Cofnodion:
Cyd-destun:
Darparu Aelodau Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc gyda gwerthusiad o’r
materion cyfredol a’r heriau allweddol o fewn Gwasanaethau Plant. Diweddaru’r aelodau o gynnig am raglen y rhoi pwyslais ar welliant mewn gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r heriau hyn. Mae’r adroddiad i aelodau ei dderbyn a chraffu’r wybodaeth ynghylch yr heriau allweddol o fewn y gwasanaeth a’r rhaglen arfaethedig yn rhoi pwyslais ar welliant mewn gwasanaeth.
Materion Allweddol:
Nod sylfaenol y Gwasanaeth Plant yw gweithio gydag eraill i sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir Fynwy’n cyrraedd eu llawn botensial ac yn byw’n rhydd o effeithiau niweidiol camdriniaeth ac esgeulustod. Ein nod yw darparu gwasanaethau ymatebol yn cylchdroi o gwmpas y teulu ac yn sicrhau y diogelir yn effeithiol ein plant mwyaf agored i niwed.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Gwasanaethau Plant Sir Fynwy wedi parhau i gyflenwi gwasanaethau mewn cyd-destun oedd yn gynyddol heriol a chymhleth. Roedd y rhaglen waith ar gyfer y gwasanaeth o Ebrill 2015 - Mawrth 2016 yn eang ac roedd yn ofynnol i’r holl wasanaethau dynnu gyda’i gilydd i ddatblygu systemau a phrosesau; gwella arfer ac adeiladu partneriaethau.
Mae llawer eto i’w wneud ac mewn rhai meysydd nid ydym wedi gwneud cymaint o gynnydd ag mewn meysydd eraill. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys:
- Cynnydd parhaus yn ein poblogaeth o Blant yr Edrychir Ar Eu Holau
- Pwysau sylweddol parhaus ar y gyllideb
- Cyflenwi gweithlu hyderus, hyfedr a sefydlog
- Sicrhau bod gan deuluoedd bregus fynediad i’r gwasanaethau cywir ar yr amser cywir, gan gydnabod diffyg mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd – Gweithredu comisiynu deallus gan gynnwys teuluoedd yn gyntaf a chyllid craidd.
- Egluro’n model o wasanaeth a sicrhau bod ein model, ein gweithdrefnau gweithredu a’n llwybrau gofal yn glir, wedi’u gwreiddio mewn arfer ac yn cael eu cyfathrebu’n eang.
- Datblygu gweithio mewn partneriaeth yn barhaus
- Plannu fframwaith ansawdd cyson ar gyfer y gwasanaeth sy’n gyrru hunanasesiad parhaus, dadansoddiad a gwelliant.
Bydd angen dull o weithredu’r rhaglen sy’n cipio rhyngberthnasedd nifer o’r meysydd i’w datblygu. Bydd hyn angen ymrwymiad y gwasanaeth cyfan ynghyd â chefnogaeth reolaidd gan y Cyngor. Bydd capasiti ychwanegol drwy gomisiynu arbenigedd allanol, ynghyd â gweithgarwch cydweithredol parhaus gyda phartneriaid, a mwyhau’r defnydd o gefnogaeth ranbarthol a chenedlaethol, yn fuddiol.
Craffu Aelodau:
Mynegodd Aelodau pa mor fodlon oeddent gyda’r adroddiad a pha mor galonogol y cawsant ef gan y cydnabuwyd ers tro bod angen newid yn y Gwasanaethau Plant.
Argraffodd Aelodau ar y swyddogion pa mor bwysig ydoedd i fod allan yng nghanol y gymuned gyda chefnogaeth yr holl le a chroesawyd y newid diwylliant.
Gofynnwyd paham y dymuna Swyddogion benderfynu gweithio gyda Sefydliad Gofal Cyhoeddus ac eglurwyd i SGC gael ei ddewis o ganlyniad i’w cyfoeth o brofiad a’u dull o weithredu yn seiliedig ar ymchwil, maent hefyd yn darparu Swyddogion ag achosion o arfer gorau ac enghreifftiau o’r modd mae awdurdodau eraill wedi mynd i’r afael â materion.
Dywedodd Aelod, ar ôl darllen yr adroddiad, ei bod yn amlwg bod swyddogion wedi cydnabod materion a’u bod yn ceisio unioni problemau ond codwyd pryder bod y materion hyn wedi cael eu cydnabod o’r blaen a gofynnwyd sut y bydd Swyddogion yn sicrhau y bydd pethau’n newid y tro hwn. Atebwyd bod Swyddogion hefyd yn teimlo’n rhwystredig o’r blaen ond nawr roedd y gwasanaeth wedi’i deilwra nôl i’r llym ac wedi mabwysiadu dull fforensig o weithredu. Gofynnwyd i staff am eu barn, gofynnwyd am gymorth allanol ac arweiniodd hyn at lunio strategaeth newydd sbon.
Gofynnwyd, ar ôl gweld y Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd drwy newid diwylliannol, beth oedd safbwynt y staff, a dywedwyd wrthym fod y staff wedi bod yn anhapus, ond eu bod bellach yn cael gwrandawiad ac arweiniodd hyn at well gwaith tîm.
Casgliad y Pwyllgor:
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am ddod â’r adroddiad i’r Pwyllgor gan werthfawrogi fod hon yn gychwyn siwrnai faith.
Gwerthfawrogwyd y byddai problemau cychwynnol gyda staff a chyllidebau, yn debyg i’r Gwasanaethau Oedolion, ond roedd yn symudiad cadarnhaol yn y cyfeiriad iawn.
Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at dderbyn yr adolygiad mewn 12 mis.
|
Dogfennau ategol: