Cofnodion:
· Gwahoddwyd Aelodau i gadarnhau’r ymateb ysgrifenedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr adran newydd arfaethedig o draffordd yr M4 ac ystyried pa sylwadau pellach, os o gwbl, y dymunai Aelodau eu darparu i Lywodraeth Cymru.
Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:
Mynegodd un Aelod y pryderon canlynol, a sylwadau i’w hychwanegu at yr ymateb:
· Nid oedd mater mor bwysig wedi cael ei ddadlau’n llawn yn y Cyngor, ac nid oedd yr ymateb yn adlewyrchu gwaith a wnaed o fewn y Sir. Ffordd liniaru’r M4 yw fersiwn Sir Fynwy o Spaghetti Junction
· Roedd difrawder ynghylch y Cynllun Datblygu ar gyfer Rogiet a Gwndy
· Roedd difrawder ynghylch ardaloedd o bwysigrwydd hanesyddol, Llanfihangel a Rogiet. Dim sôn am adeiladau rhestredig
· Defnyddio i fyny’r tir ffermio gorau yn yr ardal, gan effeithio ar fywoliaeth pobl yn Llanfihangel. Dim parch at golled amaethyddol a dyfrio tir ffermio.
· Pryder ynghylch s?n ac ansawdd aer gwael
· Hwyrach nad oes damweiniau angheuol, ond mae damweiniau’n digwydd yn aml yn Llanfihangel.
· Dim sôn am y traffig drwy Rogiet.
· Fel byddai traffig o ochr orllewinol Rogiet yn cyrraedd Cyffordd Twnnel Hafren? Dim ffordd hyfyw. Dim sylw ar y gwariant ychwanegol gymerai’r ffordd hon.
· Yng nghyd-destun trafnidiaeth gynaliadwy, dylid mynd i’r afael â’r mynediad i’r maes parcio yng Nghyffordd Twnnel Hafren. Ni allai Heol yr Orsaf gymryd mwy o draffig.
Ychwanegodd Aelod, gan gytuno â’r sylwadau a wnaed:
· Byddai’r B4245, o ddod yn gefnffordd, yn beryglus.
· Ni fyddai cynlluniau ar gyfer llwybr troed rhwng Rogiet a Gwndy bellach yn briodol.
· Dylai’r adroddiad fod yn gryfach i adlewyrchu pryderon Aelodau.
· Dylid gwneud dadl gryfach i symud traffig o’r M48 ar gyswllt Cil-y-coed i Rogiet.
· Byddai llwybr troed yn costio £300,000 yn dod allan o arian trafnidiaeth gynaliadwy. Dadleuwyd y dylai hwn ddod allan o’r arian ar gyfer y datblygiad.
· Dylai fod mwy o feddwl a gweithredu gan ddatblygwyr.
Gwnaeth Aelod sylw nad oedd y cynlluniau’n glir, ac ni ellid rhagweld yr effeithiau’n llawn. Dylai’r ymateb sicrhau manylion cliriach gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Aelod fod cwestiynau ehangach ynghylch y ffordd y byddai’r cynigion yn amharu ar brosiectau seilwaith eraill ar gyfer gweddill Cymru. Cytunodd â’r sylwadau blaenorol y dylai’r Cyngor fod yn gliriach ac yn gryfach yn ei ymateb. Yn ychwanegol tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol, i’w hychwanegu at yr ateb i Lywodraeth Cymru:
· Dylai cynnydd ar drafnidiaeth gyhoeddus, megis Metro, guro’r cynnydd ar yr M4. Petai gennym drafnidiaeth gyhoeddus integredig well byddai o bosib yn negyddu’r angen am y datrysiad arbennig hwn.
· Yng nghyd-destun trafnidiaeth gyhoeddus integredig, dylid nodi bod y grant trafnidiaeth wedi’i dorri 40%.
· Dylid ychwanegu bod dadl o fewn y Cyngor ai’r ffordd osgoi Magwyr a Gwndy yw’r datrysiad gorau.
· Mae’r gyffordd arfaethedig i’r dwyrain o Gwndy wedi’i gor-saernïo, a heb ei lleoli’n briodol petaem eisiau mynd rhagddo â’n cynigion o gwmpas Cyffordd Twnnel Hafren. Ni fyddai o gymorth i symud y traffig o’r B4245, ond yn syml yn symud traffig i mewn i Rogiet.
· Mae’r lliniariad cyfredol yn hollol annigonol, ac fe gytunwyd gan arbenigwr s?n Llywodraeth Cymru, Peter Ireland, medwn ymgynghoriadau.
· Nid yw’r llwybr troed o Rushwall i Gomin Barecroft yn cwrdd â gofynion Teithio Llesol.
· Wrth i’r llwybr troed o bosib ddod yn gefnffordd, mae’n golygu ei bod yn fwy peryglus cerdded neu feicio ar ei hyd. Arweiniodd ceisiadau blaenorol i Lywodraeth Cymru ailystyried hyn a'r cyfrifoldeb yn cael ei atgyfeirio nôl i Gyngor Sir Fynwy.
· Gwnaed cais bod cydgysylltu pellach â Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Aelod ei fod yn teimlo’n gryf fod yr heol liniaru’n hen ffasiwn ac na fyddai ond yn symud tagfeydd o un lle i le arall. Y Metro a dewisiadau teithio eraill ddylai fod y flaenoriaeth.
Mae cymharu’r cynigion i opsiynau mewn dinasoedd Ewropeaidd eraill yn dangos bod y prosiect yn anobeithiol. Felly nid oedd yn gallu cefnogi’r llythyr dan drafodaeth.
Anogodd Aelod y dylai fod cynrychiolaeth o’r Cyngor hwn yn Llywodraeth Cymru, i’w dalu gan Lywodraeth Cymru am gymryd rhan yn y cynllun.
Parthed y Metro, ychwanegodd Aelod, yn hytrach na ffocysu ar un cynllun, neu arall, dylem fod yn canolbwyntio ar y ddau, gan fod llawer o’r traffig yn dod o Loegr, yn enwedig gyda’r cynnydd tebygol mewn traffig o ganlyniad i’r gostyngiad yn nhollau’r bont. Ni fyddai'r Metro yn cymryd pwysau’r traffig o Loegr.
Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Cymunedol â’r sylwadau a wnaed a nododd na ddylai’r gyllideb lawn gael ei ffocysu ar un prosiect, yn arbennig pan ddywedir wrthym nad oes arian i fynd i’r afael â phroblemau o fewn Sir Fynwy sydd angen sylw. Roedd peth syndod fod y llythyr wedi nodi bod y cynnig yn gweu i mewn i’r cynllun Trafnidiaeth Integredig, ac mewn gwirionedd nid oedd y llythyr yn rhoi sylw i’r gwaith y cytunwyd arno eisoes. Roedd wedi’i gytuno ar gyfer cyffordd yr M48 rhwng Rogiet a
Chil-y-coed, gyda chyswllt uniongyrchol i mewn i Gyffordd Twnnel Hafren, gyda chynlluniau’n cael eu llunio a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru, eto roedd hyn yn absennol o’r llythyr. Awgrymwyd bod hyn yn cael ei ychwanegu at yr ymateb newydd.
Derbyniodd yr Aelod Cabinet dros Weithrediadau'r sylwadau a nododd yr anhawster mewn graddfeydd amser ar gyfer cyflwyno’r llythyr gwreiddiol. Nodwyd y gwahanol safbwyntiau niferus ond cytunwyd bod barn gyffredin bod y cynllun yn hen ffasiwn.
Wedi’r bleidlais penderfynasom gytuno â’r argymhelliad yn yr adroddiad. Cytunwyd y dylai’r llythyr adlewyrchu bod nifer o Aelodau wedi gwrthod cadarnhau’r llythyr.
Awgrymodd y Prif Weithredwr fod y llythyr terfynol yn mynegi’r safbwyntiau cryf o fewn y Cyngor. Dylai fod cyfeiriad at farn ranedig, ond ar gydbwysedd, mae’r Aelodau’n cefnogi’r llythyr.
Dogfennau ategol: