Agenda item

Archwiliad o Raglenni Cymorth Teuluol.

Adults Select Committee Members are invited to attend the Select Committee meeting to scrutinise this agenda item, as it affects both the Children and Young People Select Committee and the Adults Select Committee.

 

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

·         Darparu trosolwg o ddarpariaeth Teuluoedd yn Gyntaf yn Sir Fynwy a deilliannau perfformiad perthnasol.

 

·         Canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth i gefnogi teuluoedd mewn tlodi i fynd i’r afael â’u hanghenion.

 

·         Teuluoedd yn Gyntaf yw un o raglenni allweddol gwrthdlodi Llywodraeth Cymru, wedi’i chysylltu’n glos  â rhaglenni Dechrau’n Deg a Chefnogi Pobl. Mae’i ffocws ar ymyrryd yn gynnar ac mae’n dibynnu ar weithio’n effeithiol mewn partneriaeth i ymgysylltu â theuluoedd i atal esgyn i argyfwng neu’r angen am ymyrraeth gan y gwasanaethau  cymdeithasol. Yn Sir Fynwy, mae gennym Dîm o Amgylch y Teulu ac ystod o brosiectau a gomisiynwyd sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cymysgedd briodol o ddarpariaeth i gefnogi teuluoedd i fynd i’r afael â’u hanghenion.

 

·         Mae Tîm o Amgylch y Teulu (TAT) yn ddull o weithredu drwy Gymru gyfan a gyflenwir drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. Nod TAT yw cefnogi teuluoedd yn Sir Fynwy i ostwng y lefel o angen y gallent fod yn ei phrofi: gwneir hyn drwy deilwra cefnogaeth gyda thîm o bobl broffesiynol a all ddarparu gwasanaethau i gefnogi teulu. Mae proses TAT yn galluogi teuluoedd i weithio gyda’i gilydd i gyflenwi gwasanaethau a adeiledir o gwmpas anghenion teulu, a nod TAT yw gweithio gyda theuluoedd i ddynodi’r gefnogaeth gywir gan y bobl gywir ar yr amser cywir. 

 

Deilliannau Teuluoedd yn Gyntaf fel yr amlinellwyd hwy gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16:

 

·                Mae pobl mewn teuluoedd incwm isel yn elwa, ac yn gwneud cynnydd o fewn cyflogaeth.

·                Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cyflawni’u potensial.

·                Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn iach ac yn mwynhau lles.

·                Mae teuluoedd yn hyderus, yn ddiddig, yn wydn ac yn ddiogel.

Mae prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf yn cyfrannu at Gynllun Integredig Sengl Sir Fynwy: 

 

·                Thema 2: Mae pobl yn Hyderus, yn Alluog ac yn Cymryd Rhan.

·       Deilliant 5: Cefnogir Teuluoedd. 

·                Mae Teuluoedd yn Gyntaf hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at daclo tlodi yn Sir Fynwy.

 

 

 

 

 

Materion Allweddol:

 

Trosolwg o’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf

 

Yn Rhagfyr 2015 darparodd Llywodraeth Cymru hysbysiad mai’r gyllideb ddangosol ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn 2016-17 yw £651,179, sef gostyngiad o £86,081 o 2015-16.  Mae hyn yn cynnwys swm a glustnodir o £50,937 ar gyfer cymorth anabledd.

 

Er mwyn rheoli’r gostyngiad yn y gyllideb cyflawnwyd adolygiad o’r Rhaglenni  Teuluoedd yn Gyntaf a’r model TAT yn Ionawr 2016.  O ganlyniad i’r adolygiad, dynodwyd bod angen cynyddu nifer yr achosion TAT yn Sir Fynwy. Gallai’r Ddeddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd o bosib gynyddu nifer y ‘Plant Mewn Angen’ a allent gael eu trosglwyddo i’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a TAT.  Yn y cyd-destun hwn, roedd yr her o reoli’r gostyngiad o £86,081 yng nghyllideb Teuluoedd yn Gyntaf tra roedd ymgais i ddod o hyd i arbedion ychwanegol i ariannu adnodd gweithiwr TAT.

 

Mae Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf a’r dyraniad cyllido fel a ganlyn:

 

Tîm o Amgylch y Teulu (TAT)                    Cyllid 2016-17: £138,390

 

Gyda chynnydd yng Nghyllideb TAT ar gyfer 2016-17, bydd mwy o gapasiti o fewn y Tîm TAT cyfredol yn cynnwys Cydgysylltydd TAT a 3 x Swyddog Prosiect TAT. Hyd yn hyn mae TAT wedi dibynnu ar fodel o weithiwr arweiniol  ‘gwirfoddol’ i gydgysylltu cefnogaeth TAT i deuluoedd yn Sir Fynwy. Fodd bynnag, nid oes gan bobl broffesiynol brysur, tra’u bod yn ymrwymedig i’r dull amlasiantaethol o weithredu, bob amser yr amser i’w roi i faich achosion gweithiwr arweiniol i’r graddau sydd ei angen. O ganlyniad, mae nifer y teuluoedd gafodd eu cefnogi gan TAT wedi bod yn gymharol isel a bydd Swyddogion Prosiect ychwanegol TAT yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Bydd Swyddogion Prosiect ychwanegol TAT hefyd yn galluogi’r Awdurdod i ddarparu cefnogaeth well i weithwyr arweiniol gwirfoddol tra maent yn cynyddu capasiti i gymryd ymlaen mwy o achosion TAT. Bydd hefyd yn caniatáu i  Gydgysylltydd TAT ganolbwyntio ar flaenoriaethau 2016-17 TAT, a chynyddu nifer y teuluoedd a gefnogir dan fodel TAT.  

 

Acorn                                                                         Cyllid 2016-17 : £239,786

 

Mae prosiectau Acorns yn cynnwys timoedd amlasiantaethol yn cyflenwi cefnogaeth i rieni, addysg oedolion a chyngor, cefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar (iaith a chwarae a therapi lleferydd), gwasanaethau iechyd a lles. Caiff ei gydgysylltu o Ganolfan Acorn (Canolfan Integredig Plant) yn Y Fenni, ac mae wedi cyflenwi hefyd mewn lleoliadau clwstwr eraill ar draws Sir Fynwy. 

 

Acorn  Inclusive                                            Cyllid 2016-17: £30,900

 

Mae Acorn Inclusive yn cefnogi plant ag anableddau i gael mynediad i Brosiect Access gan gynnwys gweithio gyda gweithwyr portage, pediatregwyr, rhaglenni rhianta ac ymweld â rhieni gartref i asesu plant, maent hefyd yn darparu gofal plant i alluogi rhieni plant ag anableddau i gael mynediad i raglenni. 

 

Face 2 Face Counselling                              Cyllid 2016-17: £76,560

 

Mae’n darparu cynghori wyneb yn wyneb i bobl ifanc, chwarae therapiwtig i blant a system therapi i grwpiau cyfan o deuluoedd. 

 

Inclusive Play and Leisure                                       Cyllid 2016-17: £20,037

 

Mynediad i ddarpariaeth chwarae’r haf yr awdurdod lleol ar gyfer plant ag anghenion cefnogi.

 

Watch, Wait and Wonder                             Cyllid 2016-17: £17,000

 

Dyma brosiect Iechyd Meddwl i blant bach syn canolbwyntio ar ansawdd y berthynas rhwng rhieni a babanod. Cynhelir clinigau yng ngogledd a de’r sir a hyfforddiant rheolaidd mewn arsylwi plant bach ar gyfer plant oed 0-3 a’u rhieni.

 

Prosiect Gofalwyr Ifanc                                           Cyllid 2016-17: £50,486

 

Cefnogir Gofalwyr Ifanc drwy ymyrraeth dargedig (eiriolaeth a chymorth) i leihau’r bwlch rhyngddynt hwy a’r cohortau cyffredinol o bobl ifanc/ ac fe’u cefnogir i gymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Cychwyn Gartref                                                     Cyllid 2016-17: £31,000

 

Mae’n gweithio i liniaru’r pwysau a wynebir gan deuluoedd ar incwm isel â phlant dan bum mlwydd oed drwy osod gwirfoddolwr, sydd fel arfer yn rhieni eu hunain, i’w cefnogi.

 

 

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn ffafrio gweithio amlasiantaethol; mae’n gweithio’n gydweithredol gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, y Gwasanaeth Ieuenctid ynghyd ag iechyd, tai a’r heddlu ac ystod o bartneriaid y trydydd sector. Mae Rheolwr Teuluoedd yn Gyntaf a’r Cydgysylltydd TAT yn cysylltu gydag ystod eang o grwpiau partneriaeth y BGC i sicrhau dull cydgysylltiedig o weithredu, tra bod gan Gr?p Rheoli Teuluoedd yn Gyntaf/ TAT gynrychiolaeth o ystod eang o sefydliadau partner. Mae gweithio mewn partneriaeth yn ffurfio rhan fawr o daclo tlodi a chefnogi teuluoedd ar draws y sir, ac mae’n bwysig bod gan Bwyllgorau Dethol drosolwg cryf o’r gwaith hwn a’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd.

 

 

Craffu Aelodau:

 

·         Dangoswyd cyflwyniad a DVD i’r Pwyllgor Dethol ynghylch y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.

 

·         Bydd cyllid ar gyfer y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn dod i ben ar 31ain Mawrth 2017. Mae’r Tîm yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau a ddarperir y cyllid hwn ai peidio ar ôl 2017.

 

·         Dywedodd aelodau’r Pwyllgor Dethol y gallent gefnogi’r rhaglen hon ar lefel ward. Byddai’r Rheolwr Craffu’n darparu’r Cydgysylltydd Partneriaeth ac Ymgysylltu Fframwaith Asesu‘r Teulu ar y Cyd â chyfeiriadau e-bost y Pwyllgor Dethol.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol, nodwyd y darperir holiadur teulu ar ddechrau’r rhaglen ac yna eto pan fydd teulu’n gorffen y rhaglen. Mae hyn yn caniatáu i swyddogion fesur cynnydd y teulu.

 

·         Roedd Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr.

 

·         Roedd y Rhaglen ynghylch mynd i’r afael ag anghenion teuluoedd gyda’r bwriad o gynyddu cyflogadwyedd/sgiliau unigolion fel y byddent mewn gwell sefyllfa i ymuno â’r farchnad lafur.

 

·         Gellid darparu ffigur canrannol ochr yn ochr â ffigurau rhifiadol.

 

·         Mae’r prosiectau wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd, ynghyd â bod yn gysylltiedig i Fyrddau Iechyd, yr Heddlu, ysgolion a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Crynhoad y Cadeirydd:

 

·         Byddai aelodau’r Pwyllgor Dethol yn hoffi cael eu hysbysu o gyllid yn y dyfodol ar gyfer y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.

 

·         Eir i’r afael â’r ffrydiau Gwaith gan Bwyllgor Dethol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

·         Dylid adolygu’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf mewn naw mis.

 

·         Gallai Aelodau Etholedig gynorthwyo i godi ymwybyddiaeth yn y Rhaglen.

 

Penderfynasom dderbyn yr adroddiad ac roeddem yn ymwybodol o’r materion a ddynodwyd.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: