Agenda item

Adolygu Ailgylchu a Chynlluniau Gweithredu

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Er mwyn diweddaru’r Pwyllgor Dethol ar y casgliadau ailgylchu peilot y bwriedid eu cychwyn ym Medi eleni ac er mwyn i Aelodau nodi a gwneud sylw ar y cynigion ar gyfer yr arbrawf ar gyfer yr Adolygiad Ailgylchu fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor a’r Cabinet.

 

          Materion Allweddol:

 

Mae’r adolygiad ailgylchu wedi bod gerbron y Pwyllgor Dethol sawl gwaith. Cytunwyd y byddai adroddiad pellach yn dod gerbron yr Aelodau gyda manylion y cynllun peilot a gymeradwywyd fel bod dealltwriaeth lawn o’r hyn roeddem yn ei gynllunio o flaen adroddiadau pellach yn gynnar yn 2017 gydag argymhelliad terfynol i’r awdurdod. I grynhoi bydd y cynllun peilot:

 Yn symud gwydr o’r bagiau porffor a’u casglu ar wahân

Y bagiau coch a phorffor i aros ar wahân ar gyfer yr arbrawf

Y gwastraff bwyd a gardd i’w gasglu fel ar hyn o bryd, gan gydnabod bod ymrwymid eisoes i’w casglu ar wahân

Gwastraff gweddill – bob pythefnos a 2 fag (gweler isod y cynnig i ailgyflwyno bagiau llwyd)

 

Mae’r ardal beilot wedi’i mapio, yn amodol ar adolygiad manwl o fynediad i gerbydau.

Dangosir y cylchoedd casglu yn atodiad 1. Fel y cofnodwyd yn flaenorol, roedd y cynllun peilot i’w leoli o gwmpas Gorsaf Drosglwyddo Llanffwyst oherwydd bod y safle’n gallu derbyn gwydr ar wahân heb yr angen am unrhyw fuddsoddiad mewn isadeiledd. Mae’r cynllun peilot yn cynnwys oddeutu 5,500 o gartrefi o fewn y Fenni, Gilwern, Llanwenarth, Goytre, Llanelen, Llanofer, Llangybi a Little Mill. Dewiswyd yr ardal hon am ei bod yn cynrychioli trawstoriad demograffig da o’r Sir ac mae’n cynnwys cymysgedd o ardaloedd dinesig, lled-ddinesig a gwledig.

 

Rydym yn dal i drafod gyda’r farchnad i benderfynu’r fanyleb derfynol ar gyfer y cerbyd peilot ond ein nod yw sicrhau cerbyd tair ffrwd gyda choden ar gyfer gwydr a chorff sy’n rhannu er mwyn casglu bagiau coch a phorffor ar wahân.

 

Mewn cyfarfodydd blaenorol pryderai’r Aelodau am y cynhwysydd a ddefnyddir i gasglu gwydr. Cynhaliwyd ymchwiliadau pellach a chredwn y dylid casglu gwydr mewn blwch. Paham? Rydym wedi ymchwilio i’r defnydd o flwch ynghyd â bag yn debyg i hesian y gellir ei ailddefnyddio gyda’n criwiau, awdurdodau eraill, ein swyddog Iechyd a Diogelwch gyda Chyngor Sir Fynwy ac ymgynghoriaeth Iechyd a Diogelwch allanol. Yr adborth a dderbyniwyd o bersbectif iechyd a diogelwch yw bod blwch yn fwy addas am nifer o resymau:

Bagiau – rhoddir straen ar un ysgwydd wrth gario/lwytho, Blwch – gwell technegau wrth godi, osgo ac ystum da, pwysau’n cael ei ddosbarthu rhwng y ddwy fraich.

Bagiau – posibilrwydd i lwythwyr gael eu hanafu oherwydd agosrwydd y bag yn ystod ei wacáu a pherygl i’r gwydr dorri.

Bagiau – Dim gwytnwch i gefnogi’r llwythwr yn ystod gwacáu, y blwch yn fwy gwydn, yn annhebygol o dorri, felly llai o berygl i’r llwythwr gael ei anafu.

Bagiau – Mwy o berygl iddynt chwythu i ffwrdd a sarnu ar y palmentydd.

Bagiau – Graddfa uwch o ddisodli o ganlyniad iddynt chwythu i ffwrdd a’u parhad yn fyr-dymor – amcangyfrifir oes bag yn 2-3 blynedd, blwch hyd at 10 mlynedd.

Teimla swyddog CSF fod y bagiau’n ormod o berygl iechyd a diogelwch i’n llwythwyr ac maent felly’n cynnig nad ydym y parhau i drafod y dewis hwn ymhellach.

 

Tra gallai fod pryderon ynghylch amwynder gweledol a’r olygfa ar y stryd, rhaid i ni gofio ein bod yn symud gwydr o’n ffrwd ailgylchu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r gyfraith bresennol tra rydym yn cynnal cyfanrwydd y gwasanaeth coch a phorffor sydd eisoes yn bodoli.

 

Rydym hefyd yn argymell bod ailgyflwyno’r bagiau llwyd yn digwydd o fewn yr ardal beilot yn ystod yr arbrawf. Gyda’r duedd gyfredol o gynnydd mewn gwastraff gweddill (ar y cyfan aeth gwastraff gweddill i fyny 10% yn 2015/16 o gymharu â 2014/15), byddai’n fuddiol mesur a fyddai ailgyflwyno a gorfodi defnyddio’r bagiau llwyd yn cael effaith gadarnhaol yn nhermau lleihau gwastraff gweddill a gyflwynir ar garreg y drws a/neu gynnydd mewn ailgylchu.

 

Craffu Aelodau:

 

Cwestiynodd Aelodau’r ysgogiad y tu ôl i gynllun peilot y blwch gwyrdd a’r gost ynghlwm wrtho, a sut y mesurir llwyddiant yr arbrawf cyn ystyried cyflwyno’r cynllun ar hyd a lled y sir. Eglurodd y Swyddog y bydd cost yr arbrawf tua £40,000. Mae hyn yn cynnwys rhai staff ychwanegol a phrynu cerbyd â’r cefn yn gwahanu gyda choden yn defnyddio siasi RCV. Eglurwyd bod posibilrwydd haneru’r gwastraff i’r Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau ac o ganlyniad lleihad mewn costau, a’r posibilrwydd o arbed £250,000 y flwyddyn. Yn ychwanegol, bydd gwahanu gwydr yn caniatáu i’r gwydr gael ei ailgylchu yn hytrach na mynd i agregau, nid y canlyniad gorau’n amgylcheddol, nac yn nhermau amcanion Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol CSF. Eglurodd y Swyddog y dangosid llwyddiant drwy welliant mewn targedau perfformiad ailgylchu (neu ddim newid am fod gan Gyngor Sir Fynwy berfformiad da mewn ailgylchu ar garreg y drws), gwelliannau ym mherfformiad ariannol y gwasanaeth a’r canlyniadau ailgylchu amgylcheddol gorau.

 

Mynegodd y Cadeirydd fod perygl i fuddsoddiad os nad yw’r preswylwyr yn gwahanu’r gwydr ac awgrymodd gynllun cyfathrebu. Ymatebodd y Swyddog y gwneir ymdrechion i ymgysylltu â’r preswylwyr sy’n rhan o’r arbrawf gan gynnwys presenoldeb swyddogion yn yr ardal a hefyd dadansoddiad casglu i fonitro cynnydd.

 

Beirniadodd Aelod y cynigion fel cyfrwng llechwraidd i ddychwelyd i flychau, bod yr ystyriaethau iechyd a diogelwch yn ddigyfnewid a’n bod yn boddio’r  farchnad. Eglurodd y Swyddog iddynt ymchwilio i opsiwn trydydd bag ond cafwyd ef yn anaddas i’w dderbyn gan y farchnad. Trafododd yr Aelodau nad oeddent yn gyffredinol yn ffafrio blychau. Eglurodd y swyddog fod y farchnad eisiau prynu gwydr rhydd heb ei dorri, ac eglurodd y problemau sy’n gysylltiedig â phlastig neu fagiau y gellir eu hailgylchu. Cadarnhawyd bod y Cabinet eisoes wedi cymeradwyo’r cynllun peilot ac os bydd yr arbrawf yn aflwyddiannus, ceisir cynlluniau amgen.

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am ddod â diweddariad i’r Pwyllgor Dethol ar y cynllun peilot ar y casgliadau ailgylchu y bwriedir ei gychwyn ym Medi eleni. Gwnaeth Aelodau sylwadau ar y cynigion ac roeddent yn dal heb eu hargyhoeddi fod gan y blychau du fanteision digonol dros y sachau plastig. Cytunodd y Pwyllgor dderbyn diweddariad pellach ar ganlyniadau’r cynllun peilot maes o law.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: