Agenda item

Rhestr camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Derbyniasom y Rhestr Camau Gweithredu o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26ain Mai 2016.  Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cyflwynir adroddiad cynnydd ar safbwyntiau Archwilio anfoddhaol/ansicr i’r Pwyllgor Archwilio ar gylch chwe mis.

 

·         Roedd y Cadeirydd wedi cyfeirio Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio i’r Cyngor Llawn ar 16eg Mehefin 2016.

 

·         Roedd y Cadeirydd wedi anfon llythyr o ymateb parthed y mater a godwyd gan aelod o’r cyhoedd ynghylch Ysgol Cas-gwent.  Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Sir Easson wedi e-bostio’r Cadeirydd ynghylch y mater hwn. Gan na fyddai’r Pwyllgor yn cyfarfod eto tan fis Medi 2016, roedd y Cadeirydd wedi cytuno i gyflwyno cynnig y Cynghorydd Sir Easson fel a ganlyn, gan obeithio y byddai’r pwyllgor yn pleidleisio a oeddent yn mynd i drafod y mater hwn ymhellach.

 

Cynnig y Cynghorydd Sir Easson:

 

"Rwy’n cynnig, yng ngoleuni fy mhryder a godwyd isod, fod y Pwyllgor Archwilio’n gwahodd y swyddogion oedd yn gyfrifol i ddarparu ymateb i’r ymholiadau hyn mewn cyfarfod o’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol.” 

 

Yn gyntaf, fe gwestiynais yr ieithwedd a ddefnyddiwyd i ddangos y gostyngiad o "6 o swyddi Cyfwerth Llawn Amser" yn Ysgol Cas-gwent. Nid yw’n dangos cyfanswm niferoedd CLlA yn yr ysgol a fydd yn dangos yr union ostyngiad mewn swyddi a’r % yn ôl oedran. Rwy’n gwneud cais bod yr ystadegyn hwn yn cael ei ddarparu. 

 

Yn ail, parthed cyflogi asiantaeth Adnoddau Dynol allanol yn Ysgol Cas-gwent, a oedd y broses gaffael yn agored ac yn dryloyw? A oedd cyfleoedd i ymgeiswyr eraill geisio drwy gyfrwng proses dendro? Paham nad oedd adran Adnoddau Dynol yr Awdurdod Lleol yn gallu hawlio gwaith o’r fath? 

 

Rwy’n deall bod yr un asiantaeth wedi’i chyflogi i gyflawni’r swyddogaeth AD yn Ysgol Trefynwy. Os yw fy nealltwriaeth yn gywir, a gyflogwyd asiantaeth o’r fath hefyd dan broses gaffael agored? A oes gan yr asiantaeth hon unrhyw gysylltiad ag ysgolion â statws Academi, er enghraifft, "E S Management Services". A ellid ymchwilio i’r wybodaeth hon?

 

Yn drydydd, a oes gan Swyddfa Archwilio Cymru safbwynt ar ddefnyddio cyllid ysgol i ganiatáu’r defnydd o fenthyciadau di-log fel "golden hellos" wrth gyflogi staff addysgu, neu unrhyw staff arall? A fyddai’r un meini prawf yn gymwys, er enghraifft, wrth gyflogi staff ategol? Yn yr achos dan sylw, rwy’n deall i’r benthyciad gael ei ad-dalu’n llawn, fodd bynnag, pa fesurau cyfreithiol sydd, neu a oedd, pe na bai benthyciadau o’r fath yn cael eu had-dalu?  

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Sir Batrouni.

 

 

Hysbysodd y Cynghorydd Sir Murphy y Pwyllgor ei fod ef a’r Cynghorydd Sir Hacket-Pain, fel Aelod Cabinet, wedi galw mewn y Rheolwr Busnes, Cadeirydd y Llywodraethwyr, y Rheolwr Busnes Dros Dro a rhai cynrychiolwyr eraill o Ysgol Cas-gwent ac y byddent yn cyfarfod â hwy yn fuan â’r bwriad o dderbyn gwybodaeth bellach parthed nifer o faterion yn ymwneud â’r ysgol ac fel y bydd cyllideb yr ysgol yn debygol o gael ei dwyn dan reolaeth. Dywedodd y Cynghorydd Sir  Murphy y byddai’n barod i osod y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Sirs Easson i gynrychiolwyr Ysgol Cas-gwent yn y cyfarfod hwn ac adrodd nôl i’r Cynghorydd Sir Easson.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor ddangos eu cefnogaeth i’r cynnig. Wrth wneud hynny, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig:                     2

Ynn erbyn y cynnig:                7

Atal pleidlais:                           2

 

Gwrthodwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod y Cynghorydd Sir Murphy yn cyflwyno’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Sir Easson i gynrychiolwyr Ysgol Cas-gwent gyda’r bwriad o dderbyn atebion i’r cwestiynau hyn.

 

·         Datganiad Llywodraethu Blynyddol - Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol fod crynodeb wedi’i ymgorffori i mewn i fersiwn derfynol yr adroddiad. Fodd bynnag, nid oedd hwn wedi’i gynnwys hyd yn hyn yn y rhestr gyfrifon drafft. Hysbysodd y Pwyllgor y bydd yn anfon crynodeb ar wahân i Aelodau’r Pwyllgor yn y diwrnodau i ddilyn. 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: