Agenda item

Diweddariad Tîm y Dref

Cofnodion:

Cyswllt

 

Y diweddariad diwethaf a dderbyniwyd gan landlordiaid neu Gyngor Sir Fynwy oedd ar Orffennaf 4ydd 2016, nodai’r e-bost, dros y ddwy wythnos nesaf, y dylai dogfennaeth gael ei chwblhau a’u bod yn hynod ymwybodol o’r angen i fwrw ymlaen gyda’r prosiect. Mae Aaron Weeks wedi e-bostio’r holl bartïon yn gofyn am ddiweddariad, ond heb dderbyn ymateb adeg y cyfarfod.

 

 

Siopau Codi’n Chwap yn bwrw Cil-y-coed

 

Gydag oedi maith o ganlyniad i ollyngiad d?r yn yr uned lle cynhelir y siop codi’n chwap, cyhoeddodd Tîm y Dref y bydd lansiad swyddogol y prosiect ar ddydd Mawrth, Awst 9fed 2016.  Bydd yr holl Aelodau’n derbyn gwahoddiad ffurfiol dros yr wythnos nesaf, bydd y lansiad yn gyfle i siarad mewn mwy o fanyldeb ynghylch y prosiect, beth yw’n deilliannau disgwyliedig a beth ellid ei wneud law yn llaw gyda’r prosiect i atal dirywiad y canol tref.

 

Store 21

 

Mae Store 21 yn ddiweddar wedi gosod arwyddion cau lawr. Nid symudiad lleol yw hwn, mae’r cwmni wedi bod mewn trafferthion am y 6 blynedd ddiwethaf, i amrywiol raddau.

Mae gan y cwmni tan 11eg Awst i benderfynu, gyda gweinyddwyr, a fyddai’r cwmni’n parhau. Roedd Aaron Weeks yn falch i ddweud eu bod ers ddoe wedi mynd mewn i Gytundeb Gwirfoddol Cwmnïau (CVA) fodd bynnag nid yw hyn heb ei broblemau  a gwelir nifer o siopau manwerthu  yn cau ar draws y wlad. Nid yw Tîm y Dref yn ymwybodol hyd yn hyn o unrhyw benderfyniadau’n gysylltiedig â siop Cil-y-coed , ond mae’n cadw i fyny ar newyddion sy’n dod o’r cwmni. Wedi dweud hynny, ar ôl sgwrs hir â’r landlord yr wythnos ddiwethaf, mae’n cymryd camau i gyfathrebu’n uniongyrchol gyda chwmnïau eraill sydd yn flaenorol wedi cofrestru diddordeb yng Nghil-y-coed. Mae e wedi cadarnhau hefyd y bydd Tîm Tref Cil-y-coed yn ymwneud ag unrhyw drafodaethau a gynhelir ac yn cymryd rhan ynddynt., am ei fod yn teimlo hy gallai’r cynlluniau ailddatblygu fod yn bwynt allweddol i ddod mewn â mwy o frandiau cenedlaethol.

 

Prosiect Dylunio Dinesig

Wedi cymryd seibiant o’r prosiect hwn, o ganlyniad i ymrwymiadau eraill, mae Tîm y Dref wedi trefnu cyfarfod ar gyfer 1pm heddiw i edrych ar symud y prosiect ymlaen, gwahoddwyd Aelodau i fynychu. Bydd Tîm y Dref yn canolbwyntio ar y ddau gam y dymunai’r cyhoedd eu gweld fwyaf, sydd hefyd yn gweddu i’w harolygon a gyflawnwyd yn 2013, 2014 a 2015. Gwahoddwyd landlordiaid i’r cyfarfod, fodd bynnag maent yn analluog i fynychu. Bydd Tîm y Dref yn aildrefnu cyfarfod i’w gynnal yn ystod Awst/yn gynnar ym Medi. Bydd gwaith yn parhau yn y cefndir yn ystod yr amser hwn.

 

Glanhau 

 

Mae glanhau’r dref wedi cychwyn eisoes, symudwyd yr holl chwyn. Mae Tîm y Dref yn siarad â landlordiaid ynghylch gweithredu cynlluniau newydd i ymdrin â mannau clwydo colomennod ac rydym yn ddiweddar wedi derbyn amcan brisiau gan Gumdrop Bins i redeg treial ar sbwriel cnoi gwm yn y dref. Yn ddiweddar, mae Tîm y Dref wedi anfon llythyrau i bob busnes sydd â cholofnau allanol, ond nid canopïau, i fagu diddordeb a gosod basgedi crog drwy’r dref gyfan, lle caiff y planhigion eu cynnal yn rheolaidd drwy gyfrwng Fferm Gymunedol Cil-y-coed (Fat Pigeon Farm) a‘u cynnal a’u cadw gan fusnesau.

 

 

 

Digwyddiadau  - Diwrnod 999

 

Ar ddydd Sul 10fed Gorffennaf trefnodd Tîm y Dref y Diwrnod 999 cyntaf  yng Nghastell Cil-y-coed, roedd yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, a chymerwyd rhan gan Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Beiciau Gwaed, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac eraill. Gwelodd y digwyddiad oddeutu  3,500 o fynychwyr drwy gydol y dydd, mwy na’r disgwyl. Mae Tîm y Dref yn falch i fod wedi llogi digwyddiad y flwyddyn nesaf yn barod a fydd yn digwydd ar 9fed Gorffennaf  2017.

 

Digwyddiadau – Diwrnod Hwyl i’r Teulu

 

Ar ddydd Gwener Awst 5ed, bydd Tîm y Dref yn cynnal Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn y canol tref, bydd adloniant unigryw, sy’n cynnwys dychweliad y trên tir, reidiau asynnod, a hyd yn oed tanc d?r trochi. Rhoddodd   Aaron Weeks daflenni i Aelodau, a gwnaeth gais iddynt eu dosbarthu i grwpiau/aelodau.  Mae Tîm y Dref wedi gofyn am gau ac wedi cymeradwyo cau’r maes parcio ar y diwrnod ar 5ed Awst , bydd parcio ar gael ym maes parcio  Ffordd Woodstock, ynghyd ag Asda a Waitrose.