Agenda item

DC/2015/01431 - DYMCHWEL SIEDIAU DIWYDIANNOL PRESENNOL A CHODI GWESTY 60 YSTAFELL WELY, 6 RHANDY GWESTY GYDA GWASANAETH, SBA CYRCHFAN 3,700 M.SG, DATBLYGIAD DEFNYDD CYMYSG ATEGOL (hyd at 3,000 M.SG), CANOLFAN YNNI, TIRLUNIO, MEYSYDD PARCIO A DATBLYGIADAU ERAILL ATEGOL; HEFYD MATERION ARGADWEDIG AR GYFER CYMERADWYAETH MYNEDIAD PARC MENTER Y DYFFRYN HEOL HADNOCK TREFYNWY, NP25 3NQ

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a gyflwynwyd a’r argymhelliad i’w wrthod am un rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Hysbysodd y Pennaeth Cynllunio’r Pwyllgor o’r newidiadau i’r cais, fel y dynodwyd mewn gohebiaeth hwyr ac yna eto mewn gohebiaeth hwyrach. 

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Wyesham, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol o blaid y cynnig:

 

·         Bu llawer o ymgynghori.

 

·         Y farn gyffredinol yw y byddai cymeradwyo’r cais yn arwain at fwy o waith i dref Trefynwy, a byddai’n darparu llety oedd ei wir angen ar dwristiaid yn ymweld â’r dref.

 

·         Byddai gwelliant gweledol i’r safle petai’r cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Amlinellodd Mr. D. Cummings, yn cynrychioli Siambr Fasnach Trefynwy, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol o blaid y cynnig::

 

·         Derbyniwyd sawl llythyr o gefnogaeth o blaid y cais.

 

·         Byddai cymeradwyo’r cynnig yn darparu budd ariannol i Frynbuga, sef swm o  £3.1M y flwyddyn, bob blwyddyn.

 

·         Byddai’r datblygiad arfaethedig yn fwy cydnaws â’r ardal o gwmpas, gan ychwanegu at y gwelliannau a wnaed eisoes dros y 15 mlynedd ddiwethaf.

 

·         Ychydig iawn o effaith fydd ar lif y traffig lleol.

 

·         Mae’r datblygwyr wedi cwrdd â’r gofynion yn ymwneud â llifogydd yn yr ardal.

 

·         Mae digon o rybudd o lifogydd posib yn yr ardal h.y. derbynnir rhybudd o saith awr o leiaf.

 

·         Ni fydd unrhyw risg i bobl nac eiddo petai’r cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Roedd angen cydbwyso’r materion yn ymwneud â llifogydd gyda manteision y cynllun.

 

·         Mae’r profion a amlinellir yn TAN 15 yn cynnwys goblygiadau llifogydd. Mae tri phrawf y mae’n rhaid i’r cais lwyddo ynddynt, a chyflawnir hyn parthed y ddau gyntaf. Fodd bynnag, dengys y trydydd prawf fod yn rhaid i ganlyniadau llifogydd fod yn dderbyniol.

 

·         Mae’r cynlluniau diwygiedig yn dangos y caiff yr adeilad ei godi yn uwch na lefelau llifogydd sy’n cynnwys llefydd parcio ceir. 

 

·         Mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wirio gyda’r ymgeisydd y modelu a ddarparwyd. Nes i hyn gael ei gyflawni, erys gwrthwynebiad i’r cynllun drwy gyfrwng swyddogion cynllunio. Os mai hwn yw’r unig wrthwynebiad   gellid dirprwyo’r penderfyniad i’r Panel Dirprwyaeth er mwyn i’r cynllun gael ei gymeradwyo ar yr amod bod y modelu’n cael ei gwblhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

·         Nodwyd nad oes ffordd o ddianc sych a fyddai’n beryglus i wasanaethau brys.

 

·         Mae’r ymgeiswyr wedi honni, petai llifogydd sylweddol, byddai’u cynllun rheoli’n arwain at y safle’n cael ei wacáu mewn amser.

 

·         Petai’r cynllun yn cael ei ganiatáu, byddai’n rhaid hysbysu’r Gweinidog a allai wedyn alw’r cais i mewn.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch effaith weledol y cynllun arfaethedig, nodwyd yr ymdrinnid â’r mater adeg materion a gadwyd yn ôl..

 

·         Byddai manteision cael gwesty yn y lleoliad hwn yn sylweddol.

 

·         Byddai rhybudd digonol petai llifogydd yn digwydd yn y lleoliad hwn gan ganiatáu i westeion a staff adael yr adeilad mewn hen ddigon o amser.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Hayward bod cais DC/2015/01431 yn cael ei ohirio i’w gymeradwyo drwy gyfrwng y Panel Dirprwyaeth ar yr amod bod yr ymarfer modelu’n dangos na fyddai’r cais wedi cynyddu risg llifogydd mewn unrhyw fan arall.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

:

 

 

O blaid gohirio’r cais               -           11

Yn erbyn gohirio’r cais                        -           0

Atal pleidlais                                        -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/01431 yn cael ei ohirio i’w gymeradwyo drwy gyfrwng y Panel Dirprwyaeth ar yr amod bod yr ymarfer modelu’n dangos na fyddai’r cais wedi cynyddu risg llifogydd mewn unrhyw fan arall

 

 

Dogfennau ategol: