Agenda item

Velothon 2017-2020

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor a oedd yn diweddaru Aelodau ar ddigwyddiad Velothon 2016 a cheisiodd ymrwymiad y Cyngor i gefnogi digwyddiad y Velothon o 2017 – 2020 drwy alluogi’r daith i deithio drwy Sir Fynwy.

 

Datganodd y Cynghorwyr B. Jones, B. Strong, a P. Clarke fuddiant amhersonol, andwyol i’w ddilyn dan God Ymddygiad y Cynghorwyr a gadawsant Siambr y Cyngor cyn y drafodaeth a ddilynodd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir R. J. Greenland yr adroddiad a thynnodd sylw at y ffaith bod Run4Wales wedi’i benodi i ymgymryd â rheoli’r Velothon, ac roedd wedi ymgynghori’n eang ynghylch problemau flynyddoedd yn gynt. 

 

Yn ystod trafodaeth fe nodwyd:

 

·         Mynegwyd pryderon o gwmpas y gwelliannau a gyflawnwyd gan Run4Wales.

·         Cydnabuwyd bod Sir Fynwy’n sir beicio, ond gan fod y Velothon wedi’i leoli o gwmpas Caerdydd, roedd pryderon nad oedd y Sir yn elwa. 

·         Ceisiodd yr Aelodau eglurhad ynghylch y gost ddeuai wrth groesawu’r digwyddiad, a gwnaeth gais am wybodaeth ariannol bellach. Mewn ymateb fe’i sicrhawyd bod unrhyw gostau seilwaith yn cael eu talu gan y trefnwyr, ac nad oedd cyllideb uniongyrchol gan y Velothon. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir S. Jones ychwanegiad i’r argymhelliad wrth ychwanegu’r canlynol: Bydd yr arolwg hwn yn cynnwys ymgysylltiad rhagweithiol ac uniongyrchol gyda Chynghorau Tref a Chymuned a gyda’r gymuned fusnes, yn enwedig y busnesau hynny gafodd eu heffeithio’n andwyol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Eiliwyd hyn.

 

·         Cytunodd Aelod fod cyfathrebu wedi gwella, ond teimlai fod y lefel o ymyrraeth wedi cael effaith annheg ar gymunedau. 

·         Prin oedd y presenoldeb yn y cyfarfod briffio ar y Velothon, ac roedd y rheiny a fynychodd wedi awgrymu y byddai hwn wedi bod yn amser  delfrydol i gyflwyno cwestiynau i’r trefnwyr. Fodd bynnag, roedd rhai a fynychodd yn dal heb eu hargyhoeddi bod pryderon wedi cael eu hateb. 

·         Mynegwyd bod digwyddiadau â phroffil uchel, ar deledu, wedi’u cynnal yn Sir Fynwy, yn fanteisiol i’r Sir. Fodd bynnag, mynegodd un Aelod nad oedd y digwyddiad hwn yn y categori hwnnw, a’i fod yn ddigwyddiad i Gaerdydd yn unig. Mewn cymhariaeth bu amharu ar Sir Fynwy a chaewyd y Sir am y diwrnod.

·         Cytunodd yr Arweinydd y byddai’r Cyngor yn hoffi derbyn mwy o wybodaeth ar y manteision, ond ychwanegodd fod digwyddiadau o’r fath yn bwysig i economi dyfodol Sir Fynwy. 

·         Roedd pryderon y dylai costau staff a gyfeiriwyd tuag at y digwyddiad gael eu defnyddio mewn meysydd eraill, eto fe wnaed cais y dylid cynnwys  ffigurau a chostau yn yr adroddiad.

·         Mynegodd Aelod mai’r pryder mwyaf oedd cau’r heolydd am gyfnodau mor faith.

·         Cynghorodd Aelod bod awgrym wedi’i wneud yn y cyfarfod briffio Aelodau i berswadio trefnwyr bod y pwyntiau cychwyn a gorffen yn digwydd yn Sir Fynwy yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cynnig i ohirio’r eitem at ddyddiad hwyrach fe gytunwyd i ohirio am 10 munud.

 

Wedi dychwelyd cynghorodd y Prif Swyddog yr Aelodau na fyddai swyddogion yn gallu penderfynu’r union fudd i’r Sir, ac na ellid gwarantu y gellid meintioli’r costau yn y cyfarfod Sir nesaf. Ymhellach, ni fyddem mewn sefyllfa i negodi newid yn y pwyntiau cychwyn/gorffen ar gyfer 2017, ac roedd pryder na fyddai gan Sir Fynwy’r capasiti ar gyfer hyn. Gallai Casnewydd fod yn ystyriaeth, a gallai cynigion i gael llwybr beicio amgen gael dylanwad erbyn 2018.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Sir R.J. Greenland yr argymhellion diwygiedig fel:

Bod y Cyngor yn cytuno i gefnogi Velothon 2017-2020 yn rhwym wrth adolygiad blynyddol wedi’r digwyddiad. Bydd yr arolwg hwn yn cynnwys ymgysylltiad rhagweithiol ac uniongyrchol gyda Chynghorau Tref a Chymuned, a gyda’r gymuned fusnes, yn enwedig y busnesau hynny gafodd eu heffeithio’n andwyol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cynigiodd y Cadeirydd, yn dilyn y trafodaethau, bod cytundeb yn cael ei wneud gyda Run4Wales i gefnogi Velothon 2017, ond eu bod nhw (Run4Wales) yn mynd i’r afael ar frys â’r pryderon a roddwyd ger eu bron a bod swyddogion yn darparu’r dystIolaeth, sydd ar gael, gan gynnwys y costau, y gofynnwyd amdanynt gan Aelodau. Cyflwynir y wybodaeth hon i’r Cyngor ym Medi 2017.

 

Wedi’r bleidlais, cafodd argymhelliad y gwelliant ei gario.

 

 

Dogfennau ategol: