Agenda item

DC/2015/01136 - PODIAU GLAMPIO ARFAETHEDIG GYDA BLOC CYFLEUSTODAU A GWASANAETHAU. FAIROAK, STRYD RUMBLE, MONKSWOOD, NP15 1QG.

Cofnodion:

Mynychodd Mr. P. Fletcher, yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr i’r cais, y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y tri amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Lanbadog, yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae heolydd traffig sengl i’r safle yn ei wneud yn anaddas i’r datblygiad arfaethedig.

 

·         Cerbydau gwersylla ac ôl-gerbydau aml. Ni ellir rheoli’r mathau a’r meintiau hyn o gerbydau yn cyrraedd y safle arfaethedig. 

 

·         Nid oes unrhyw amwynder o fewn pellter cerdded hwylus i’r safle.

 

·         Petai’r busnes yn dirwyn i ben, mynegwyd pryder ynghylch y defnydd o’r bloc gwasanaethau newydd, gan fod hwnnw’n annedd sylweddol parhaol. 

 

·         Mae D?r Cymru’n cadw briff gwylio’n gysylltiedig â’r tanc carthion.  

 

·         Mae symud y podiau ddwywaith y flwyddyn yn chwerthinllyd ond wrth wneud hynny, bydd y cais yn cydymffurfio â’r polisi. Nid oedd yr Aelod lleol yn hollol si?r ai hon oedd y ffordd gywir o weithredu materion cynllunio

 

·         Sut caiff symudiadau o’r fath eu monitro?

 

·         Mae potensial i ehangu’r safle.

 

·         Mae Stryd Rumble yn llwybr tarw i Goytre. Cydnabyddir mai lôn gul yw Stryd Rumble gyda llefydd pasio cyfyngedig ac mae arni arwydd yn nodi nad yw’n addas i gerbydau trwm.

 

·         Rhoddodd y Rheolwr Traffig a Rheoli Datblygu ystyriaeth i gynnydd posib ym maint y traffig ac mae o’r farn nad oes bellach sail i gynnal gwrthwynebiad ar sail diogelwch y briffordd. Fodd bynnag, ni fydd yr adran draffig yn darparu cludiant ysgol i blant Sir Fynwy ar hyd y lôn hon. Ystyrir y lôn yn anaddas ar gyfer gyrru bws ysgol ar hyd y ffordd hon. Mae plant ysgol yn cerdded ar hyd y lôn hon bob dydd.

 

·         Os caiff y cais ei gymeradwyo, fe fydd yn peryglu plant a phreswylwyr lleol ymhellach.

 

 

·         Mae preswylwyr Stryd Rumble yn gwrthwynebu’r cais ar sail diogelwch y ffordd, colli amwynder, ac maent yn credu nad yw’r cais yn cydymffurfio â pholisïau T2 ac EP1.

·         Mae Stryd Rumble yn gymhleth. Mae iddi nodweddion unigryw ac ni ellir eu gwerthfawrogi ond gan bobl sydd wedi byw yno ân gyfnod.

 

·         Bydd troi’r lôn yn lôn fasnachol yn ei newid yn andwyol i’r rhan fwyaf o’r deiliaid, er budd ariannol un person.

 

·         Mae’r lôn eisoes dan straen dan y galwadau presennol a osodir arni o ganlyniad i draffig drwy’r amser, draeniad a chyfanrwydd strwythurol. Mae’r lôn yn ddigon llydan i un car ac mae ymylon serth mewn mannau.

 

·         Mae plant ysgol, beicwyr, cerddwyr c?n, marchogion a phobl oedrannus yn cerdded ar yr heol. Mae cerbydau mawr amaethyddol yn cludo gwartheg hefyd yn defnyddio’r lôn.

 

·         Mae’r cyfyngiad cyflymder o 60 milltir yr awr yn annog y bobl nad ydynt yn lleol i yrru’n llawer cyflymach na’r hyn gaiff ei ystyried yn ddiogel.

 

·         Bydd y cynnydd yn niferoedd y cerbydau yn mwyhau’r cynnydd mewn risg.

 

·         Nid oes amwynderau na gweithgareddau wedi’u trefnu o fewn pellter cerdded hwylus i’r safle. Felly, mae siwrneiau rheolaidd yn y car yn hanfodol.

 

·         Bydd s?n yn amharu yn groes i’r wybodaeth a gynhwysir o fewn yr adroddiad ar y cais..

 

·         Bydd y bloc Gwasanaethau yn nodwedd sefydlog.

 

·         Bydd risg i iechyd a diogelwch a phosibilrwydd tanau agored.

 

·         Mae’r mynediad yn wael i gerbydau gwasanaeth brys.

 

Amlinellodd asiant yr ymgeisydd, yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd,  y pwyntiau canlynol:

 

·         Bydd monitro’r safle, gan mai yn ystod misoedd penodedig y caiff ei ddefnyddio, yn hawdd i’w gyflawni.

 

·         Nid oes gan y Rheolwr Traffig a Datblygiad unrhyw wrthwynebiadau i’r cais.

 

·         Mae Polisi RE6 yn caniatáu darparu bloc gwasanaeth.

 

·         Atebwyd yr ystyriaethau perthnasol gan swyddog achos y cais.

 

·         Mae Polisïau Cenedlaethol, na chawsant eu crybwyll yn yr adroddiad ar y cais, h.y. Polisi Cynllunio Cymru, yn darparu cefnogaeth i’r cais ar y safle hwn.

 

Wedi ystyried yr adroddiad ar y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, ystyriodd yr Aelodau fod y cynllun arfaethedig, ar gyfartaledd, yn gynllun da a oedd yn hyrwyddo twristiaeth o fewn y Sir.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R.J. Higginson bod cais DC/2015/01136 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y tri amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

:

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais – 12

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/01136 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y tri amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: