Agenda item

Diweddariad Llafar: Skutrade a Chylchffordd Cymru

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniodd Aelodau ddiweddariad ar lafar oddi wrth Bennaeth Datblygiad Masnachol a Phobl ynghylch Skutrade a Chylchffordd Cymru.

 

Cylchffordd Cymru

 

Dywedwyd wrthym fod yr awdurdod lleol, ynghyd â Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru, wedi cychwyn ystyried bargen a osodwyd ar gyfer Cylchffordd Cymru yn nhymor yr Hydref y llynedd, a buom yn ymarfer yn eang ddiwydrwydd dyladwy er mwyn cael mynediad i’r fargen honno. 

 

Daeth y ddau awdurdod lleol i’r casgliad yng Ngwanwyn 2016 fod y risgiau’n rhy fawr i’w cymryd. Ar y pwynt hwnnw, mewn cytundeb gyda Llywodraeth Cymru, ciliodd y ddau awdurdod lleol o’r fargen. Aeth Llywodraeth Cymru yn ei blaen ar ei phen ei hun, i weld a allent gael hunanfoddhad o’r fargen. Daeth Gweinidog Cymru i’r casgliad ddiwedd Mawrth na allai barhau â’r fargen, ac mae’r rhesymau dros hynny wedi cael digon o gyhoeddusrwydd yn y wasg.

 

Y sefyllfa gyfredol yw bod y ddau awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru wedi dychwelyd i drafod gyda Chylchffordd Cymru sydd wedi cyflwyno bargen ddiwygiedig sydd ar hyn o bryd yn cael ei hystyried.

 

Mae’r Gweinidog newydd yn edrych dros bapur briffio sydd wedi cael ei baratoi a’i gylchynu’r wythnos hon, rydym yn disgwyl diweddariad pellach ar hyn. 

 

Roedd Pennaeth Datblygiad Masnachol a Phobl yn methu â mynd i fwy o fanylder ar hyn o bryd o ganlyniad i sensitifrwydd masnachol.

 

Craffu Aelodau:

 

Cododd Aelodau bryderon ynghylch y galw am y prosiect. Sicrhaodd y Swyddog y Pwyllgor na fyddai’r ddau awdurdod ynghlwm wrth y fargen, ynghyd â Llywodraeth Cymru, wedi ymwneud â’r fargen oni bai iddynt deimlo’i fod o fudd mawr i’r ardal.   Roedd y diwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd yn eang, nid yn unig yn fasnachol, ariannol a chyfreithiol, ond y tu hwnt i hynny, ymgynghorwyd ag arbenigwyr motorsport a chyflawnwyd profion marchnad. Petai bargen wedi’i tharo, fe fyddai’r holl wybodaeth berthnasol yn cael ei bwydo nôl i’r Aelodau.

 

 

Gofynnodd Aelod paham nad oedd y datblygwr wedi mynd i’r farchnad ecwiti preifat. Atebodd y Swyddog, pan aeth y cwmni at gyllid preifat yn wreiddiol, nad oedd cynllunio wedi’i sicrhau ar y safle a bod problemau gyda dadgofrestru’r tir. A dyma’r ddau fater a ddaliodd y farchnad nôl a’i rhwystro rhag datblygu. Daethpwyd o hyd i gefnogwr preifat i gyllido hyd at 16 miliwn o’r prosiect, fodd bynnag roedd yn ofynnol eu bod yn cael gwarant cyhoeddus 100% y tu ôl iddo er mwyn dadberyglu’r broses.

 

Mynegodd Aelod siom Aelodau ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru  i beidio â chefnogi’r fargen gyntaf a theimlent y byddai’r cyllid ar gyfer y

gylchffordd a’r swyddi a grëwyd yn ei sgil, yn negyddu cyfanswm y budd-daliadau a delir i bobl ddi-waith yr ardal ar hyn o bryd. 

 

Gofynnodd Aelod a fyddai’r trac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer beiciau modur yn unig a’r ateb oedd bod y trac yn agored i bob cerbyd. Gan fod nodwedd unigryw, sef cwymp, yn perthyn i’r trac, mae hyn yn naturiol yn ei wneud yn atyniadol i brofi cerbydau. Roedd y Prif Weithredwr, Martin Whittaker yn gyn-lywydd pf yr FIA, yn gyfrifol am sefydlu grand prix Abi Dhabi, mae e wedi rhedeg gyrfa dda ac yn bwysicach na dim, mae ganddo restr o gysylltiadau hynod ddefnyddiol.

 

Cwestiynodd Aelod mai Blaenau Gwent fyddai’n teimlo’r prif fanteision cymdeithasol a theimlai y dylai Sir Fynwy sicrhau eu bod yn teimlo’r manteision ariannol. 

 

Cwestiynodd Aelod y diffyg asesiad amgylcheddol oedd ar gael yn electronig.

 

 

Skutrade

 

Daethpwyd ag adroddiad  i’r pwyllgor fis Mawrth diwethaf, yna daethpwyd ag ef i’r Cabinet, a roddodd gymeradwyaeth dirprwyedig yr awdurdod i Aelod yr Economi a Menter ar y  Cabinet, y Prif Swyddog ar gyfer Menter a’r Pennaeth Cyllid i lofnodi bant wedi cwblhau diwydrwydd dyladwy’n foddhaol a dwyn achos busnes gerbron. 

 

Byddai llofnodi hwn bant wedi rhyddhau cyllid o £90,000 i Skutrade, y byddai’r awdurdod wedi’i ddigolledu dros amser diffiniedig o’r cwmni yn seiliedig ar fusnes lleol yn cael mynediad i’w platfform ac yn ei ddefnyddio. Mae’r fargen yn ddibynnol ar y sail y bydd y platfform yn barod. Hyd yn hyn mae’r cwmni wedi bod yn analluog i fynd rhagddo drwy hyfforddiant a dderbynnir gan y defnyddwyr felly nid ydym ar y pwynt lle mae gennym ddatrysiad parod i’r farchnad.

 

Mae bellach yn achos o gadw llygad ar gynnydd a chwblhau achos busnes, tan hynny ni allwn symud ymlaen.

 

 

Craffu Aelodau:

 

Cafodd Aelodau sicrwydd nad oedd cyllid wedi’i ryddhau a gofynnwyd a oedd dyddiad torbwynt ar gyfer hyn. Dywedwyd wrthym na chafodd cyllid ei ryddhau ac nad oes dyddiad pendant, gan ei fod dan adolygiad cyson.

 

Gwnaeth Aelod sylw iddi fod yn flwyddyn ers cyflwyno Skutrade, ac a oedd y flwyddyn o oedi yn rhwystro busnesau rhag defnyddio cynnyrch tebyg sydd eisoes ar gael. Ymatebodd Swyddog drwy ddweud bod ei dîm wedi bod yn cadw llygad ar y farchnad ac ar hyn o bryd nid oedd cynnyrch tebyg am debyg ar gael yn gyfleus.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

Cylchffordd Cymru

 

Roedd y Cadeirydd yn fodlon, fel y bydd y fargen yn mynd rhagddi, byddai pob gwybodaeth berthnasol yn cael ei bwydo nôl i’r Pwyllgor er mwyn i graffu trylwyr ddigwydd.

 

Skutrade

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am y diweddariad ac edrychai ymlaen at dderbyn diweddariad ym mis Medi.