Year-end Performance Reporting together with Outcome Agreements and Improvement Plan.
Cofnodion:
Cyd-destun:
Ymgymryd â chraffu cyflenwi gwasanaeth a pherfformiad ar draws Amddiffyn y Cyhoedd yn 2015/16. Mae’r Is-adran Amddiffyn y Cyhoedd yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Yr argymhellion yw i’r Pwyllgor ystyried a gwneud sylwadau ar gynnwys yr adroddiad yn dwyn yr enw ‘Perfformiad Amddiffyn y Cyhoedd’ ar gyfer y flwyddyn 2015/16.
Materion Allweddol:
Mae ffocws gwahanol i’r Cytundeb Canlyniadau a’r Amcanion Gwelliant:
Amcanion Gwelliant
Gosodir Amcanion Gwelliant yn flynyddol gan y Cyngor i gyflenwi ar flaenoriaethau. Er gwaethaf amcanion yn cael eu ffocysu ar yr hir dymor mae’r gweithgareddau penodol sy’n eu cefnogi’n ffocysu’n arbennig ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae gweithgarwch sy’n cyfrannu at rai amcanion yn trawstorri cyfrifoldebau’r Pwyllgor Dethol a chafodd y rhain eu hadrodd i’r pwyllgor(au) perthnasol eraill. Felly awgrymir bod aelodau’n canolbwyntio’u craffu ar y gweithgarwch sy’n berthnasol i’r Pwyllgor gan ystyried ei gyfraniad i’r amcan fel cyfanwaith.
Rhoddir sgôr i Amcanion Gwelliant yn seiliedig ar fframwaith gwerthuso Hunan-arfarnu’r Cyngor., fel yr amlinellir yng Nghynllun Gwelliant 2015/17, Tabl 1, a chofnodir perfformiad yn eu herbyn yng Ngham 2 y Cynllun Gwelliant a gyhoeddir ym mis Hydref bob blwyddyn.
Cytundeb Canlyniadau
Mae’r Cytundeb Canlyniadau’n gytundeb gyda Llywodraeth Cymru am gyfnod o dair blynedd, lle mae angen i’r Cyngor gyflenwi ar weithgarwch perfformiad a thargedau cysylltiedig sy’n cyfrannu at y Rhaglen Lywodraethu. Roedd y Cytundeb yn berthnasol ar gyfer y cyfnod o 2013 i 2016.
Yn haf 2015 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y flwyddyn derfynol o gyllid am berfformiad yn 2015-16. Ni fyddai cyllid mwyach yn gysylltiedig â pherfformiad yn y Cytundeb Canlyniadau a byddai’n cael ei dreiglo’n uniongyrchol i mewn i’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2016-17. Golyga hyn fod y taliadau yn erbyn y targedau yn y cytundeb ar gyfer ar gyfer 2015-16, wedi’i sicrhau. Dyfarnwyd i’r Cyngor hefyd daliad llawn yn y ddwy flynedd flaenorol. Fodd bynnag o gofio’r pwysigrwydd a roddwyd ar y cytundeb fel rhan o fframwaith perfformiad y Cyngor cyflawnwyd gwerthusiad o berfformiad a gyrhaeddwyd dros y tair blynedd o gytundeb. Mae’r y gwerthusiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a’r dangosyddion perfformiad a osodwyd yn y Cytundeb Canlyniadau.
Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Mae Atodiad 3 yn amlinellu Dangosyddion Perfformiad Allweddol sydd yn y garfan dangosyddion Perfformiad Cenedlaethol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ac sydd dan gyfrifoldeb y Pwyllgor. Y prif bwrpas yw tynnu sylw at y perfformiad a gyflawnwyd yn 2015/16. Mewn rhai achosion gallai hyn arwain at ddyblygu dangosyddion a gynhwysir eisoes mewn rhannau eraill o’r adroddiad. Lle cyfeiria dangosyddion at berfformiad gwasanaethau sydd dan gyfrifoldeb mwy nag un pwyllgor caiff y rhain hefyd eu hadrodd i’r pwyllgorau perthnasol eraill.
Craffu Aelodau:
:
Yn ystod trafodaeth gofynnodd yr Aelodau am lefelau salwch cynyddol a mynegi pryderon ynghylch llesiant staff.
Gofynnwyd paham fod canran y gwerthusiadau wedi disgyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dywedwyd wrthym fod problemau cofnodi gyda dyfais ‘Clocio Mewn, Clocio Allan’ y Sir, a oedd yn cael eu datrys..
Gofynnwyd paham mai 76% oedd wedi manteisio ar y tocyn bws gostyngol a dywedwyd wrthym fod pob person oedd wedi gwneud cais amdano wedi’i dderbyn. .
Casgliad y Pwyllgor:
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am yr adroddiad manwl ac edrychai ymlaen at y diweddariad nesaf ymhen chwe mis yn Nhachwedd. |
Dogfennau ategol: