Agenda item

Taclo tlodi yn Sir Fynwy.

Adults Select Committee Members are invited to attend the Select Committee meeting to scrutinise this agenda item, as it affects both the Children and Young People Select Committee and the Adults Select Committee.

 

 

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

·         Darparu trosolwg o Raglen o Fwriad Taclo Tlodi yn Sir Fynwy.

 

·         Tynnu sylw at y gweithgarwch cyfredol sy’n digwydd ar draws Sir Fynwy sy’n cyfrannu at daclo tlodi.

 

·         Darparu trosolwg o’r agwedd gyfredol at daclo tlodi, sy’n cyflinio i Gynllun Integredig Sengl Sir Fynwy. 

 

Materion Allweddol:

 

Trosolwg o Raglen o Fwriad Taclo Tlodi yn Sir Fynwy.

 

 

Mae tlodi’n arwain at ganlyniadau addysgol ac iechyd gwaeth ar gyfer unigolion, yn lleihau cyfleoedd-bywyd ac yn atal pobl rhag cyflawni’u potensial. Mae tlodi hefyd yn gosod costau aruthrol ar y gymdeithas a galw cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus. Yn Sir Fynwy mae tlodi’n aml yn cael ei guddio neu mae mewn pocedi bychain. Y ffocws yw dynodi’r rheiny gaiff eu heffeithio gan dlodi a darparu ystod gynhwysfawr a chlir o wasanaethau sy’n cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau, gan ganiatáu iddynt gymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas ac ymhél ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. 

 

Bwriedir i hyn gael ei wneud drwy ganolbwyntio ar y canlynol:

 

§  Atal Tlodi drwy roi i bobl y cychwyn gorau posib mewn bywyd. Torri’r cyswllt rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol, tangyflawni addysgiadol a chyfleoedd andwyol bywyd.  

 

§  Helpu pobl i wella’u sgiliau, cyfoethogi perthnasedd eu cymwysterau a symud  rhwystrau i gyflogaeth.

 

§  Lleihau effaith tlodi drwy ddarparu rhaglen glir o gefnogaeth wedi’i thargedu tuag at y rheiny sydd dan anfantais tlodi.

 

Edrychir ar Gynllun Integredig Sengl Sir Fynwy 2013-17 fel prif gyfrwng mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thaclo tlodi. Wrth weithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned, darparwyr gwasanaeth a chyflogwyr, cydnabyddir bod taclo tlodi yn thema drawstoriadol lle mae cydweithredu’n hanfodol wrth gyflawni’r Cynllun i sicrhau bod: Neb yn cael ei adael ar ôl, mae Pobl yn Hyderus, yn Alluog ac yn Cymryd rhan ac mae’n Sir yn Ffynnu. 

 

Cydnabu’r Asesiad o Anghenion Strategol, a gyflawnwyd i hwyluso cynhyrchu’r Cynllun Integredig Sengl, y gwahaniaeth mewn cyfoeth ar draws y sir ac mewn ffactorau allweddol megis disgwyliad bywyd.  Mae’n amlwg feysydd y gellir eu dynodi yn ein trefi lle mae pobl dan anfantais ac mae hyn yn creu synnwyr o ‘bocedi o amddifadedd’.

 

Nodweddir natur tlodi yn Sir Fynwy hefyd gan gyfansoddiad gwledig y sir. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif ei bod yn costio 10-20% yn fwy i gyrraedd safon byw sylfaenol ddigonol mewn ardaloedd gwledig na threfol, yn bennaf oherwydd costau cynyddol cludiant a gwresogi. 

 

Er mwyn taclo tlodi fe’n gyrrir gan uchelgais i alinio mentrau cenedlaethol a lleol i gyflawni ystod eglur o wasanaethau sydd wedi cael cyhoeddusrwydd da ac sy’n hygyrch. 

 

Mae nifer o bartneriaethau’r BGC wedi’u dynodi sy’n cyflenwi mewn tri maes: 

§  Atal Tlodi: Fe’i cefnogir gan raglen Dechrau’n Deg, Rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf, Tîm o Amgylch y Teulu,  Partneriaeth Datblygiad y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a Chynnig Ieuenctid Integredig.

 

§  Helpu pobl i mewn i waith: Mae wedi cefnogiGr?p Cyflogadwyedd 16+, Cynnig Ieuenctid Integredig, a Rhaglen   Teuluoedd yn Gyntaf.

 

§  Lleihau Effaith Tlodi: Fe’i cefnogir gan Bartneriaeth Cynhwysiant Ariannol, Economaidd a Digidol, Dechrau’n Deg, Rhaglen a Chynnig Ieuenctid Integredig. 

 

Grwpiau Partneriaeth, Llywodraethiant ac Atebolrwydd

 

§  Y Pencampwr Gwrthdlodi Corfforaethol a’r Pencampwr Gwrthdlodi ar ran yr Aelodau Etholedig yw’r arweinwyr strategol ar gyfer gwrthdlodi yn Sir Fynwy.

 

§  Mae gan Y Pencampwr Gwrthdlodi Corfforaethol drosolwg o’r  camau gweithredu a’r targedau sy’n gysylltiedig â thlodi ar gyfer pob un o’r grwpiau partneriaeth, sydd â’r gorchwyl o hwyluso cyflenwi naw deilliant allweddol y Cynllun Integredig Sengl.

 

§  Darperir diweddariadau ac adroddiadau rheolaidd ar gynnydd i Fwrdd Rhaglenni’r BGC a’r Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Mae’r partneriaethau dan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Fynwy yn gyfrwng sicrhau bod yr Awdurdod yn parhau i ganolbwyntio’i ymdrechion a’i adnoddau ar atal tlodi a lleihau effaith tlodi. Ein ffocws i’r dyfodol fydd adolygu dangosyddion perfformiad yn rheolaidd gyda phob partneriaeth i sicrhau eu bod wedi’u halinio i fentrau cenedlaethol ac anghenion lleol, tra sicrheir agwedd ddeallus at dargedu’r rheiny mewn angen. O ganlyniad, gallai’r dangosyddion perfformiad newid fel rydym yn caboli’n dull o weithredu.

 

Symud Ymlaen

 

Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i’r canlynol:

 

§  Sefydlu Gweithgor Gwrthdlodi a fydd yn goruchwylio datblygiad, integreiddiad, aliniad ac adrodd ar raglenni gwrthdlodi  cenedlaethol a lleol.

 

§  Datblygu Cynllun Gweithredu Gwrthdlodi a fydd yn dwyn ynghyd ddangosyddion perfformiad Partneriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus; sy’n gysylltiedig â thaclo tlodi.  

 

§  Cyflawni ymarfer mapio o ddarpariaethau sydd â’r nod o atal a lleihau effaith tlodi, tynnu sylw at fylchau mewn darpariaeth i lunio cyfeiriad comisiynu i’r dyfodol.

 

§  Codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau a all helpu i leihau tlodi drwy ddiweddaru a hyrwyddo Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Fynwy.

 

Craffu Aelodau:

 

·         Derbyniasom gyflwyniad a ffilm fer a oedd yn dynodi’r ffyrdd y mae swyddogion yn taclo tlodi yn Sir Fynwy.

 

·         Ar 1af Mehefin 2016 cynhaliwyd gweithdai ynghylch taclo tlodi.

 

·         Cynhaliwyd trafodaethau gyda Chymdeithas Dai Sir Fynwy a’r Loteri Fawr lle cododd syniadau i ddarparu gofal a helpu pobl i fynd nôl i mewn i’r gwaith.

 

·         Y Cynghorydd Sir P. Hobson yw Pencampwr Gwrthdlodi’r Cyngor.

 

·         Mae gan Raglen Taclo Tlodi Sir Fynwy ystod eang o bartneriaethau sy’n dwyn partïon allweddol ynghyd. 

 

·         Mae grwpiau ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu allweddol ac maent yn cyflenwi gwasanaeth da. Fodd bynnag, gyda chyflwyno’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gallai fod gostyngiad yn  nifer y partneriaethau sy’n ofynnol.

 

·         Yr haf hwn, cynhelir Seminar i’r Holl Aelodau ynghylch y mater hwn. Yn ystod haf/hydref 2016 bydd swyddogion yn treulio amser yn ymweld ag ysgolion a neuaddau pentref. Yn dilyn hyn, cynhelir sesiwn gyhoeddus i sefydlu beth yw hi fel i fyw yn Sir Fynwy a bydd y sesiwn yn cynnwys aelodau etholedig ac aelodau o’r gymuned.

 

·         Nodwyd bod angen ymgysylltu â phobl oedd yn byw ychydig uwchben y  ffin dlodi. Derbynnid gwybodaeth oddi wrth gymuned yr ysgol, ynghyd â derbyn safbwyntiau plant.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor Dethol ynghylch digartrefedd a theuluoedd mawr yn byw mewn amodau gorlawn, nodwyd bod hyn yn her. Hefyd, golygai cost gyfredol tai yn Sir Fynwy ei bod yn anodd i bobl ifanc fyw yn Sir Fynwy ac fe’u gorfodwyd i fyw y tu allan i’r Sir ac nid oeddent yn byw yn lleol i ddarparu gofal i aelodau’r teulu. 

 

·         Roedd angen mwy o dai cymdeithasol yn Sir Fynwy a hwyrach y bydd angen mynd i’r afael â’r mater hwn.

 

·         Mae’r Tîm o swyddogion wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phroblemau tlodi yn y Sir. Fodd bynnag, gallai mynd i’r afael â’r gofynion statudol yn y dyfodol olygu adolygiad o adnoddau. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae gan yr Awdurdod gyswllt cryf â gweithio mewn partneriaeth.

 

 

Penderfynasom dderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: