Agenda item

Asesiad Cydnerth Ariannol.

Cofnodion:

Derbyniasom asesiad cydnerth ariannol Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar gyfer Cyngor Sir Fynwy. Hysbyswyd ni fod darn o waith wedi’i gyflawni gan Swyddfa Archwilio Cymru ar draws pob Cyngor yng Nghymru. Roedd y ffocws ar ateb y cwestiwn a oedd Cyngor Sir Fynwy yn rheoli gostyngiadau ariannol yn effeithiol i sicrhau gwytnwch ariannol?

 

Wrth gyflawni’r darn hwn o waith, edrychodd SAC ar gynllunio ariannol, rheolaeth ariannol a llywodraethu ariannol i asesu a oedd yr awdurdod yn cefnogi gwytnwch ariannol yn effeithiol. 

 

Ar gyfer pob Cyngor, graddiodd y SAC bob un o’r tri maes hwn yn ôl risg naill ai’n isel, yn ganolig neu’n uchel, graddiwyd pob elfen fel a ganlyn:

 

Cynllunio Ariannol                   -           canolig

Rheolaeth Ariannol                 -           canolig

Llywodraethu Ariannol            -           isel

 

Daeth y SAC i’r casgliad fod gan Gyngor Sir Fynwy yn gyffredinol lywodraethu ariannol effeithiol ond nad yw ei gynllunio ariannol na’i drefniadau rheoli wedi’u sodro’n llawn nac yn cyflenwi ‘n effeithiol yn wyneb rhai heriau ariannol sylweddol. Parthed y tair thema cynllunio ariannol, y casgliad oedd bod trefniadau cynllunio ariannol y Cyngor yn parhau i wella, serch hynny, nid oedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn  hollol gytbwys. Nid oedd rhai o fandadau’r gyllideb yn diffinio fel y cyflawnid arbedion ac roedd rhai arbedion yn annhebygol o gyflenwi.

 

Parthed rheolaeth ariannol, mae’r Cyngor wedi sefydlu trefniadau rheolaeth ariannol, ond roedd y Cyngor yn ansicr a fyddai’n aros o fewn ei gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16 o ganlyniad i bwysau mewn Gwasanaethau Cymdeithasol a methu â chyflenwi rhannau o’r cynllun arbedion.

 

Parthed llywodraethu ariannol, yn gyffredinol, mae gan y Cyngor drefniadau llywodraethu ariannol effeithiol yn eu lle.

 

Hysbysodd y Pennaeth Cyllid y Pwyllgor ei bod yn croesawu’r adroddiad a’i bod yn galonogol mai dim ond un argymhelliad oedd yn deillio ohono. Yngl?n â graddio’n ôl risg parthed rheolaeth ariannol cofnodwyd hwnnw ar adeg pan nad oedd yr Awdurdod yn gwybod a ddeuai’r rhagolwg i mewn ar gyllideb. Mae blwyddyn ariannol 2015 nawr wedi cau a gyrrodd yr Awdurdod warged allan o’r trefniant hwnnw'r llynedd. Bydd yr Awdurdod yn cymryd o ddifrif yr argymhelliad a wnaed gan SAC.

 

Wedi derbyn yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch lefel yr arbedion a lefel dealltwriaeth Aelodau pan wnânt benderfyniadau o’r fath, dywedodd cynrychiolydd y SAC y byddai’r SAC yn gobeithio bod gan Aelodau wybodaeth glir fel y byddent yn deall effaith y penderfyniadau roeddent yn eu gwneud. Ystyriwyd nad oedd gan Aelodau’r lefel honno o ddealltwriaeth o'r manyldeb.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch tanwariant a gorwariant, fel yr amlinellwyd ym mharagraff  21 o’r adroddiad, dywedodd cynrychiolydd y SAC mai’r hyn  a adlewyrchwyd yn y paragraff hwnnw oedd gorwariant sylweddol mewn Gwasanaethau Cymdeithasol a thanwariant sylweddol mewn gwasanaethau eraill. Felly, parthed rheolaeth ariannol mae cwestiwn i’r SAC ynghylch lefel y Cyngor o reolaeth ariannol.

 

·         Nodwyd os oedd swydd wedi bod yn wag am beth amser, yna ni fyddai’n afresymol i gynghorau osod y swydd hon ymlaen fel arbediad posib.

 

·         Cydnabuwyd na fu rhai mandadau'n glir ac roedd yr Awdurdod wedi ymdrechu’r llynedd i lunio’i fandadau. Bydd Adolygiad i’r Dyfodol Sir Fynwy yn mynd i’r afael â’r materion hyn.

 

Penderfynasom dderbyn yr adroddiad gan nodi’i gynnwys.

 

Dogfennau ategol: