Agenda item

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor adroddiad, y diben oedd diweddaru’r Cyngor gydag Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod hwn yn gyfle i osod cwestiynau i’r Prif Swyddog a fyddai’n rhoi safbwynt proffesiynol uniongyrchol, yn hytrach na’i gyfeirio drwy Aelod Cabinet.

 

Yn ystod trafodaeth fe nodwyd:

 

·         Diolchodd Aelod i’r Prif Swyddog am adroddiad proffesiynol, clir a adnabu enillion a llwyddiannau ond a nododd feysydd gwelliant yn ogystal. 

·         Cyfeiriwyd cwestiwn i’r Prif Swyddog ynghylch adnoddau. Mewn ymateb clywsom y credid bod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi gwella ers i adnoddau ddechrau mynd yn brinnach. Roedd adfyd wedi cymryd y gwasanaeth i fan gwahanol yng nghyd-destun yr hyn a gynigid gan y gwasanaeth. Yr her nawr oedd gweld faint pellach y gallai hyn barhau, yn arbennig yng nghyd-destun Gwasanaethau Oedolion gyda’r demograffegau heriol.

Yng nghyd-destun Gwasanaethau Plant, y nod oedd cyrraedd sefyllfa ariannol gynaliadwy, ac nid dod yn ôl at y Cyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn yn gofyn am fwy o arian. Ar y cyfan roedd y teimlad yn un digalon ond yn optimistig.

·         Gwnaeth Aelod y sylwadau canlynol: 

Ø  Tudalen 14 – nid oedd y disgrifiadau a gynhwysid yn rhoi digon o wybodaeth.

Ø  Tudalen 16 – natur amhriodol hyfforddiant i’r gweithlu, nid oedd y gweithlu’n teimlo iddynt gael cefnogaeth drwy’r ystod o newidiadau.

Ø  Tudalen 18 – cais am gysondeb mewn cofnodi.

·         Nododd Aelod fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Dethol Oedolion a chododd fater amrywiad ac amrywioldeb. Roedd pryder bod preswylwyr yng Nghas-gwent a’r Fenni yn derbyn yr un buddiannau â’r rheiny yng Nghil-y-coed a Threfynwy, ac os nad oeddent, pa mor bell oeddem o gyrraedd y man hwnnw. Cynghorodd y Prif Swyddog, wrth edrych ar Gydgysylltiad Cymunedol, y bydd yr asedau o fewn gwahanol gymunedau’n gwahaniaethu, felly ni fyddai’r gwasanaeth a gynigid yn union yr un fath ond roedd angen i’r egwyddor fod yr un.

·         Yng nghyd-destun comisiynu gwasanaethau, gwasanaethau gofal yn arbennig, mae llawer yn fusnes â chanllaw isel a byddai darparwyr wedi cael eu heffeithio gan nifer o ffactorau. Gofynnwyd cwestiwn, petai’r darparwyr yn codi’u strwythur prisio, fel byddem ni’n ymateb i hynny, ac a oedd perygl y gallai rhai darparwyr ddiflannu. Atebodd y Prif Swyddog fod CSF wedi ymateb i'r Cyflog Byw Cenedlaethol, a adlewyrchwyd yn y pris teg am ofal a dalwyd i gartrefi gofal a darparwyr gofal yn y cartref. Cyfeirir at y ffordd y gweithiwn gyda’r farchnad ddarparwyr ar sail gynaliadwy, yn y gwaith Troi’r Byd Wyneb i Waered, a dyma’r her fwyaf, ond roedd cynnydd da’n cael ei wneud.

·         Awgrymwyd bod yr adroddiad yn dynodi meysydd ar gyfer gwelliant mewn Gwasanaethau Plant a chyfeiriodd Aelod yn arbennig at dudalen 30 Canran yr asesiadau cychwynnol lle gwelwyd y plentyn ar ei ben ei hun gan Weithiwr Cymdeithasol. Cwestiynwyd a oedd yn ddewisach i’r asesiad cychwynnol fod gan berson ar ei ben ei hun neu yng nghwmni arall, neu a fu newid polisi. Cynghorodd y Prif Swyddog fod hyn yn gysylltiedig â dangosydd a archwiliwyd a chofnodwyd rhesymau priodol. Nodwyd bod lefel uchel o waith asiantaeth nad oedd yn arfer orau a gallai effeithio ar yr ansawdd.

·         Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog ar ran yr Aelodau am gipolwg fforensig y gwasanaeth, a gyfoethogwyd gan yr atebion i’r cwestiynau.

 

Penderfynwyd cytuno’r argymhellion:

 

·         Bod y Cyngor yn ystyried ac yn cymeradwyo’r dadansoddiad yn Adroddiad Blynyddol 2015/16 ynghylch y perfformiad, ac effaith, gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd oedolion a phlant dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

·         Mae’r Cyngor hefyd yn ystyried ac yn cymeradwyo meysydd gwelliant 2016/17 a amlinellir yn yr adroddiad i fynd i’r afael â’r peryglon pennaf a’r materion datblygiadol mewn gofal cymdeithasol ac iechyd.

 

Dogfennau ategol: