn ategu cynnig y Cwrs Rasio ar adegau eraill ar wahân i ddiwrnodau rasio.

 

·         Ar ddiwrnodau rasio bydd yr eisteddle gaiff ei chodi o’r newydd yn dod â chyfleusterau ardderchog i’r Cwrs Rasio a bydd yn bwysig mewn amodau tywydd anffafriol.

 

·         Nid cynyddu nifer yr ymwelwyr yw’r amcan ond gwella profiad yr ymwelwyr sydd eisoes yn fynychwyr.

 

Wedi ystyried adroddiad yr ymgeisydd a’r safbwyntiau a fynegwyd, credai’r Aelodau fod y cynllun arfaethedig yn gynllun da a fyddai’n cynnig cyfleusterau gwell o fewn y Sir.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac fe eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris fod cais DC/2016/00588 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y gwelliant i amod 5 ynghylch yr ohebiaeth hwyr ac ychwanegu amod 12 lle mae’n ofynnol cyflwyno cynllun rheoli adeiladu , fel y gofynnir amdano gan yr Adran Briffyrdd.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 12

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais - 0

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/01136 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar ddiwygio amod 5 yn unol â’r ohebiaeth hwyr ac ychwanegu amod 12 yn  ei gwneud yn ofynnol cyflwyno cynllun rheoli adeiladu, fel y gwnaed cais am hynny gan yr Adran Briffyrdd.

 

Dogfennau ategol: