Agenda item

Rhestr o Gynigion

Cynnig gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy:

 

Rydym yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar. Nid oes yna unrhyw le i hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb yn ein gwlad. Mae ein Cyngor yn condemnio  hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb heb unrhyw amheuaeth. Ni fyddwn yn caniatáu i gasineb i ddod yn dderbyniol. Byddwn yn gweithio  er mwyn sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn cael eu cefnogi a’n derbyn yr adnoddau sydd angen arnynt er mwyn ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia. Rydym am roi sicrwydd i bawb sydd yn byw yn Sir Fynwy eu bod yn aelodau gwerthfawr o’r gymuned. 

 

Cynnig gan Gynghorydd Sir D.Batrouni

 

Mae llawer o bobl ifanc sydd yn chwilio am eu swydd gyntaf yn aml yn ei chanfod hi’n broses anodd, a hynny’n bennaf am fod pobl yn dweud wrthynt nad oes profiad ganddynt. Mae’r gr?p Llafur yn credu bod Cyngor Sir Fynwy yn medru helpu pobl ifanc Sir Fynwy gyda’r broblem hon.  Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Fynwy, mae’r gallu gan y Cyngor i gynnig nifer o interniaethau  ar draws nifer o adrannau sydd yn ymdrin ag ystod eang o sgiliau.  Mae'r gr?p Llafur yn credu y dylem sefydlu proses interniaethau swyddogol lle y mae’r Cyngor yn mynd ati i recriwtio  pobl sydd yn byw yn Sir Fynwy. Dylai pob intern dderbyn cyflog byw sydd yn gymesur â’u hoedran. Drwy wneud hyn, gallwn roi mantais iddynt  yn y farchnad lafur heddiw sydd mor anodd.

 

Cynnig gan y Cynghorydd Sir K.Williams

 

Mae’r Cyngor yn bles iawn i gynnal digwyddiad seiclo yn y Fenni bob blwyddyn. Bydd yn parhau er mwyn sicrhau bod busnesau bach lleol yn elwa o’r digwyddiad pob blwyddyn. 

 

Cofnodion:

a)    Cynnig gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy:

 

Rydym yn falch i fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefol. Nid oes gan hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb le yn ein gwlad. Mae’n Cyngor yn ddigamsyniol yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb. Ni chaniatawn i gasineb ddod yn dderbyniol. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan gyrff a rhaglenni lleol y gefnogaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia.

Rydym yn rhoi’n gair i’r holl bobl sy’n byw yn Sir Fynwy eu bod yn aelodau gwerthfawr o’n cymuned.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cadeirydd am roi’r cynnig gerbron, gan nodi bod llawer o’r aelodau wedi derbyn copi o’r cynnig. Ychwanegodd, wrth gefnogi’r cynnig, ei bod yn bwysig, ar wahân i’r gwrthwynebiad i droseddau casineb, senoffobia a hiliaeth, ein bod yn cydnabod ein cymunedau croesawgar, cydlynus.  

 

Yn dilyn trafodaeth, a’i roi i’r bleidlais, fe basiwyd y cynnig.

 

b) Cynnig gan y Cynghorydd Sir D.Batrouni

 

Mae llawer o bobl ifanc sy’n chwilio am eu swydd gyntaf yn aml yn ei chael yn broses anodd, yn bennaf oherwydd y dywedir wrthynt nad oes ganddynt brofiad. Mae’r Gr?p Llafur o’r farn y gallai Cyngor Sir Fynwy helpu pobl ifanc Sir Fynwy sydd â’r broblem hon. Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Fynwy, mae gan y Cyngor y gallu i ddarparu nifer o interniaethau ar draws nifer o adrannau a rheiny’n cynnig ystod eang o sgiliau. Mae’r Gr?p Llafur yn credu y dylem lunio proses interniaeth ffurfiol lle mae’r Cyngor yn mynd ato o ddifrif i recriwtio pobl sy’n byw yn Sir Fynwy. Dylai pob intern ennill cyflog byw yn gymesur â’i oedran/hoedran. Wrth wneud hyn, gallent gael y blaen yn y farchnad swyddi sydd mor gystadleuol heddiw.

 

Wrth ehangu ar y cynnig tynnodd y Cynghorydd Batrouni sylw at y pwyntiau canlynol:

 

·         Yn hytrach na phroses anffurfiol, mae’r cynnig yn awgrymu llunio rhaglen interniaeth ffurfiol sy’n rhoi profiad i bobl yn y gymuned.

·         Mae’r ystod o sgiliau a phrofiadau y gellid eu cynnig gan y Cyngor yn eang, megis crefft, profiad mewn swyddfa a phrofiad gyda’r cyfryngau, a phrofiad mewn proffesiynau na allai llawer o sefydliadau eu cynnig. 

·         O gofio’n statws, mae’n gwneud synnwyr i greu rhaglen ffurfiol i ddarparu’r sgiliau hyn.

·         Rhoddwyd canmoliaeth i waith Yprentis ond y farn oedd y gallai’r rhaglen hon fod yn fesur syml a allai wneud gwahaniaeth.

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cytunai’r Aelod Cabinet y byddai’r Cyngor yn cyd-fynd â’r sentiment y tu ôl i’r cynnig, a chytunai ei bod yn addas i’r Cyngor helpu.

·         Roeddem yn cydnabod y cyfleoedd gyda’r ddwy Ysgol Uwchradd newydd, a phwysleisiodd y cyfleoedd oedd ar gael i bobl ifanc yn y Sir. Hyd yn hyn yng Nghil-y-coed crëwyd 12 swydd newydd, gwybodaeth am yrfaoedd yn y busnes adeiladu, 200 o wythnosau hyfforddi, 12 tystysgrif am gymhwyso o fewn y gweithlu.

·         Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd wedi darparu cyfleoedd i bobl ifanc sydd wedyn wedi cael eu cyflogi yn y gymuned ehangach.

·         Awgrymwyd bod y term ‘interniaeth’ yn cael ei newid i adlewyrchu cyfle ehangach.

·         Fel Rhieni Corfforaethol, nid oeddem wedi bod yn effeithiol yn darparu profiad gwaith i’n Plant yr edrychir ar eu holau, ac awgrymwyd bod angen ymgymryd â gwaith sylweddol i fynd â’r cynnig rhagddo.

 

 

Eglurodd y Cynghorydd Sir Greenland ein bod eisoes yn gwneud yr hyn a ddisgwylid yng nghyd-destun prentisiaethau ac interniaethau. Mae gan Yprentis 70 o brentisiaid ar draws ardal eang Gwent, rhai o’r rhain o Sir Fynwy ac maent yn cael eu talu’n fwy na’r cyflog byw. Mae nifer o brentisiaethau mewnol, a lle bynnag mae cyfle o fewn y Cyngor cynigir interniaethau. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Greenland welliant i’r cynnig, a gafodd ei eilio, a daeth hwn yn gynnig cadarnhaol:

 

Mae llawer o bobl ifanc yn chwilio am eu swydd gyntaf yn aml yn ei chael yn broses anodd, yn bennaf oherwydd y dywedir wrthynt nad oes ganddynt brofiad. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig amrywiol fentrau, o fewn y Cyngor ac yn allanol, i helpu pobl ifanc Sir Fynwy sydd â’r broblem hon. Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Fynwy, mae’r Cyngor yn darparu nifer o interniaethau/brentisiaethau/gyfleoedd profiad gwaith ar draws nifer o adrannau a rheiny’n cynnig ystod eang o sgiliau. Drwy’r mentrau hyn mae’r Cyngor yn rhoi gwaith i’r rheiny sy’n byw yn Sir Fynwy a mannau eraill. Mae’r cyflogau a delir yn unol â’r cyflog byw, yn gymesur â’u hoedran. Wrth wneud hyn, mae’r Cyngor yn rhoi blaen iddynt yn y farchnad swyddi sydd mor gystadleuol heddiw a byddwn yn parhau i wneud hyn lle bynnag y gallwn.

 

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:

:

 

·         Gofynnwyd am ddata i egluro’r wybodaeth yn y cynnig cadarnhaol.

·         Codwyd pwynt bod cyfyngiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn rhwystro pobl ifanc rhag croesi’r ffin a chael profiad gwaith yn Lloegr.   

·         Holwyd sut gallai pobl ifanc gyrraedd llefydd gwaith gyda’r diffyg trafnidiaeth yn y Sir.

·         Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Addysg y dylai pobl ifanc fod yn gallu cymryd y llefydd oedd fwyaf addas, heb ystyried a oeddent yn Lloegr neu Gymru. Gofynnid am wybodaeth bellach.

·         Cynghorodd Cadeirydd Pwyllgor Dethol Economi a Datblygiad fod y maes hwn yn cael ei archwilio’n rheolaidd.

 

Wedi pleidlais, fe gariwyd y cynnig cadarnhaol.

 

c)         Cynnig gan y Cynghorydd Sir K. Williams:

 

Mae’r Cyngor hwn yn falch o gael croesawu’r digwyddiad beicio yn Y Fenni bob blwyddyn.  Bydd yn parhau i sicrhau bod busnesau bach lleol yn elwa ohono yn flynyddol.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir J. Prosser fuddiant personol, diragfarn dan God Ymddygiad yr Aelodau fel Dirprwy-Faer Y Fenni.

 

Wrth ddatgan y cynnig, ychwanegodd y Cynghorydd Williams ei fod yn dymuno ychwanegu ‘digwyddiad beicio nos Wener’ i’r cynnig.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet â sentiment y cynnig ac ychwanegodd ein bod yn gobeithio parhau i groesawu digwyddiadau yn y dref. Yn anochel ni fyddai pob busnes bob amser yn elwa ond y nod oedd bod yn deg i’r holl fasnachwyr, ac awgrymwyd bod y pwyntiau cychwyn a’r pwyntiau gorffen yn cael eu symud yn unol â hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Greenland welliant i’r cynnig, a gafodd ei eilio, a daeth yn gynnig cadarnhaol:

 

Mae’r Cyngor hwn yn falch o gael croesawu’r digwyddiad beicio nos Wener yn Y Fenni bob blwyddyn.  Bydd yn parhau yn ei ymdrechion i hyrwyddo iechyd drwy chwaraeon tra mae’n cynnig manteision ychwanegol i fusnesau bach lleol drwy ddenu mwy o bobl i’r ardal fel y gwna’r digwyddiad hwn a digwyddiadau tebyg. Byddwn yn ceisio symud y llinell gychwyn/orffen o gwmpas fel y gall yr holl fasnachwyr rannu’r manteision.

 

 

Wedi pleidlais, fe gariwyd y cynnig cadarnhaol.