Agenda item

Adroddiad Alldro Refeniw a Chyfalaf

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Diben yr adroddiad hwn yw darparu gwybodaeth i Aelodau ar arolygon sefyllfa refeniw alldro'r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod cofnodi 4 sy’n cynrychioli’r sefyllfa alldro ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Caiff yr adroddiad ei ystyried hefyd gan aelodau’r Pwyllgor Dethol fel rhan o’u cyfrifoldeb i:

·         asesu a yw monitro effeithiol o’r gyllideb yn digwydd,

·         fonitro i ba raddau y caiff cyllidebau eu gwario yn unol â’r fframwaith cyllideb a pholisi a gytunwyd,

·         herio rhesymoldeb garariannu neu danariannu rhagamcanol, a

·         monitro a gyflawnwyd yr enillion effeithlonrwydd neu’r cynnydd a ragwelwyd mewn cysylltiad â chynigion o arbedion.

 

Materion Allweddol ac Argymhellion:

 

Bod Aelodau’n ystyried tanwariant refeniw alldro net o £676,000, gwelliant o  £878,000 ar ragolygon alldro chwarter 3.

 

Mae Aelodau yn ystyried gwariant alldro cyfalaf o £18.3m yn erbyn cyllideb ddiwygiedig o £18.8 miliwn, ar ôl llithriad arfaethedig o £43.7 miliwn, yn arwain at danwariant net o £508,000, y mae oddeutu £433,000 ohono ar gael i’w ailgylchu at brosiectau/flaenoriaethau eraill, yr argymhellir ei ddal nes adolygu’r pwysau ychwanegol.

 

Ystyried a chymeradwyo’r llithriad cyfalaf o £43.7miliwn a argymhellir, gan roi sylw i’r cynlluniau hynny a gynhwysir ym mharagraff 3.5.4 lle gwnaed cais am lithriad gan y rheolwr gwasanaeth, ond na chaiff ei argymell i lithro (£170,000), a nodi lefel sylweddol y llithriad sy’n ofynnol ar alldro heb ei amlygu’n gynt yn y flwyddyn, sy’n tanlinellu pryder parthed rhagolygon cyfalaf y rheolwyr i’r dyfodol.

 

Ystyried y defnydd o arian wrth gefn arfaethedig a nodi’r gostyngiad sylweddol ar lefelau'r arian wrth gefn a glustnodwyd ar ddiwedd 2015-16 a’r arwydd tebygol ar ddiwedd 2016-17.

 

Cymeradwyo ailddyrannu mantolenni’r arian wrth gefn, yn unol â pharagraff 3.9.5 yn dilyn yr adolygiad actiwaraidd o’r arian yswiriant wrth gefn ac adolygiad o’r mantolenni arian wrth gefn bychain eraill er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau ar yr arian wrth gefn a’r dosbarthiad o dan wariant cyffredinol wrth ategu lefelau’r arian wrth gefn fel a ganlyn:

£1,037 miliwn i’r gronfa wrth gefn ar gyfer Diswyddiadau a Phensiynau

£419,000 i arian wrth gefn TG               

£350,000 i arian wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio

 

Cymeradwyo’r defnydd o arian wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio yn ystod 2016-17 sy’n gwneud cyfanswm o £30,835 fel cyfraniad ychwanegol Cyngor Sir Fynwy er mwyn galluogi’r gwaith ar fenter y Fargen Ddinesig i barhau.

 

Craffu Aelodau:

 

Diolchodd Aelod i’r Swyddog am yr adroddiad ac ymatebodd i’w chais am wybodaeth yn ebrwydd ac yn effeithiol. Gan fod gan yr Aelod gwestiynau penodol a ddymunai ofyn i’r Swyddog, gofynnodd yr Aelod a allai siarad ag ef yn bersonol ar ddyddiad hwyrach.

 

Codwyd cwestiwn llithriad a theimlai’r Aelodau y dylid defnyddio gwell blaengynllunio yn y dyfodol. Atebodd y Swyddog i ffigyrau gael eu heffeithio’n arwynebol ar hyn o bryd gan agenda ysgolion y dyfodol.

 

Holodd Aelod faint o staff wnaed yn ddi-waith. Atebodd y Swyddog i 102 gael eu gwneud yn ddi-waith yn 2015/16; 99 o ddiswyddiadau gorfodol a 3 phecyn gadael arall.

 

Gofynnodd Aelod a oedd Swyddogion yn ymwybodol o’r angen i greu arbedion drwy Gyngor Sir Fynwy yn gyfan. Atebodd y Swyddog y byddai symud i gynllun arbedion canran, i arbedion mandad, yn gwneud materion yn llai amlwg.

 

Gofynnodd Aelod pa newidiadau a wnaed gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De-ddwyrain Cymru. Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Gweithrediadau fod ffurf y cytundeb, y cyswllt blaenorol wedi cychwyn yn Ebrill 2016. Gofynnir i Asiantaeth Cefnffyrdd De-ddwyrain Cymru gan Lywodraeth Cymru i dorri costau sy’n effeithio CSF.

 

Holwyd paham y bu costau ychwanegol am gyfleuster dau berson yn y Ganolfan Groeso. Dywedodd Swyddog wrth y Pwyllgor, oherwydd ymddygiad annerbyniol gan aelodau’r cyhoedd roedd yn anniogel i un aelod o staff fod ar y safle ar ei ben/phen ei hun.

 

Codwyd cwestiwn ynghylch y mandadau a gwnaed sylw yr ymddangosai rhai o’r ffigyrau yn afreal heb gynllun o gwbl a phwysleisiwyd yr angen i osod targedau realistig o fewn terfynau amser.

 

Codwyd pryderon ynghylch y toiledau a gofynnwyd i Uwch Swyddog adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd prosiect Ysgol Gyfun Trefynwy yn mynd yn ei flaen fel y dylai. Dywedwyd wrthym fod y prisiau tendro a dderbyniwyd yn Ionawr oddeutu £5miliwn yn fwy na’r amlen gyllido y mae’r Cyngor a Llywodraeth Cymru ar y cyd wedi cytuno. Rydym ar hyn o  bryd yn edrych i adolygu’r cynllun. Mae cynllun Cil-y-Coed yn mynd yn ei flaen yn ôl y tendr gwreiddiol, a golygai hyn fod yn rhaid symud peth arian o gynllun Trefynwy i gynllun Ysgol Cil-y-Coed.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y brydles newydd wedi’i harwyddo ar gyfer y farchnad wartheg yn Rhaglan. Atebodd y Pennaeth Gweithrediadau nad oedd y Cyngor wedi cwblhau’r safle’n ymarferol hyd yn hyn, felly mae’r cynnal a’r cadw a’r paratoi, yn rhannol o system dd?r brwnt yn dal i gael eu datblygu. Gofynnwyd faint o arian refeniw, rent a threthi roedd CSF wedi derbyn hyd yma. Atebodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid ein bod wedi derbyn siec chwe ffigwr oddi wrth yr Arwerthwyr, a ddychwelwyd iddynt fel y gallent ei ddefnyddio i ddylanwadu ar y strategaeth o swm y rhent a dalant yn y dyfodol. Gofynnodd y Swyddog a ellid atal trafodaeth ar y pwnc hwn am fod cadarnhau’r rhent yn fater masnachol sensitif. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n anfon llythyr at Gadeirydd Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad i graffu’r prosiect hwn.   

 

Cwestiynodd Aelod sefyllfa CSF gyda Wormtec. Atebodd y Swyddog ei bod yn methu a chadarnhau’r ffigyrau am fod y wybodaeth yn fasnachol sensitif. Roedd CSF yn ddyledwr gwael a dan gyfrifon 2014/15 dilëwyd y ddyled. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi talu am y bwyd gwastraff na chafodd ei drin pan ddaeth Wormtec i ben ac nad oedd costau  i Gyngor Sir Fynwy. Esboniwyd bod atebolrwydd am y tir yn gorwedd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Chyfoeth Naturiol Cymru a chadarnhaodd nad oedd gan Gyngor Sir Fynwy gyfrifoldeb ariannol na chytundebol.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r atebion i’w cwestiynau ar reoli’r gyllideb, fodd bynnag mynegwyd gofidiau ynghylch gwireddu’r arbedion ar doiledau cyhoeddus a chytunwyd y deuid ag adrodd cynnydd ar yr adolygiad o doiledau cyhoeddus i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad parthed y brydles newydd ar gyfer y farchnad wartheg yn Rhaglan i ofyn a allai’r Pwyllgor graffu’r cynnydd a wneir.   

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: