Cofnodion:
Cyflwynodd Prif Swyddog Menter ddata diwedd y flwyddyn ar gyfer yr Amcanion Gwella sy'n dod dan gylch gorchwyl Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu:
Cyflwynodd yr adroddiad werthusiad o'r rhaglen a'r effaith dros dair blynedd y Cytundeb Canlyniadau 2013-16. Y themâu sydd dan gylch gorchwyl y pwyllgor:
Derbyniwyd hefyd y perfformiad diweddaraf ar y dangosyddion perfformiad cenedlaethol allweddol ehangach sydd dan gylch gorchwyl y pwyllgor.
Argymhellion:
Argymhellwyd bod:
Craffu gan Aelodau
Gofynnodd Aelod pam fod y perfformiad mewn tai yn gostwng a pha gynlluniau sydd i wella perfformiad y dyfodol. Esboniodd y Swyddog fod y cyfnod dan ystyriaeth yn adlewyrchu diwedd eithaf y Cynllun Datblygu Trefol ac nad yw nifer cwblhad o'r Cynllun Datblygu Lleol wedi dod i rym eto ac y caiff bwlch amser mewn safleoedd yn cyflwyno ei adlewyrchu yn y cyflenwad tir tai 4.1 mlynedd a gadarnhawyd. Rhoddir adroddiad ar y mater yn y cyfarfod nesaf fel rhan o'r adroddiad monitro blynyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig. Esboniodd y Swyddog ymhellach y medrir priodoli'r nifer isel o anheddau a gwblhawyd i'r economi allanol, tai a gwblhawyd a diwedd y dirwasgiad.
Esboniodd y Swyddog fod perfformiad is o gymharu â'r targedau ar gyfer unedau tai fforddiadwy yn nodwedd o'r economi presennol a heriau'n gysylltiedig â hyfywedd cynlluniau. Ychwanegodd y Swyddog y byddai’n fanteisiol trafod argaeledd safleoedd yn y Pwyllgor Cynllunio. Cyfeiriodd at nifer datblygiadau a gymeradwywyd a'r nifer mwy diweddar a gwblhawyd mewn safleoedd mwy o bump a mwy o unedau yn 2015/16. Cymeradwywyd 150 uned fforddiadwy allan o 465 uned (32%).
Dywedodd Aelod fod Deddf Cynllunio 2015 yn rhoi pwyslais newydd i greu Cynlluniau Lle sy'n gydnaws â'r Cynllun Datblygu Lleol ac yn cynnwys cynghorau tref a chymuned, a holodd os byddai'r cynlluniau'n cael llawer o effaith gan fod preswylwyr eisiau diogelu eu bro. Ymatebodd y Swyddog na ddylai hyn achosi effaith oherwydd bod yn rhaid i'r cynllun adlewyrchu'r Cynllun Datblygu Lleol. Ychwanegodd Prif Swyddog Menter y byddai'n rhaid i sbardunau polisi roi ystyriaeth i ffactorau eraill er enghraifft ffordd liniaru arfaethedig yr M4 a'r cynnydd a ragwelir yn y boblogaeth h?n ynghyd â gostyngiad yn y boblogaeth iau fydd â goblygiadau difrifol i'r farchnad tai. Atgoffodd y Swyddog yr Aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor fod â 5 mlynedd o gyflenwad tir tai. Gall y cyflenwad tir presennol o 4.1 mlynedd arwain at i ddatblygwyr awgrymu safleoedd y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd fod awdurdodau cyfagos mewn sefyllfa debyg; mae gan Gasnewydd, fodd bynnag, dros 6.3 mlynedd o gyflenwad tir tai yn bennaf oherwydd strategaeth twf lwyddiannus.
Holodd Aelod am effaith bosibl peidio symud ymlaen gyda safle Fairfield Mabey a'r hyn y gall yr awdurdod ei wneud i gefnogi newidiadau i effeithio ar ein gallu ein hunain i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Ymatebodd y Swyddog drwy ddweud fod hyder y byddai safle Fairfield Mabey yn symud ymlaen i'r Pwyllgor Cynllunio eleni a bod swyddogion yn gweithio gyda'r ymgeiswyr yn unol â hynny. Nodwyd y bu 18 mis o oedi pan ystyriodd Lywodraeth Cymru bryderon yn ymwneud ag ansawdd aer a chapasiti traffig; mae'r pwyntiau hyn bellach wedi'u penderfynu. Ychwanegwyd fod elfen o gyfaddawd polisi i'w ystyried wrth ddyrannu safleoedd tir llwyd dymunol a chynaliadwy yn y Cynllun Datblygu Lleol megis y safle yma, sy'n agos at orsaf reilffordd a chanol y dref, wedi'i gydbwyso yn erbyn costau cysylltiedig swyddogol.
Yn nhermau tai fforddiadwy, dywedodd y Swyddog y gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn awr adeiladu tai fforddiadwy ar eu safleoedd eu hun a safleoedd eraill (e.e. rhoddwyd caniatâd i Melin adeiladu 58 uned ar safle Coed Glas fydd a chyfuniad o farchnadoedd gyda chyfran o dai fforddiadwy) ac a all gynnal prosiectau arloesol.
Esboniodd Swyddog y bydd angen ystyried datrysiadau arloesol i gynyddu argaeledd tai fforddiadwy i gynnal sir ac economi llewyrchus. Cynigir edrych yn wahanol ar safleoedd y mae'r cyngor yn berchen arnynt i ddarparu e.e. cyfran uwch o dai fforddiadwy, daliadaeth hyblyg neu dai cydweithredol. Nodwyd y bydd gwaith Dyfodol Sir Fynwy yn ystyried cynllunio sefyllfa ac awgrymu dulliau polisi i greu amodau ar gyfer cyfleoedd swyddi, busnes, menter a chyfleoedd tai i greu cymunedau lle mae pobl yn dewis byw neu y gallant aros ynddynt.
Holodd aelodau os gellir gwneud unrhyw beth i gefnogi tai cymdeithasol fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc gan ddweud fod pobl ifanc eisoes wedi gadael yr ardal o blaid ardaloedd llai drud. Soniodd aelodau hefyd am yr angen i ddenu mwy o gyfleoedd swyddi i'r sir. Awgrymwyd mai cymdeithasau tai sydd yn y sefyllfa orau oherwydd arbedion maint ond na all cymdeithasau tai fforddio adeiladu mewn rhai ardaloedd. Dywedwyd hefyd nad yw rhai safleoedd mwy yn creu tai cost isel. Dywedodd y Swyddog y bydd cyfle i drafod y materion yn yr adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ac y bydd yn bosibl ystyried opsiynau gwahanol a mwy blaengar megis aneddiadau newydd neu ehangu ardaloedd mwy gwledig mewn modd sensitif. Ychwanegodd y Swyddog fod Cyngor Sir Fynwy yn unigryw yng Nghymru yn ei safleoedd 60/40 lle mae 60% o dai fforddiadwy a 40% o dai marchnad. Caiff argaeledd a chynnydd tir cyflogaeth ei ystyried yn yr adroddiad monitro blynyddol nesaf.
Dywedodd y Cadeirydd y caiff yr adroddiad blynyddol ei graffu yng nghyfarfod mis Medi ac y gallai fod yn addas cynnal seminar i aelodau.
Cytunodd Prif Swyddog Menter fod angen seilwaith addas ac y bydd y Ddêl Dinas yn gyfle i drafod y ffordd orau i ddiogelu a chadw'r sir gyda'r angen am dwf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cododd Aelod fater y Cynllun Datblygu Gwledig a holodd am ba mor hir y sicrheir cyllid o gofio am Brexit ac os bydd yn bosibl cael cyllid yn lle hynny gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Eglurodd y Swyddog fod y rhaglen bresennol yn rhedeg hyd 2017, ac ar sail M+2 bydd cyllid yn parhau hyd 2019/20 ac y bydd unrhyw beth a gymeradwywyd yn parhau. Dywedodd y Swyddog fod Llywodraeth Cymru yn gwthio am gadarnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y ceir cyllid yn lle'r hyn a gollir.
Cytunwyd cynnal seminar i aelodau ar ganlyniadau yn dilyn Brexit.
Gofynnodd y Cadeirydd os yw'r mannau lle darperir AB Internet wedi eu gadael allan o ymateb band eang BT Superfast ac yn ail, pa ganran o adeiladau sydd â mynediad. Dywedodd y Swyddog nad oedd yr ardaloedd hyn wedi eu hatal ond gall fod oedi os yw mewn ardal 'anodd ei chyrraedd' lle mae ffibr i adeilad yn hytrach na ffibr i gabinet. Dywedodd y Swyddog na dderbyniwyd unrhyw ddata gan BT ers mis Rhagfyr 2015 gan ychwanegu fod contract marchnata BT wedi dod i ben ym mis Mehefin. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gyfrifol am farchnata er mwyn annog defnydd. Ychwanegodd y Swyddog bod yr ymestyn ymhell o gael ei gwblhau o gymharu gydag ardaloedd eraill a sefydlwyd cysylltiadau uniongyrchol i sicrhau darpariaeth reolaidd o wybodaeth gyfoes. Cytunwyd gofyn i Lywodraeth Cymru fynychu'r Pwyllgor hwn a dywedodd ei bod yn bwysig cwblhau band eang cyflym iawn i annog diwydiannau technegol, preswylwyr a gweithwyr i symud i'r sir neu aros yma. Gan gyfeirio at yr ystadegau, cadarnhaodd y Cadeirydd yr ymgyrch i gynnal y nifer cynyddol o bobl sy'n byw a gweithio yn Sir Fynwy.
Gofynnodd y Cadeirydd os yw'r dangosyddion mesurau targed yn addas i fonitro'r Cynllun Gwella Gwasanaeth i ddynodi'n ddigonol y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y rhai mewn cymunedau anghysbell. Cytunodd y Swyddog mai dim ond rhan o'r sefyllfa y mae'r dangosyddion perfformiad yn eu dangos a hysbysodd Aelodau y comisiynwyd asesiad cynhwysfawr o anghenion gwasanaethau gwledig. Bydd yr asesiad yn cynnwys newidiadau demograffig a blaenestyniadau, a gaiff eu cyfuno gyda gwybodaeth a gesglir ar boblogaeth a llesiant i fod yn sylfaen well i dargedau mwy perthnasol.
Holodd Aelod pam y bu dirywiad mewn perfformiad mewn ailgylchu gwastraff ac ailddefnyddio. Esboniodd y Swyddog y cyflwynwyd rhai newidiadau i'r system bagiau ond nad oedd hyn yn gonsyrn neilltuol a bod Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf yn monitro perfformiad. Gofynnodd yr Aelod os gellid priodoli’r dirywiad i dri cherbyd yn dilyn ei gilydd o amgylch stadau a newidiadau llwybr. Esboniodd Pennaeth Gweithrediadau y bu gostyngiad mewn perfformiad yn benodol oherwydd mater yn gysylltiedig â gwaredu gwydr, a hefyd gynnydd mewn gwastraff gweddilliol oherwydd nad ydym yn ailgylchu lludw gwaelod. Cytunodd Pennaeth Gweithrediadau i drafod y materion penodol o'u wardiau gyda'r Aelodau perthnasol.
Holodd Aelod os yw gwaith yn mynd rhagddo a gyda phwy parthed y Cynllun Lle ar gyfer Ardal Gwy Isaf gan na wyddai am unrhyw gyswllt drwy wahanol fforymau. Cytunodd y Prif Swyddog Menter i gysylltu â'r Aelod ar wahân i roi diweddariad ac esbonio'r trefniadau ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol. Croesawodd yr Aelod gyfraniadau gan y gymuned leol a busnesau.
Gofynnodd Aelod os byddai Cynllun Lle Cyfan yn Nhrefynwy. Dywedodd y Swyddog y cynhaliwyd cyfarfod cadarnhaol i ystyried pa wybodaeth a data sydd ar gael ar hyn o bryd e.e. mae Cyngor Tref Trefynwy wedi dechrau gwaith. Holwyd os byddai Aelodau yn cymryd rhan. Cytunodd y Prif Swyddog, Menter i ofyn am ddiweddariad ar gyfer pob Aelod ar y gwaith a gwblhawyd ym mhob ardal a'r camau nesaf.
Dywedodd Aelod fod Cyngor Tref y Fenni wedi sefydlu Cynllun Lle yn defnyddio gwirfoddolwyr gyda grwpiau o gynghorwyr. Dywedodd mai ef yw Cadeirydd Prosiect Amaeth Trefol y Fenni a'r cylch. Gellir ychwanegu'r gwaith hwn i'r Cynllun Lle.
Crynodeb y Cadeirydd:
Dywedodd y Cadeirydd y cafodd tai fforddiadwy, cynllunio lle cyfan, ailgylchu a band eang cyflym iawn eu trafod yn y cyfarfod. Cytunwyd ar y camau gweithredu dilynol:
Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu presenoldeb. |
Dogfennau ategol: