Agenda item

Dyfodol y Contract Safle Amwynder Dinesig

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniasom adroddiad gan y Rheolwr Strategaeth Ailgylchu a Busnes i gynghori’r Pwyllgor ar y ffordd ymlaen arfaethedig i gytundeb Dragon Waste.

 

          Materion Allweddol:

 

Drwy gydol yr Adolygiad ar Ailgylchu gwnaed cyfeiriad at ddyfodol ein Safleoedd Amwynder Dinesig a’n Gorsafoedd Trosglwyddo a sut y dônt i ateb y diben yn weithredol ac yn ariannol i ategu’n darpariaeth casglu ar garreg y drws a sicrhau bod cynnig ailgylchu cynaliadwy o safon uchel ar gael i breswylwyr Sir Fynwy.

 

Er eglurder, mae cytundeb cyfredol Dragon Waste yn cynnwys y gwasanaethau canlynol:

 

·         Rheoli a gweithredu 4 Safle Amwynder Dinesig* (Llanffwyst, Pum Lôn**, Troddi a Brynbuga sydd ym mherchnogaeth CSF ac a reolir gan Dragon Waste)

·         Rheoli a gweithredu 2 Orsaf Drosglwyddo– Llanffwyst a Phum Lôn

·         Cludo gwastraff gweddill i Brosiect Gwyrdd Ynni o Wastraff ym Mharc Trident, Caerdydd.

 

(* y term cyfreithiol ar y safleoedd yw Amwynder Dinesig. Fe’u hadwaenir yn fwy cyffredin fel Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestig ac felly fe gyfeirir atynt yn y modd hwn drwy gydol y papur.

** mae safleoedd Llanffwyst a Phum Lôn dan brydlesau cynnal a chadw llawn i Dragon Waste lle mae Troddi  Brynbuga ym mherchnogaeth CSF ac yn cael eu rheoli ar ein rhan gan Dragon Waste.)

 

Mae hwn yn gytundeb hen iawn ac wedi datblygu dros amser fel mae deddfwriaeth a blaenoriaethau’n newid.

 

Yn 1994, ffurfiodd Cyngor Sir Fynwy a Terry Adams gwmni cyd-fentro (CCF), Dragon Waste, i weithredu a rheoli gwaredu gwastraff a’r Safleoedd Amwynder Dinesig. Roedd hyn yn ymateb i ddeddfwriaeth nad oedd mwyach yn caniatáu Awdurdodau Lleol i weithredu Safleoedd Amwynder Dinesig a’r canlyniad oedd sefydlu Cwmnïau Cyd-fentro neu Gwmnïau Gwaredu Gwastraff hyd braich yr Awdurdod Lleol.

 

Gwerthodd Terry Adams ei gyfranddaliadau i Viridor ac ers yr 1990au hwyr  mae Viridor wedi parhau’n brif gyfranddaliwr (81%) Dragon Waste.

 

Yn 2014 ail-drafodwyd y cytundeb gyda Viridor i ganiatáu trosglwyddiad llyfn i Brosiect Gwyrdd, gosod costau rheoli tryloyw i alluogi cyflawni unrhyw gaffaeliad yn y dyfodol ar sail wirioneddol gymharol, cytundeb ailgylchu sy’n ateb y diben ac arbedion ar draws y cytundeb. Daethpwyd â chanlyniad y drafodaeth hon gerbron y Pwyllgor Dethol cyn ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Hydref 2014.

 

Mae Viridor hefyd yn dal y cytundeb organig ar gyfer ailgylchu gwastraff organig a gasglwyd ar garreg y drws. Mae’r cytundeb hwn yn gorwedd y tu allan i’r papur hwn gan fod y Pwyllgor Dethol a’r Cyngor eisoes wedi penderfynu ar ddyfodol hir dymor gwastraff organig ac wedi cytuno i bartneriaeth gyda Rhaglen Treulio Anaerobig Blaenau’r Cymoedd a fydd yn cychwyn o Ebrill 2018.

 

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n caniatáu awdurdodau lleol i weithredu’u safleoedd eu hunain bellach wedi’i diddymu ac mae’r cyfle i redeg y safleoedd Amwynder Dinesig yn fewnol yn ddewis y mae rhai cynghorau wedi’i fabwysiadu.

 

Craffu Aelodau:

 

Cwestiynwyd a fyddai unrhyw faterion ymarferol neu anymarferol i’w hystyried parthed yr awgrymiadau i wella perfformiad megis agor bagiau du preswylwyr neu wneud rhai safleoedd yn rhai ailgylchu’n unig drwy gyfyngu ar waredu gwastraff bagiau du. Dywedwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi gweithredu mesurau o’r fath heb i unrhyw gynnydd mewn gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon gael ei gofnodi, yn bennaf drwy hysbysebu a chyhoeddusrwydd cynhwysfawr.

 

Cadarnhawyd bod dadansoddiad dienw o gynnwys bagiau du wedi dynodi bod 50% o’r cynnwys yn wastraff bwyd neu wastraff y gellir ei ailgylchu a’r casgliad oedd bod mwy i’w wneud i weithio tuag at y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i ailgylchu 70%.

 

Cwestiynwyd sut bydd ailgyflwyno bagiau llwyd yn annog gwell defnydd o wastraff bagiau du. Adroddodd y Swyddog fod cynnydd yng ngwastraff gweddill carreg y drws yn unol â’r cynnydd mewn gwastraff yn gyffredinol a bod dadansoddiad casglu yn cael ei gyflawni i ddynodi’n ddienw beth gaiff ei ailgylchu gan breswylwyr yn y bagiau du/llwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, hysbyswyd Aelodau bod gwybodaeth ymchwil ar gael, (er enghraifft, o WRAP UK) sy’n ymchwilio i rwystrau rhag ailgylchu. Awgrymodd Aelod ddarparu rhaglen addysg i roi gwybodaeth barhaus i breswylwyr yn hytrach na dibynnu ar chwiliadau ar-lein. Atebodd y Swyddog, yn anochel, nad yw rhai pobl yn cymryd rhan a ffocysir y gwaith ar gyrraedd ardaloedd anodd eu cyrraedd lle nad yw unigolion yn cyfranogi. Mae’r gwaith hwn yn gyfyngedig oherwydd argaeledd adnoddau. Daethpwyd i’r casgliad bod y mwyafrif o breswylwyr yn ailgylchu a chytunwyd hefyd ei bod yn bwysig cadw prosesau’n syml, gyda chyn lleied â phosibl o newidiadau i sicrhau bod y preswylwyr sydd ar hyn o bryd yn ailgylchu, yn parhau i wneud hynny.

 

Awgrymodd Aelod ehangu’r broses dendro i fwy nag un contractwr.

 

Cwestiynodd Aelod a oedd y canolfannau ailgylchu yn Llanfihangel Troddi, Trefynwy a Brynbuga yn rhy fach, fel mae casglu sbwriel yn cael ei fethu ac a ymchwiliwyd i safleoedd amgen, gan gynnwys y posibilrwydd o sefydlu un safle rhwng Brynbuga a Threfynwy. Yn ychwanegol cwestiynwyd a fyddai ehangu’r rhychwant arfaethedig o gynhyrchion i wneud elw o’u casglu yn safleoedd Caerwent a Phum Lôn yn cyfiawnhau’r gwariant. Yn olaf, gwnaed sylw ar ansawdd wael y bagiau bwyd. Eglurodd y Swyddog i waith dichonoldeb gael ei wneud yn safle Mihangel Troddi ar dir ym mherchnogaeth CSF y tu ôl i’r Ganolfan. Amcanwyd y byddai darparu’r cyfleusterau yn debyg i gyfleusterau safle Llanffwyst yn gost cyfalaf o £1.8milwn. Amcangyfrifwyd, ar sail y tunelli gwastraff a ddeuai i’r safleoedd, na fyddai’r cynnydd mewn ailgylchu a’r gostyngiad mewn gwastraff gweddill yn ateb y gost o fenthyca cyllid i wella’r safle ac na fyddai’n cael effaith ddigonol ar dargedau ailgylchu. Atgoffwyd Aelodau mai’r targed gwelliant yw 76%.

 

Ynghylch yr awgrym i sefydlu un safle i ddisodli’r canolfannau ailgylchu ym Mrynbuga a Threfynwy, gan ffafrio un safle rhwng y ddau leoliad, eglurodd y Swyddog nad oedd safle wedi’i ddynodi ac nad oedd darpariaeth yn y Cynllun Datblygu Lleol ar hyn o bryd. Byddai hyn yn fater ar gyfer ymgynghori cyhoeddus.

 

Eglurodd y Swyddog fod ehangu safle Pum Lôn yn cyfeirio at ehangu’r sied ar gyfer yr orsaf drosglwyddo, nid y rhychwant o ddeunyddiau. Ychwanegwyd y bwriedir cynnal trafodaeth gyda'r farchnad i weld sut y gellir mwyhau cyfleoedd ar y safle.

 

Gwnaeth Aelod sylw nad yw lleoliad y ganolfan ailgylchu ym maes parcio Stryd Maryport ym Mrynbuga yn ddelfrydol gan ei fod yn rhy fach, y maes parcio’n brysur, lleiniau parcio wedi’u colli, anhawster i’r lorïau sgip wasanaethu’r cyfleuster a’r grisiau’n anaddas i rai defnyddwyr gwasanaeth. Gofynnodd yr Aelod am ail-leoli’r safle gael ei ystyried. Cynghorodd y Swyddog bod argaeledd cyfalaf yn gyfyngedig.

 

Trafododd yr Aelodau effaith datblygu tai a hysbyswyd hwy na ddarperir unrhyw gyllid ychwanegol i fynd i’r afael â’r galw am wasanaethau. Codir y pwynt hwn gyda swyddogion perthnasol. Cwestiynodd y Cadeirydd a oedd yn bosibl codi arian ychwanegol drwy dreth amgylcheddol. Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru’n ymchwilio ffyrdd arloesol o gyllido ailgylchu gwastraff (er enghraifft cyfrifoldeb y cynhyrchydd). Gwnaed sylw bod Cadw Cymru’n Daclus yn gweithredu cynllun peilot dychwelyd blaendal a bod Gr?p Swyddogion Cymru gyfan yn cefnogi’r cysyniad, ond nad yw Llywodraeth Cymru’n gefnogol ar hyn o bryd.

 

Darparodd Swyddog adborth ar y bagiau bwyd cyfredol gan egluro y cânt eu gweithgynhyrchu o flawd grawn yn y Deyrnas Unedig i’r safon Nod Barcud Prydeinig. Eglurwyd eu bod yn rhatach na’r bagiau gwyrdd a brynwyd yn flaenorol a gafodd eu gwneud o startsh tatws. Yn dilyn rhai cwynion ynghylch ansawdd y bagiau newydd cysylltwyd â’r gweithgynhyrchydd a disodlwyd y bagiau o safon anaddas â chynnyrch o ansawdd uwch; monitrir yr ansawdd. Atgoffwyd Aelodau bod arbediad o £30,000 drwy brynu’r bagiau newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y dadansoddiad casglu yn dynodi bod gwastraff bwyd yn bennaf yn cynnwys bwyd bwytadwy sydd y tu hwnt i’w dyddiad gwerthu erbyn, i’w dyddiad gorau erbyn neu ddyddiad defnyddio erbyn. Mae gweithgynhyrchwyr bwyd yn ystyried ffyrdd o egluro’n well hirhoedledd a diogelwch bwyd gyda symiau cyfyngedig o wastraff y gellir ei gompostio (tocion/crafion llysiau, bagiau te ac ati). Gwahoddwyd Aelodau i ymweld â’r ganolfan ailgylchu ar gyfer yr ymarfer casglu i weld drostynt eu hunain y mathau o wastraff a waredwyd gan breswylwyr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd paham nad oedd unrhyw fwriad i ailgyflwyno derbyn bagiau coch a phorffor mewn gorsafoedd trosglwyddo. Eglurodd y Swyddog fod y ddarpariaeth hon wedi bod ar gael ym mhob safle ond dangosodd dadansoddiad fod aelodau’r cyhoedd yn defnyddio’r cyfleuster fel cyfleuster gwastraff ychwanegol, er enghraifft, yn cynnwys sachau o garreg y drws â sticeri’n nodi llygredd. Tynnwyd y cyfleuster gan fod adborth oddi wrth y contractwr yn dangos enghreifftiau o unigolion yn ymddwyn yn anaddas ac yn ormesol wrth gael eu herio. Ychwanegwyd y byddai angen ymgynghori â phreswylwyr i weld sut y gellir ailgyflwyno’r gwasanaeth fel y bydd ar gael iddynt.

 

 

Argymhellion:

 

Cytunwyd yr argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad cynhwysfawr a nododd yr Aelodau'r cynnydd a wnaed a derbyn argymhellion yr adroddiad. Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad rheolaidd o gynnydd yng nghyswllt rhaglen bartneriaeth Treulio Anaerobig Blaenau’r Cymoedd.

 

 

 

Dogfennau ategol: