Cofnodion:
Cyd-destun:
Craffu’r Amcanion Gwelliant a gynhwysir yng Nghynllun Gwelliant
2016-17 o flaen penderfyniad gan y Cyngor ar 12fed Mai 2016.
Materion Allweddol:.
Mae gosod Amcanion Gwelliant blynyddol a chynhyrchu Cynllun Gwelliant
Yn ofynion statudol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Cynhyrchir y Cynllun Gwelliant mewn dwy ran. Dyma adran flaengar y Cynllun ac mae wedi’i ffocysu ar ymrwymiadau a dyheadau. Mae’n rhoi cyfle i osod y cyfnodau allweddol a fydd yn cyflenwi blaenoriaethau addysg y Cyngor, cefnogaeth i bobl fregus, cefnogi busnesau a chreu swyddi a chynnal gwasanaethau mwyaf hygyrch y Cyngor yn lleol.
Cyhoeddwyd Cynllun Gwelliant 2015-17 ym Mai 2015 a chynhwysai bum amcan yn rhedeg ochr yn ochr â chyflawni blaenoriaethau’r Cyngor. Mae’r amcanion gwelliant ar gyfer 2016/17 yn barhad o’r pum amcan a osodwyd ym Mai 2015:
· Byddwn yn gwella ym mhob cyfnod allweddol ym maes addysg.
· Byddwn yn diogelu pobl, ifanc neu hen, tra byddwn yn lleihau dibyniaeth pobl ar ofal cymdeithasol.
· Rydym eisiau galluogi’n Sir i ffynnu.
· Yn y cyfamser, cynnal gwasanaethau mwyaf hygyrch y Cyngor
· Rydym eisiau bod yn sefydliad effeithlon, effeithiol a chynaliadwy.
Mae’r wybodaeth ar gyfer craffu yn canolbwyntio ar fanyldeb yr Amcanion Gwelliant ar gyfer 2016/17, a gynhwysir o fewn y Cynllun Gwelliant llawn. Cafodd yr amcanion eu hadolygu a’u diweddaru er mwyn parhau â’r gweithgarwch perthnasol yr ymrwymwyd iddo eisoes yn yr amcanion a chynnwys unrhyw gamau gweithredu newydd a gafodd eu dynodi. Mae’r Amcanion Gwelliant ar hyn o bryd yn rhwym wrth ymgynghori cyhoeddus a fydd yn rhedeg tan 22ain Ebrill 2016 ac ymgorfforir adborth o’r ymgynghoriad i mewn i’r amcanion, fel y bydd yn berthnasol, cyn eu dwyn gerbron y Cyngor i’w cymeradwyo ar 12fed Mai 2016.
Cynllun drafft yw hwn ar gyfer craffu ac ar hyn o bryd mae rhai rhannau o’r cynllun heb eu cwblhau a thargedau heb eu gorffen, fe’u cwblheir cyn y penderfyniad gan y Cyngor.
Gwnaed rhai newidiadau i ffurf y cynllun i adlewyrchu deddfwriaeth ddiweddaraf, ymateb i adborth gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd â’r hyn a ddysgwyd gan y Cyngor ei hun.
Y rhain yw:
· Egluro strwythur yr amcan fel bod pawb yn deall paham y cynhwysir gwybodaeth benodol.
· Parhau i sicrhau cysylltiadau gwell rhwng camau gweithredu a mesurau gyda thargedau cysylltiedig ar gyfer gwelliant.
· Gweu gofynion y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol i mewn i’n cynllunio, gan gynnwys sut mae’n gweithgarwch yn cyfrannu at saith amcan llesiant Llywodraeth Cymru.
Yn ystod 2016-2017 bydd Cyngor Sir Fynwy’n ymgymryd â dau asesiad sylweddol o angen a llesiant o fewn y Sir o ganlyniad i’r Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. Bydd y wybodaeth a enillir yn ystod y gwaith hwn yn gosod sylfaen lawer dyfnach o dystiolaeth i gyhoeddi amcanion lles y Cyngor erbyn 31ain Mawrth 2017 (gofyniad dan y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol). Pan ddaw’n amser datblygu’r amcanion lles bydd angen ailfeddwl yr amcanion gwelliant yn unol ag egwyddorion y Ddeddf.
Cyflwynir rhan dau’r cynllun, yn canolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd 2014-15, i’r Cyngor llawn ym mis Hydref 2016 pan fydd gwybodaeth wedi’i golygu’n llawn ar gael i’w chyhoeddi. Cyn hynny, cyflwynir i bwyllgorau dethol adroddiadau’n dangos cynnydd yn erbyn yr amcanion a osodwyd ar gyfer 2015-16.
Craffu Aelodau:
Wedi craffu’r adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Byddai’r Pennaeth Gweithrediadau’n ymchwilio i’r materion canlynol a godwyd ac yn adrodd nôl i Aelodau’r Pwyllgor Dethol:
- Pa lefel o ailgylchu a gynhyrchir drwy losgi?
- A gan yr Awdurdod fandad i arbed £250,000 drwy symud gwydr o’r deunyddiau eildro a gymysgwyd ar y cyd.
- Cost effeithlonrwydd llosgi yn hytrach nag ailgylchu. Nodwyd nad dyma yw’r sefyllfa nawr ond fe ddibynnai ar y farchnad ailgylchu yn ariannol er bod gan yr Awdurdod dargedau ailgylchu osodwyd gan Lywodraeth Cymru, felly nid oedd llosgi popeth yn ymarferol.
- Nodwyd bod ymarferoldeb gwerthu deunyddiau mewn canolfannau ailgylchu wedi cael ei godi gyda Viridor.
· Ymgymerwyd â chynllun peilot yn Y Fenni, ynghylch casglu gwydr cyn gweithredu’r cynllun yn 2017.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch eiddo ym mherchnogaeth y Cyngor yng Nghil-y-coed, nodwyd bod hwn yn fater i’r Tîm Ystadau.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch ymweliad y Pwyllgor Dethol â Rover Way yng Nghaerdydd, dywedodd y Rheolwr Craffu y gellid ymchwilio i’r mater hwn.
Penderfynasom:
(i) Dderbyn yr adroddiad, gan nodi’i gynnwys;
(ii) Byddai’r Pennaeth Gweithrediadau yn ymchwilio’r materion a godwyd ac yn adrodd nôl i Aelodau’r Pwyllgor Dethol.
|
Dogfennau ategol: