Agenda item

Ceisiadau Grant Pwyllgor Ardal:

Cofnodion:

Amlinellodd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y broses ar gyfer cyflwyno cyllid cyfalaf i sefydliadau sydd wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid i’r Pwyllgor Ardal. Roedd £5000 o gyllid cyfalaf ar gael ar y pryd o gyllideb 2015/16. 

 

Derbyniwyd y ceisiadau canlynol am gyllid ac fe’u hystyriwyd gan y Pwyllgor Ardal:

 

Pentref Taclus Gorau Gwent

Gwnaed cais am:  £250

 

Rheswm:  Tuag at dreuliau teithio beirniaid gwirfoddol ar gyfer ymweld â’r pentrefi’n cystadlu a’u beirniadu. Hefyd, tuag at brynu tlysau a fframiau ar gyfer y tystysgrifau i’r ysgolion a’r pentrefi buddugol.

 

Wedi trafod y cais ystyriwyd nad oedd y cais yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol.

 

Penderfynasom fod y cais yn cael ei wrthod. Felly, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn.

 

 

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gerddi Nelson

 

Gwnaed cais am:  £5000

 

Rheswm:  Adfer a chadw tirwedd hanesyddol (Gradd II).  Adfer Cofgolofn Nelson gyda’r sedd yr eisteddodd Nelson arni yn 1802, trwsio’r wal boeth hanesyddol a phlannu coed, gosod toiled i’r anabl i wella adnoddau i ymwelwyr.

 

 

Wedi ystyried y cais, penderfynodd y Pwyllgor beidio â chefnogi’r cais hwn.

 

 

Eglwys Fedyddiedig Brynbuga

 

Gwnaed cais am:  : £2000

 

Rheswm:  cadeiriau newydd i’r byrddau eisoes wedi’u prynu – gan roddion. Cadeiriau sy’n addas ar gyfer pob gr?p oedran o bob gallu. Gorchudd llawr newydd – ar faterion yn ymwneud â glendid a diogelwch.

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000.  Hefyd, cydgysylltu â Morley Sims i weld a oes unrhyw gadeiriau y gallai fod yn weddill i’r gofynion ac a ellid eu rhoi yn rhodd i Eglwys Fedyddiedig Brynbuga.

 

 

Pwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Llanisien

 

Gwnaed cais am:  :  £4800

 

Rheswm:  Prynu 100 o gadeiriau pentyradwy ar ddull cadeiriau cynhadledd throlïau y gellir eu storio’n hylaw ac 20 cadair blastig bentyradwy bellach.

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000. Hefyd, cydgysylltu â Morley Sims i weld a oes unrhyw gadeiriau y gallai fod yn weddill i’r gofynion ac a ellid eu rhoi yn rhodd i bwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Llanisien.

 

 

Cymdeithas Neuadd Bentref a Hamdden Rhaglan

 

Gwnaed cais am:  :  £1068.01

 

Rheswm:  Hwyluso darparu Wi-Fi yn yr Hen Ysgol Eglwys. 

 

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000. 

 

 

Y Cynghorydd Sir R. Edwards

 

Gwnaed cais am:  :  £200

 

Rheswm:  Dathlu pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed â pharti yn Neuadd Llanvaply ar 11eg Mehefin 2016.

 

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn am ei fod yn gais am gyllid refeniw.

 

 

Gr?p Sgowtiaid 1af Wyesham

 

Gwnaed cais am:  :  £1009.11

 

Rheswm:  Matiau campfa, troli a  gazebo.

 

Wedi ystyried y cais, nodwyd bod angen gwybodaeth bellach. Bydd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned yn ysgrifennu at yr ymgeisydd gan awgrymu bod y cais yn cael ailgyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Ardal yn nhymor yr Hydref.

 

Penderfynasom yn unol â hynny.

 

 

Gr?p Amgylcheddol Brynbuga

 

Gwnaed cais am:  £1000

 

Rheswm:  Adeiladu llwybr solet ar draws Cae Owain Glynd?r.

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000.

 

 

Neuadd Pelham, Penallt

 

Gwnaed cais am:  £5000

 

Rheswm:  Ail-ddylunio’n llwyr ac ail ddodrefnu’r gegin ar y llawr gwaelod gan gynnwys ailaddurno. Gwaith ar raddfa fechan i gynyddu gofod storio yn y gegin. Gosod drws dihangfa dân. Gwaith ar raddfa fechan i’r draenio allanol a gwaith palmantu. Disodli’r cyfarpar cegin a’r unedau storio.   Disodli’r gwydr dwbl oedd wedi ‘chwythu’.

 

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn.

 

 

Eglwys Babyddol y Santes Fair, Cyngor Sir Fynwy

 

Gwnaed cais am:  £2750

 

Rheswm:  Gwaith i’r ddihangfa dân, ailosod y slabiau palmantu, uwchraddio diogelwch a’r goleuadau i’r ddihangfa dân.

 

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn gan fod y rhan fwyaf ohono’n ymddangos yn waith cynnal a chadw ac felly heb fod yn gymwys.

 

 

Sant Tomos y Merthyr, Overmonnow

 

Gwnaed cais am:  £1500

 

Rheswm:  Cyfarpar a dodrefn cegin.

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi’r cais a chyfrannu £1000. 

 

 

 

Dogfennau ategol: