Focus on Environmental Health
Cofnodion:
Cyd-destun:
Ymgymryd â chraffu cyflenwi gwasanaeth a pherfformiad ar draws Amddiffyn y Cyhoedd yn 2015/16. Mae’r Is-adran Amddiffyn y Cyhoedd yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Yr argymhellion yw i’r Pwyllgor ystyried a gwneud sylwadau ar gynnwys yr adroddiad yn dwyn yr enw ‘Perfformiad Amddiffyn y Cyhoedd’ ar gyfer y flwyddyn 2015/16.
Materion Allweddol:
Cymeradwyodd y Cabinet adroddiad ym Mawrth 2014 yn argymell gostyngiadau cyllideb i’r gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd ar gyfer 2014/15 a’r blynyddoedd i ddod. Daeth y gostyngiad i £140,000, yn cynrychioli 7.2% o leihad mewn staff. Cafodd effaith y gostyngiad hwn ei graffu gan y Pwyllgor hwn yn Nhachwedd 2014, cyn i adroddiad fynd i’r Cabinet ar 7fedIonawr 2015. Ar yr adeg hon gwnaeth y Cabinet gais am adroddiadau bob chwe mis i’r pwyllgor Cymunedau Cryf i fonitro perfformiad ac asesu unrhyw effeithiau negyddol. Y bwriad oedd adolygu cynnydd a chymryd unrhyw gamau gweithredu a dybid yn angenrheidiol.
Cyflwynwyd adroddiad perfformiad i’r Pwyllgor hwn ar 14eg Medi 2015.
Mae’r adroddiad ynghlwm yn crynhoi perfformiad dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2015/16, ac mae’n tynnu sylw at y canlynol –
· mae’r pedwar tîm gwasanaeth, ar gyfer mwyafrif llethol y gwasanaethau maent yn eu cyflenwi, yn cwrdd â goblygiadau cyfreithiol yr Awdurdod mewn perthynas â’r gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd.
· bu ychydig ddirywiad mewn cau cwynion o fewn Amddiffyn y Cyhoedd, er enghraifft cwynion yn ymwneud â s?n ac achosion statudol eraill o niwsans.
· bydd adroddiadau chwe misol yn parhau i gael eu gwneud i’r Pwyllgor hwn i asesu effaith gostyngiad yn y gyllideb ar berfformiad Amddiffyn y Cyhoedd.
· mae archwiliadau diweddar, gan Swyddfa Archwiliad Cymru ac Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, yn dangos bod perfformiad cyfredol yn foddhaol o fewn Iechyd Amgylcheddol, ond byddai’r gwasanaeth yn ei chael hi’n anodd cymryd arno unrhyw ddyletswyddau statudol newydd sy’n amddiffyn y cyhoedd a’r amgylchedd.
Craffu Aelodau:
Gofynnodd Aelodau faint o staff oedd gan y Tîm Iechyd Amgylcheddol a dywedwyd wrthym 6.5 ynghyd â myfyriwr.
Dywedwyd wrthym fod swyddogaeth y Myfyriwr yn annatod i’r tîm. Adolygwyd holl ymweliadau’r myfyriwr am yr ychydig fisoedd cyntaf nes y teimlwyd bod y myfyriwr yn gallu gweithio’n annibynnol. Cynhwysai dyletswyddau’r myfyriwr ymweld â safleoedd gadael sbwriel yn anghyfreithiol, casglu samplau d?r, ymweld â safleoedd lle mae baw c?n.
Dywedodd y Swyddogion wrth y Pwyllgor am brosiectau cyfredol megis yr Eisteddfod, lle’r oedd eu cyfrifoldebau’n rhychwantu sawl maes gan gynnwys niwsans s?n a glanweithdra bwyd.
Gofynnodd Aelod sut oedd y tîm yn delio â llygredd aer a dywedwyd wrthym fod Iechyd Amgylcheddol yn monitro aer yn rheolaidd, Ar hyn o bryd mae gan Frynbuga a Chas-gwent drafferthion gydag ansawdd aer.
Trafododd yr Aelodau orfodaeth parthed baw c?n a gollwng sbwriel gydag Aelod yn dweud wrth y Pwyllgor am Gyngor lleol sy’n cyhoeddi lluniau o aelodau’r cyhoedd yn gollwng sbwriel fel ataliad.
Llongyfarchodd Aelodau’r Tîm Amgylcheddol ar ei waith a gofynnodd i swyddogion beth oedd eu pryderon. Mewn ymateb dywedwyd wrthym fod y tîm yn gweithio ar gapasiti llawn a byddai’r pryderon a gynyddai llwyth gwaith yn creu anhawster gan y teimlid bod y tîm eisoes yn orlwythog. A’u bod eisoes mor greadigol â phosibl gyda’u hamser.
Ofnai Aelodau petai’r gwasanaeth yn cael ei ymestyn ymhellach byddai’n effeithio ar iechyd cyhoeddus sy’n hollbwysig.
Casgliad y Pwyllgor:
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddogion drosglwyddo’u diolchiadau nôl i’r tîm cyfan am y gwaith a wnânt.
Roedd pryderon am iechyd cyhoeddus ac agweddau o’r adroddiad. Mae’r Pwyllgor yn awchus i adolygu’r materion ymhen chwe mis.
Yn ystod proses gosod y gyllideb, byddem yn hoffi’i gweld yn cael ei thrin ar wahân o ganlyniad i’r pryderon a fynegwyd.
|
Dogfennau ategol: