· To discuss and agree the governance arrangements for the PSB Select Committee.
· To agree the Terms of Reference for the PSB Select committee.
Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyniasom adroddiad yn manylu ar drefniadau llywodraethu Pwyllgor Dethol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) i ddarparu aelodau â’r cyfle i drafod a chytuno’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Pwyllgor Dethol BGC Sir Fynwy, gan gynnwys drafftio’r cylch gorchwyl priodol.
Materion Allweddol:
Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardal drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) statudol. Rhoddwyd i lywodraeth leol y cyfle i graffu’r BGC a sicrhau bod egwyddorion y ddeddf yn cael eu cymhwyso i bolisi a gwneud-penderfyniadau yn Sir Fynwy.
Darparodd y papur cefndir ynghlwm wrth yr adroddiad eglurhad manwl o ofynion y ddeddf mewn perthynas â chraffu’r BGC a’r cyfrifoldebau craffu ehangach. Ceisiodd yr adroddiad gytundeb y Cyngor ar 21ain
Ionawr 2016 i sefydlu trefniant craffu i sgrwtineiddio gweithgareddau’r BGC. Cynigiodd fod y pedwar pwyllgor dethol presennol yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i genedlaethau’r dyfodol drwy’u craffu ar bolisi a gwneud-penderfyniadau. Derbyniwyd argymhellion yr adroddiad ac mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Dethol BGC i graffu gweithgareddau’r BGC.
Darparodd yr adroddiad fframwaith ar gyfer trefniadau gweithio yn y dyfodol ac ymddygiad cyffredinol Pwyllgor Dethol y BGC yn unol â’r cynigion a gytunwyd gan y cyngor llawn.
Bydd Pwyllgor Dethol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys 9 Aelod anweithredol. Pedwar Cadeirydd y Pwyllgor Dethol fydd Aelodau sefydlog y pwyllgor newydd gyda gweddill yr aelodaeth etholedig yn cael eu dewis i sicrhau cydbwysedd gwleidyddol.
Adroddir rhaglen waith Pwyllgor Dethol y BGC i bob cyfarfod Pwyllgor Dethol i alluogi’r Pwyllgor i adolygu’i chynnwys a chynnwys eitemau newydd a diffinio’r trefniadau sy’n ofynnol ar gyfer y cyfarfod nesaf. Cyflwynir y rhaglen waith wedi’i diweddaru gan Gadeiryddion y Pwyllgor Dethol i’r Bwrdd Cydgysylltu.
Craffu Aelodau:
Yn ystod trafodaeth, yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Swyddogaeth Pwyllgor Dethol y BGC yn y lle cyntaf fyddai craffu’r newid strategol fel mae’r BGC yn esblygu a ffurfio barn parthed a yw’r hyn a gyflwynir yn gwirioneddol gofleidio Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn hytrach nag amrywiad ar drefniadau sydd eisoes yn bodoli er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth.
· Gallai rhai meysydd allweddol i’w hymchwilio’n gynnar gyda’r BGC gynnwys:
o Yr hyn y mae pob partner yn ei gynnig i’r BGC yn nhermau capasiti ac arbenigedd.
o Sut mae gweithredoedd partneriaid unigol yn cwrdd ag egwyddor datblygu cynaliadwy.
o Sut mae’r BGC yn bwriadu gwneud y gorau o effeithlonrwydd yn nhermau cofnodi.
· Bydd Pwyllgor Dethol y BGC yn cynllunio’i flaenraglen waith ar y cyd â phenderfyniadau allweddol y bydd y BGC yn eu cymryd, fodd bynnag, mae gan y Pwyllgor Dethol y grym i alw penderfyniadau i mewn petai achos iddo ddefnyddio’r grym hwnnw. Cynghorodd y Rheolwr Craffu y gobeithid y byddai perthynas waith effeithiol gyda’r BGC a chraffu cyn-gwneud -penderfyniadau allweddol yn lleihau’r angen i ddefnyddio’r grym galw-i-mewn.
· Byddai’r Pwyllgor Dethol yn craffu gweithgareddau’r BGC fel corff cyflawn, fodd bynnag, petai’n ymddangos bod partner i’r BGC yn methu â chyflenwi blaenoriaethau’r bwrdd gellid eu gwahodd i gyfarfod Pwyllgor Dethol.
Cytunwyd:
· Derbyn yr adroddiad ar drefniadau llywodraethu ar gyfer y Pwyllgor Dethol, yn amodol ar y diwygiadau canlynol:
(i) Byddai’r Cadeirydd yn aros yn ei le tan y cyfarfod Pwyllgor Dethol dilynol.
(ii) Fe roddid ystyriaeth i aelodau cyfetholedig ar sail ‘fel a phan fydd yn angenrheidiol’.
· Byddai agendâu Pwyllgor Dethol y BGC yn y dyfodol yn darparu cyswllt i gofnodion ac agendâu’r BGC yn ystod cyfnod cyfarfod pob Pwyllgor Dethol.
· Cytuno amodau cylch gorchwyl drafft ar gyfer y Pwyllgor Dethol yn y cyfarfod nesaf (i’w osod ar agenda pob cyfarfod Pwyllgor Dethol y BGC).
Dogfennau ategol: