Agenda item

Adolygu cynnydd Bwrdd Rhanbarth Dinas Caerdydd - cyflwyniad.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog Menter gyflwyniad ar Ddêl Dinas Caerdydd yn esbonio y bydd y Cynghorydd Sir P. Fox yn rhoi adroddiad ar gynnydd gyda Bwrdd Trosiant Dêl Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd maes o law.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog y Ddêl Dinas gan esbonio y bydd yn rhoi buddsoddiad ar gyfer twf economaidd ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a 10 awdurdod lleol. Esboniwyd fod y Ddêl Dinas yn cynnwys cronfa buddsoddi seilwaith o £1.2 biliwn ar gyfer prosiectau a rhaglenni a all roi adenilliad buddsoddiad o fewn y rhanbarth.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, holodd Aelod am y cynlluniau i ddarparu gwell sgiliau TG i athrawon i ategu'r datblygiadau. Dywedodd y Cadeirydd y cynhaliwyd cyd-gyfarfod rhwng Economi a Datblygu a Phwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 11 Gorffennaf 2016 yn canolbwyntio ar ddarpariaeth a sgiliau TG.

 

Ymatebodd  Prif Swyddog Menter ei bod yn bwysig fod y swyddi a gaiff eu creu ar gyfer ein pobl ifanc a chyfeiriodd at sefydlu'r Bartneriaeth Sgiliau Dysgu ac Arloesedd ar gyfer De Ddwyrain Cymru i roi gwybodaeth ar gyfer y gofynion sgiliau o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch yn gysylltiedig â gwybodaeth economaidd yn y rhanbarth.

 

Gofynnodd Aelod gwestiwn am barhad cefnogaeth ariannol ar gyfer ymchwil wyddonol a'r goblygiadau ar gyfer y prosiect Metro yn dilyn Brexit. Gofynnwyd hefyd sut i sicrhau atebolrwydd a buddion y Ddêl Dinas ar gyfer ein hetholwyr.

 

Ni fedrai'r Prif Swyddog Menter roi sylwadau gan fod goblygiadau Brexit yn aneglur ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw aelodau at IQE, cwmni sydd yn arwain ym maes datblygu uwch led-ddargludyddion cyfansawdd gyda photensial i wireddu nifer sylweddol o gyfleoedd swydd yn y dyfodol. Nododd y Prif Swyddog Menter bwysigrwydd cydnabod y Pwynt Gwerthu Unigryw ar gyfer Sir Fynwy a'r rhanbarth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd unwaith y bydd y deg awdurdod lleol wedi llofnodi'r cytundeb, y bydd pob un yn cael cyfle i gael mynediad i gyllid ar gyfer prosiectau sydd fwyaf perthnasol i'w ardal. Mae'n rhaid i brosiectau arfaethedig gael maint ac arwyddocâd rhanbarthol a bod yn berthnasol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

 

Nododd y Cadeirydd yr angen i weithio gyda chymunedau, yn cynnwys yr ardaloedd anodd eu cyrraedd, i gefnogi creu swyddi o wahanol lefelau. Holwyd, er enghraifft, os gellid cynyddu'r cynllun prentisiaeth ar gyfer yr holl ranbarth i sefydlu cyfleoedd lefel mynediad sy'n tyfu i swyddi llawn-amser ar gyflog da.

 

Gofynnodd Aelod am gwestiynau ar gyfer ymgysylltu tu allan i Gymru.

 

Cytunodd Prif Swyddog Menter fod ymagwedd gydlynol gyda Gorllewin Lloegr i'w annog a chyfeiriodd at sefydlu cysylltiadau gyda phartneriaeth Dinasoedd Great Western a Business West.

 

Awgrymwyd y gallai camau bach gynnwys cynrychiolaeth o sefydliadau cyflogwyr a chyflogwyr ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Trafododd aelodau bwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith yn benodol yn nhermau trafnidiaeth a chyfathrebu a band eang cyflym iawn. Dywedwyd na fydd y Metro arfaethedig yn helpu rhai ardaloedd o Sir Fynwy gan nodi fod y mynediad i fysus yn gyfyngedig a bod ardaloedd y Cymoedd a Chaerdydd yn fwy tebygol o dderbyn buddsoddiad. Dywedwyd y dylai sefydliadau addysg uwch ganolbwyntio ar bynciau mwy technolegol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Menter fod Prifysgol Caerdydd mewn cysylltiad gyda Sefydliad Alacrity yn mynd rhagddynt yn dda i sefydlu academi meddalwedd genedlaethol i ostwng hyd cyrsiau gradd ac arbenigo mewn datblygu meddalwedd ar gyfer diwydiannau technolegol.

 

Cytunodd y Cadeirydd y byddid yn trefnu ymweliad anffurfiol ar gyfer gwybodaeth Aelodau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyfraniadau i'r cyfarfod.