Agenda item

Strategaeth Comisiynu : 'Ble Rwy'n Ddiogel ? ' ~ Strategaeth ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Ystyried a chymeradwyo’r Strategaeth ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’u Teuluoedd.

 

          Materion Allweddol:

 

Mae’r Strategaeth ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd yn amlinellu’r bwriadau strategol parthed Plant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd sydd angen gofal a chefnogaeth gan Gyngor Sir Fynwy.

 

Yn benodol, mae’n ceisio cefnogaeth Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc er mwyn:

 

1. Cymeradwyo’r Strategaeth ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd sy’n amcanu cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel  drwy rwystro angen rhag cynyddu, ymateb yn briodol i bryderon ynghylch anfantais a diogelu, a chynnal ffocws ar glustnodi’r lleoliadau mwyaf priodol;

 

2. Datblygu a chyllido gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar i leihau’r angen rhag cynyddu, a chefnogi plant a phobl ifanc allan o wasanaethau statudol;

 

3. Adolygu’r ystod o wasanaethau cymorth i deuluoedd y mae Sir Fynwy’n eu darparu ar bob haen o ymyrraeth i sicrhau, lle bo’n bosibl, fod plant yn aros yn eu teuluoedd a lle maent mewn gofal y gallant gael eu haduno’n effeithiol;

 

4. Cryfhau’n hagwedd at arfer a sicrwydd ansawdd drwy ddysgu a gweithredu newid o’r casgliadau o ymarferion sicrwydd ansawdd;

 

5. Cryfhau’n casgliad, dilysu a chyflwyno gwybodaeth a chudd-wybodaeth, sy’n rhoi cipolwg ar ba mor effeithiol y mae’r system yn gyffredinol wrth amddiffyn a chefnogi plant agored i niwed, ynghyd â helpu i newid a gwella arfer;

 

6. Cryfhau’r gweithdrefnau ar gyfer mynediad i ofal;

 

7. Gwella’r cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael sefydlogrwydd y tu allan i’r system ofal drwy eu galluogi i gael eu haduno gyda’u teulu gwaed neu’u teulu estynedig lle mae’n ddiogel i wneud hynny, neu drwy sicrhau gorchymyn mabwysiadu neu orchymyn gwarchodaeth arbennig i fyw gyda theulu sefydlog;

 

8. Ehangu caffaeledd lleoliadau i gwrdd ag ystod eang o blant, yn arbennig leoliadau ar gyfer yr arddegau, rhieni a babanod, grwpiau sibling a phlant ag anghenion ychwanegol/heriol;

 

9. Gwerthuso’r prosiect y Gymdeithas Brydeinig dros Gyflogaeth gyda Chefnogaeth gyda’r nod o sefydlu a fu’r model yn effeithiol, ac a ellir ei ehangu i’r holl rieni maeth, mabwysiadwyr, a gwarcheidwaid arbennig;

 

10. Sicrhau bod lleoliadau gyda chytundebau rhieni’n cael eu diweddaru, yn unol â gofynion rheoleiddiol a bod cynlluniau’n cael eu monitro, a lle bo’n bosibl, bod trefniadau’n cael eu gwneud i ryddhau Gorchmynion Gofal a chefnogi teuluoedd i gwrdd ag anghenion plant heb yr angen iddynt aros yn blant yr edrychir ar eu holau.

 

Craffu Aelodau:

 

Gofynnodd Aelodau am y cynllun peilot o 20 teulu maeth yn gweithio gyda ffisiolegydd clinigol a chymeradwyo’r gefnogaeth i deuluoedd maeth a fu’n ddiffygiol yn y gorffennol. Gofynnwyd a fyddai hyn yn cael effaith gadarnhaol. Mae Swyddogion yn gobeithio y bydd yn cael effaith o’r fath ac maent yn edrych ymlaen at weld y peilot yn cychwyn yn fuan.   

 

Parthed y data hanesyddol ynghylch Plant yr Edrychir ar eu Holau, mae’r data’n dangos cynnydd diweddar o 34% yn Sir Fynwy gydag ymyrraeth gynnar o’r pwys mwyaf ym mhob achos.

 

Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch y nifer rhagamcanol o Blant yr Edrychir ar eu Holau eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant nad oedd hi o angenrheidrwydd eisiau gweld nifer y Plant yr Edrychir ar eu Holau yn gostwng, byddai’n rhaid i’r pwyslais fod ar y plant iawn yn cael eu hedrych ar eu holau pan fyddant ei angen am y cyfnod amser iawn a lle bo’n bosibl, yn byw gyda’u teuluoedd.

 

Gwnaeth Aelod sylw fel bydd plant yn mynd yn h?n, daw’n fwy anodd eu hintegreiddio.

 

 

Gofynnwyd faint mae’r Adran yn ei gostio a sut mae’n cymharu ag awdurdodau eraill. Dywedwyd wrthym, 2-3 blynedd yn ôl, pan gynghorodd swyddogion yr alldro ar gyfer Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc fe’n cynghorwyd ein bod yn cychwyn casglu pwyntiau uned a data cymharol. Mae’r cyfoeth hwn o ddata yn caniatáu i ni gymharu’n hunain yn erbyn 21 o awdurdodau eraill. Rydym hefyd yn cymharu cymhareb CP?/ â chymhareb Plant yr Edrychir ar eu Holau.

 

Parthed  lleoliadau preswyl awgrymodd Aelod Pwyllgor ddefnyddio Mountain House.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet natur materion difrifol ac anghenion cymhleth  rhai o’r plant a phwysleisiodd bwysigrwydd dod o hyd i’r datrysiad gorau ar gyfer y plant hyn.

 

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr, clir a oedd wedi codi rhai pwyntiau pwysig.

 

Mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r strategaeth ac mae’n cefnogi pob agwedd o’r siwrnai wella fel endid. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod gan Gyngor Sir Fynwy orgynrychiolaeth o blant sydd dan orchmynion gofal ac yn gobeithio y bydd y strategaeth hon, pan werthusir hi eleni, yn profi’n effeithiol.

 

Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at adolygu’r strategaeth ymhen blwyddyn.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: