Agenda item

Trafod canlyniadau y Brecwast Busnes yng nghyswllt:

·         Twristiaeth ac arwyddion brown

·         Hysbysebu a marchnata

 

Cofnodion:

Yn dilyn cyfarfod y Brecwast Busnes a gynhaliwyd ym mis Mai ac a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf, fe wnaethom barhau i adolygu'r materion a ddynodwyd. Croesawyd Fiona Wilton o Gymdeithas Twristiaeth Dyffryn Gwy a Choedwig Dena i'r cyfarfod. Trafodwyd y materion a godwyd yn y Brecwast Busnes fel sy'n dilyn:

 

           Band eang cyflym iawn: Croesawyd y drafodaeth gref ar ddarpariaeth band eang cyflym iawn ledled y sir. Dywedwyd fod angen gweithredu i gefnogi busnesau twristiaeth bach sy'n dibynnu ar farchnata digidol ac a gafodd eu llesteirio drwy ddiffyg gwasanaeth.

 

           Ymgysylltu Busnes: Esboniwyd cylch gorchwyl, strwythur a'r Ardal y mae'r Gymdeithas yn ei gwasanaethu. Hysbyswyd aelodau fod 300-400 aelod ar hyn o bryd. Mae'r Gymdeithas yn awyddus iawn i ymgysylltu gyda Sir Fynwy. Esboniwyd fod gan y Gymdeithas wefan effeithlon sy'n cynnwys y tair sir (Sir Fynwy (cyn belled â'r Fenni), Swydd Henffordd a Swydd Caerloyw) a dywedodd y croesewid cydlynu a chydweithredu gyda llwyfannau digidol eraill i gynyddu cyfleoedd i'r eithaf ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfryngau cymdeithasol.

 

           Gwefan i aelodau'n unig: Mae'r wefan i aelodau'n unig yn rhoi adnoddau ar gyfer busnesau a chadarnhawyd y gellid ychwanegu gwybodaeth a digwyddiadau Sir Fynwy at yr adnodd.

 

           Polisi: Amlygwyd yr angen i sicrhau cydlynu polisi a threfniadaeth strategol. Dywedwyd fod gan y Gymdeithas strategaeth cyrchfannau a'i fod yn ymgynghori gyda’r Pennaeth Twristiaeth yng nghyswllt hyn.

 

           Ymwybyddiaeth busnes: Cadarnhawyd fod llawer o fusnesau'n gweithio'n llwyddiannus mewn ardaloedd clwstwr daearyddol gan mai dyma'r ffordd y mae ymwelwyr yn gweld yr ardal.

 

           Cyfathrebu: Mae'r Gymdeithas yn trin diffyg cyfathrebu gydag aelodau busnes bach. Esboniwyd y cynhaliwyd cyfarfodydd gyda nifer dda'n bresennol.

 

           Canolfannau Croeso: Dywedwyd y dylid cadw Canolfannau Croeso ar agor cyn belled ag sy'n bosibl. Er bod Cyngor Dosbarth Coedwig Dena wedi cau canolfannau croeso, hysbyswyd aelodau fod Cyngor Tref Coleford wedi agor canolfan groeso'n llwyddiannus gyda gwirfoddolwyr yn ei staffio.. 

 

Dywedodd y Swyddog fod Cyngor Sir Fynwy yn awyddus i ymwneud â gwaith y Gymdeithas, yn arbennig gamau nad ydynt angen unrhyw lwyth gwaith ychwanegol gan fod capasiti yn gyfyngedig. Cytunwyd y gellid rhannu cynnwys ar-lein ar sail gilyddol, fel sy'n digwydd gyda chymdeithasau twristiaeth eraill sy'n gweithredu yn yr ardal. Cydnabyddir nad yw rhai busnesau yn hysbysebu ar y wefan ond cânt eu hannog i gyflwyno eu manylion i gael eu cynnwys. Croesawodd y Swyddog gyfleoedd ar gyfer cydweithio agosach. Fodd bynnag, nodwyd mai dim ond ar gyfer busnesau yng Nghymru y mae'r cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru ac efallai nad yw prosiectau bob amser yn cyd-ffinio yn y cyswllt hwn.

 

Craffu Aelodau

 

Holodd y Cadeirydd am y cynlluniau i sicrhau ymgysylltu gyda'r gymuned twristiaeth ehangach. Dywedodd y Swyddog y sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cyrchfan a ddaeth i ben yn 2015 ac i adolygu'r trefniadau partneriaeth sy'n sylfaen iddo. Ymgynghorir â'r holl randdeiliaid, yn cynnwys Cymdeithas Twristiaeth Dyffryn Gwy a Choedwig Dena.

 

Heriodd Aelod ymagwedd y Cyngor at dwristiaeth leol a dynodi'r angen i ddeall yr effaith ar yr economi lleol a dywedwyd y dylid ymchwilio pob llwybr i gynyddu cyfleoedd i'r eithaf ar gyfer refeniw o dwristiaeth.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog Menter y caiff gwerth economaidd twristiaeth ei ddeall gan ychwanegu fod y Cyngor wedi buddsoddi mewn digwyddiadau ac atyniadau. Ychwanegwyd yr atgoffwyd Aelodau y bu gostyngiad o 15% yn y gyllideb sydd wedi effeithio ar allu'r Cyngor i weithredu a chyllido canolfannau croeso ond y gellid ymchwilio model arloesol. Tanlinellwyd hefyd bwysigrwydd dull gweithredu cydlynol.

 

Soniodd Aelod am werth cadarnhaol Brecwastau Busnes ac annog mwy o gyfleoedd am ymgysylltu gyda busnesau bach a sefydliadau busnes lleol. Dywedodd y Swyddog y cynhelir digwyddiad Ymweld â Sir Fynwy yn flynyddol gyda phresenoldeb da, yn ogystal â llawer o gyfarfodydd eraill, arddangosfeydd ac yn y blaen. Dywedodd Aelod y dylai mwy o fusnesau fod wedi mynychu'r digwyddiad a holodd am y gronfa ddata o gysylltiadau.

 

Gofynnodd Aelod am fodel busnes y ganolfan croeso yn Coleford ac eglurwyd bod Cyngor Tref Coleford yn darparu'r safle ac yn talu'r gorbenion, caiff ei staffio gan wirfoddolwyr a chafodd ei sefydlu gydag arbenigedd gwirfoddolwyr. Awgrymodd yr Aelod y gellid defnyddio'r un model i ddarparu canolfan croeso yng Nghas-gwent mewn cysylltiad â sefydliadau busnes lleol. Daethpwyd i'r casgliad ei bod yn werth ymchwilio'r model a awgrymwyd ymhellach. Dywedodd y Swyddog y gwneir llawer o ddefnydd o wirfoddolwyr yn barod a rhoddodd yr enghraifft o ganolfan croeso lwyddiannus y Fenni a sefydlwyd mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref y Fenni, Ysgubor y Degwm ac Ymddiriedolaeth Priordy Santes Fair a Chymdeithas Twristiaeth y Fenni a'r Cylch. Ychwanegwyd y comisiynwyd astudiaeth dichonolrwydd Cynllun Datblygu Gwledig i ystyried datblygu gwybodaeth gynaliadwy i ymwelwyr ar gyfer Sir Fynwy a Chasnewydd. Cydnabyddir pwysigrwydd canolfannau croeso ac awgrymwyd bod angen rhannu'r costau'n deg gyda'r rhai sy'n cael budd ohoni. Dywedwyd fod yr holl gymuned yn cael budd.

 

Holodd Aelod am y nifer sy'n ymweld â'r ganolfan croeso newydd yn y Fenni o gymharu gyda'r hen safle. Cytunodd y swyddog i roi'r wybodaeth a geisir yn y cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog fod y Cyngor yn cyfrannu arian i ganolfan croeso y Fenni, bod busnesau bach yn y dref hefyd yn cyfrannu a bod Cymdeithas Twristiaeth Bannau Brycheiniog yn rhoi cefnogaeth weinyddol. Gan ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Swyddog fod rhai o dywyswyr Eglwys Santes Fair yn rhoi cymorth ac wedi cwblhau hyfforddiant Llysgennad. Cytunodd y Swyddog i ddod â manylion unrhyw ostyngiad mewn incwm i'r cyfarfod nesaf hefyd.

 

Gofynnodd aelodau am eglurhad am arwyddion canolfannau croeso mewn gwahanol leoliadau a dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau fod peth cyllid wedi'i ddyrannu i wella arwyddion fel canlyniad i'r adolygiad o feysydd parcio. Cynhelir gwaith gyda busnesau i ymchwilio gwelliannau i ddiweddaru arwyddion.

 

Holodd y Cadeirydd am ymagwedd y tîm at bolisi hysbysebu a dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau y cafodd y polisi ei ddehongli'n ddychmygus i gynnig cyfleoedd arwyddion i fusnes. Mae mwy o ymrwymiad i greu incwm drwy hysbysebu tra'n hyrwyddo busnesau drwy arwyddion brown. Caiff y polisi ei adolygu i adlewyrchu'r cyllid sydd ar gael.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am amserlenni a chytunodd y Pennaeth Gweithrediadau i ddod ag amserlen i gyfarfod yn y dyfodol. Ychwanegir hyn at y cynllun gwaith a gofynnir am ddiweddariadau yn unol â hynny.

 

Mynegodd aelodau beth pryder y dylai'r arwyddion a'r polisi fod wedi eu hadolygu'n gynharach er cyfleuster ymwelwyr haf eleni. Dywedodd y Swyddog y gwnaed llawer o waith, fel rhan o'r rhaglen Cynllun Datblygu Gwledig diwethaf, i archwilio ac adolygu arwyddion cerddwyr a phriffyrdd mewn 11 anheddiad yn y sir. Sicrhawyd cyllid i weithredu argymhellion yr adolygiad. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghoriad gyda chymunedau ac arweiniodd at e.e. arwyddion mynediad tref newydd yn cynnwys cyfeiriad at atyniadau. Ychwanegwyd fod arwyddion yn mynd yn hen yn gymharol gyflym a'i fod yn parhau mewn cyflwr da o gymharu gydag ardaloedd eraill. Esboniodd y Swyddog bod ffynonellau cyllid yn cael eu ceisio bob amser ac mae ymgyrch gyson ar gyfer gwella.

 

Dywedodd Aelod y bu grantiau ar gael yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru a holodd sut y caiff cyllid o'r fath ei ddosbarthu ar draws Sir Fynwy. Cadarnhaodd y Swyddog fod cefnogaeth ar gael o brosiect y Cynllun Datblygu Gwledig lle dyfarnwyd cyllid ar feini prawf ond nad yw hyn ar gael mwyach. Ychwanegir y caiff y gost ei throsglwyddo i'r busnes a gaiff ei hyrwyddo ynghyd â ffi gweinyddu fach.

 

Holodd Aelod os gellid amlygu atyniadau tref ar y mapiau tref a argreffir gan Siambrau Masnach i helpu ymwelwyr. Dywedodd y Swyddog y cafodd y rhan fwyaf o fapiau trefi eu hadolygu ac yn cynnwys pwyslais ar atyniadau allweddol. Gofynnodd y Cadeirydd am ysgrifennu at y Siambrau Masnach gan dynnu eu sylw at y pwynt hwn. Dywedodd Aelod fod Cyngor Tref y Fenni wedi argraffu 100,000 o fapiau i'w dosbarthu i ymwelwyr yn yr Eisteddfod. Gofynnodd y Swyddog am fersiwn PDF i'w anfon at drefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol i'w gynnwys yn eu rhestri dosbarthu ar gyfer ymwelwyr sy'n gwersylla a charafanio.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am i ystadegau STEAM ('Scarborough Tourism and Economic Assessment Model') gael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gynnal mwy o Frecwastau Busnes, dywedodd y Pennaeth Economi a Menter wrth Aelodau fod y gronfa ddata yn cynnwys dros 2300 cofnod a rannwyd yn sectorau ac ychwanegodd fod llu o weithgareddau rhwydweithio ar gyfer busnesau ac y gall Aelodau fynychu'r digwyddiadau hyn. Mae'r dyddiadau ar gael ar adran Menter y wefan. Oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau, ychwanegwyd nad oes capasiti i drefnu brecwastau busnes fel arall.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i Fiona Wilton am fod yn bresennol ac am ei chyfraniad i'r cyfarfod, gan gydnabod y drafodaeth gadarnhaol a dynodi meysydd ar gyfer gweithio agosach. Byddai'r Cadeirydd yn croesawu ei phresenoldeb mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Dynododd y Cadeirydd gamau gweithredu o'r cyfarfod yn cyfeirio at y Cynllun Rheoli Cyrchfannau a fydd ar gael ar gyfer ymgynghoriad i Aelodau Ward ac Aelodau Pwyllgor yn y dyfodol agos.

 

Roedd y Cadeirydd yn cydnabod y teimladau cryf am Ganolfan Croeso Cas-gwent a gofynnodd am ymchwilio opsiynau tebyg i fodel Coleford.

 

Yng nghyswllt arwyddion brown a gwyn, dywedodd y Cadeirydd y dylai'r polisi gael ei adolygu a'i ychwanegu at y flaenraglen waith.

 

Wrth edrych i'r dyfodol, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn adolygu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Dwristiaeth ym mis Chwefror cyn ei fabwysiadu ym mis Ebrill.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyfraniad ac am eu presenoldeb.

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: