Agenda item

Craffu ar yr adroddiad All-dro Refeniw a Chyfalaf

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Diben yr adroddiad hwn yw darparu gwybodaeth i Aelodau ar sefyllfa alldro refeniw rhagolygol yr Awdurdod ar ddiwedd adrodd 4 sy’n cynrychioli’r sefyllfa alldro ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Caiff yr adroddiad hwn ei ystyried hefyd gan y Pwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldeb i:

asesu a oes monitro cyllideb effeithiol yn digwydd,

fonitror graddau y caiff cyllidebau’u gwario yn unol â’r fframwaith cyllideb a pholisi a gytunwyd,

herio rhesymoldeb gorwariant a thanwariant rhagamcan, a

monitro cyflawniad enillion neu golledion rhagfynegol mewn perthynas â chynigion i wneud arbedion.

 

Argymhellion:

 

Bod Aelodau’n ystyried tanwariant alldro refeniw net o £676,000, gwelliant o £878,000 ar ragfynegiadau alldro chwarter 3.

 

Bod Aelodau’n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £18.3m yn erbyn cyllideb ddiwygiedig o £18.8miliwn, wedi llithriad arfaethedig o £43.7 miliwn, gan arwain at danwariant net o £508mil, y mae tua £433mil ohono ar gael ar gyfer ei ailgylchu i mewn i brosiectau/flaenoriaethau eraill yr argymhellir y bydd yn cael ei ddal tra disgwylir adolygiad o’r pwysau ychwanegol a ddynodir ym mharagraff 3.6.3.

 

Ystyried a chymeradwyo’r £43.7m yn y llithriad cyfalaf a argymhellwyd, gan dalu sylw i’r cynlluniau hynny a gynhwysir ym mharagraff 3.5.4 lle gofynnwyd am lithriad gan y rheolwr gwasanaeth ond nid argymhellir ei fod yn llithro (£170mil), a nodir y lefel sylweddol o lithriad sy’n ofynnol ar alldro heb fod yn amlwg yn gynt yn y flwyddyn gan dynnu sylw at bryder ynghylch rhagamcanu cyfalaf y rheolwr wrth fynd ymlaen.

 

Mae’n ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn arfaethedig ac mae’n nodi’r gostyngiad sylweddol ar lefelau cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar ddiwedd 2015-16 a’r arwyddion tebygol ar ddiwedd 2016-17.

 

Mae’n cymeradwyo ailddyrannu gweddillion cronfeydd wrth gefn, fel y nodir ym mharagraff 3.9.5 yn dilyn yr adolygiad actwaraidd o’r gronfa yswiriant wrth gefn ac adolygiad o weddillion mân gronfeydd wrth gefn eraill, er mwyn mynd i’r afael â phwysau cronfeydd wrth gefn a chyfraddau rhannu tanwariant cyffredinol wrth ategu lefelau cronfeydd wrth gefn fel a ganlyn:

£1,037 miliwn i gronfa wrth gefn Dileu Swyddi a Phensiynau

£419mil i gronfeydd wrth gefn TG

£350mil i gronfa wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio

 

Mae’n cymeradwyo defnydd y gronfa wrth gefn Buddsoddi ac Ail-ddylunio yn ystod 2016-17, cyfanswm o £30,835, fel cyfraniad ychwanegol CSF er mwyn galluogi gwaith ar y Fargen Ddinesig  barhau.

 

Craffu Aelodau:

 

Gofynnodd Aelod pryd byddai’r adolygiad o’r gwasanaethau diwylliannol o flaen y Pwyllgor. Atebodd yr Aelod Cabinet fod adroddiad bron yn barod i ddod i’r Cabinet a bod adroddiad yr ymgynghorydd wedi‘i dderbyn ac y byddai’n mynd allan i ymgynghoriad yn fuan.

 

Gwnaeth Aelod sylw ar y ffigyrau ar gyfer Ysgol Cas-gwent a hysbysodd y Pwyllgor fod yr ysgol yn optimistig y byddai’r ffigyrau’n gwella a gofynnodd a oedd gan y tîm Cyllid yr un hyder. Hysbysodd y Swyddog y Pwyllgor ei fod wedi bod mewn cysylltiad â chorff llywodraethol yr ysgol a chynghori eu bod oddeutu £100,000 yn fyr o ble dylent fod.

 

Gofynnodd Aelod ai hwn fyddai’r ymgynghoriad olaf ar Gestyll. Atebodd y Cabinet y byddai’n dibynnu ar benderfyniad Aelodau. Cynghorodd y byddai’r adroddiad yn ymddangos gydag argymhelliad. Crybwyllodd yr Aelod Cabinet fod Castell Cil-y-coed yn ddiweddar wedi croesawu digwyddiadau ardderchog ond na fyddai hyn yn sicrhau ei ddyfodol hir dymor.

 

Gofynnodd Aelod at ble y cyfeirid y cyllid o £73, 000 ar gyfer band llydan tra chyflym. Atebodd Swyddog y defnyddid ef ar gyfer cymunedau call a rheolwr mynediad digidol a hefyd i gefnogi cynhyrchu technoleg ddigidol a bas data o fusnesau, ynghyd â gwefan.

 

Gofynnwyd yng nghyd-destun llithriad y CDLl, beth oedd rhesymeg £100,000 yn cael ei ohirio. Cynghorodd y Swyddogion y byddent yn dychwelyd i’r Pwyllgor ag ateb i hyn.

 

Codwyd cwestiwn ynghylch parc solar Crick. Atebodd yr Aelod Cabinet fod y penderfyniad i fwrw rhagddi wedi’i ddirprwyo i’r Prif Swyddog ac ef ei hun. Nid aeth y cynllun ymlaen am fod problemau gyda chysylltiad i’r grid. Mae’r Swyddogion ar hyn o bryd yn edrych am gynllun newydd a daw mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor Dethol ymhen amser. 

 

Cododd Aelod gwestiwn ynghylch llithriad, a gofnodwyd fel peth da, fodd bynnag fe gwestiynwyd a oedd yn beth da, gan fod cynlluniau bach wedi’u torri y gellid bod wedi’u cynnal o ganlyniad i’r tanwariant a gofynnodd a yw gosod cyllideb yn fethiant.

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog a’r Aelod Cabinet ac awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol yn y dyfodol cael y Prif Swyddog yn bresennol ar gyfer adroddiadau cyllideb.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: