Agenda item

Cynigion ar gyfer darparu meysydd parcio cyhoeddus gan Gyngor Sir Fynwy yn y dyfodol

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Ceisiocymeradwyaeth i hysbysebu a gweithredu gorchymyn maes parcio newydd a gweithredu newidiadau eraill i ddarpariaeth meysydd parc cyhoeddus gan Gyngor Sir Fynwy.

 

Awdur: Roger Hoggins, Pennaeth Gweithrediadau, Amanda Perrin, Rheolwr Meysydd Parcio

 

Manylion Cyswllt: rogerhoggins@monmouthshire.gov.uk

Penderfyniad:

Bod aelodau'n nodi cynnwys y gorchymyn drafft ar feysydd parcio a'r datganiad o resymau - atodiadau 1a, 1b, 1c, ac yn dilyn yr ymarfer ymgynghori ac adborth o Bwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad, yn addasu'r gorchymyn fel a ganlyn:

 

 

·         Ni fydd unrhyw dâl yn cael ei gyflwyno ar gyfer deiliaid bathodyn glas ond mae pob rheoliad arall yn berthnasol (arhosiad byr, parcio y tu allan i'r bae ayyb)

·         Bod y trefniadau codi tâl cyfredol ar gyfer maes parcio Lôn Byefield, y Fenni, yn parhau (h.y. ni fydd tâl dyddiol yn cael ei gyflwyno ond mae tâl dydd Mawrth yn parhau).

·         Bod y trefniadau rheolaeth a chodi tâl cyfredol ar gyfer Maes Parcio Welsh Street, Cas-gwent yn parhau (h.y. bod Welsh Street ddim yn dod yn faes parcio arhosiad byr ac yn parhau fel maes parcio arhosiad hir).

·         Bod y cynnig o 'barcio am awr am ddim' ym meysydd parcio arhosiad byr Cas-gwent ac ar ôl 4.00 yn y Fenni yn cael ei dynnu yn ôl tan fod goblygiadau ariannol y gorchymyn meysydd parcio newydd (gan gynnwys yr addasiadau a restrir uchod a'r gofynion ar fuddsoddiad cyfalaf) yn gallu cael eu hail-asesu er mwyn pennu a yw'r cynnig o awr am ddim yn fforddiadwy.

·         Bod y mannau parcio am ddim am 30 munud a oedd i gael eu cyflwyno ym maes parcio Stryd Glyndwr, Trefynwy yn cael eu tynnu yn ôl, eto er mwyn disgwyl am asesiad ariannol.

 

Yn dilyn addasiad, y dylid hysbysebu gorchymyn a'i roi ar waith yn dilyn y cyfnod hysbysebu statudol (gan gymryd bod dim heriau cyfreithiol).

 

Bod y cyflwyniad o fannau gwefru cerbydau trydan yn mynd yn ei blaen (yn amodol ar ddadansoddiad incwm ac o ba mor fforddiadwy ydyw yn y dyfodol) mewn un maes parcio yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy a bod refeniw meysydd parcio yn cael ei defnyddio i greu unrhyw fuddsoddiad cyfalaf sy'n angenrheidiol (os ydyw'n fwy na'r cyllidebau cyfalaf a argymhellir isod)

 

Bod aelodau'n cydnabod derbyn deiseb o'r enw 'Deiseb i atal Cyngor Sir Fynwy rhag cyflwyno ffioedd parcio dyddiol ym maes parcio Byefield' - Atodiad 6.

 

Bod cyllidebau cyfalaf o (i) £250,000 ar gyfer peiriannau tocynnau newydd yn y meysydd parcio, (ii) £300,000 ar gyfer gwelliannau/ailwampiad i feysydd parcio cyfredol, mannau cerbydau trydan ac arwyddion yn cael eu creu a bod y rhain yn cael eu hariannu gan 'fuddsoddiad i arbed' gan ddefnyddio refeniw a gynhyrchwyd trwy'r gorchymyn meysydd parcio a'r drefn rheoli newydd (yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor o gyllideb ddiwygiedig 2016/17).

 

Bod dichonoldeb cael pris gostyngedig yn y maes parcio ar gyfer defnyddwyr y trên sy'n parcio ym Maes Parcio'r Orsaf yng Nghas-gwent yn cael ei asesu a'i gyflwyno.

 

Bod yr ased, cynnal a chadw a rheolaeth o feysydd parcio Brynbuga yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Brynbuga (yn amodol ar drefniadau 'adfachu' pe fydd angen defnyddio'r meysydd parcio neu unrhyw ran ohonynt at ddiben gwahanol).

 

Bod y Cabinet yn cydnabod yr angen ac yn cadarnhau bod ymchwiliadau'r parhau i ddarpariaeth cyfleusterau parcio ar gyfer lorïau a bysys yn ac o amgylch ein trefi.

Dogfennau ategol: