Cofnodion:
Cyd-destun:
Darparu gwybodaeth berthnasol ar bartneriaethau ar gyfer y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf
· parthed cyfraniad mudiadau trydydd sector.
· Canolbwyntio ar gynrychiolaeth, gweithgarwch a chyflenwi partneriaid y trydydd sector ar draws y tirlun partneriaethau o fewn Sir Fynwy, dan arweiniad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy (y Bwrdd Gwasanaethau Lleol blaenorol).
· Cael trosolwg o’r cyllid a ddarperir i bartneriaid trydydd sector.
Materion Allweddol:.
Yn 2012, symleiddiodd Canllaw Statudol Llywodraeth Cymru “Cydamcanu, Cydymdrechu” y tirlun partneriaeth, drwy leihau cymhlethdod a dyblygu, a rhyddhau adnoddau drwy ddatblygu Byrddau Iechyd Lleol a’r Cynllun Sengl Integredig, Yn Ebrill 2016, daeth Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol i rym a thrawsnewidiwyd Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Fynwy i mewn i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus statudol, â chyfrifoldeb dros oruchwylio’r flwyddyn oedd yn weddill o’r Cynllun Integredig Sengl, sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2017.
Yn dilyn archwiliad ac adolygiad o’r tirlun partneriaeth newydd yn 2014/15, canolbwyntiodd y Tîm Partneriaeth Strategol ar ffurfio’r tirlun partneriaeth i mewn i strwythur a oedd yn hygyrch i’r holl bartneriaid. Mapiwyd ac adolygwyd grwpiau partneriaeth strategol a galluogodd hyn y tîm i ddeall cymhlethdodau trefniadau partneriaeth, cadernid llywodraethu mewn partneriaeth a sut oeddent yn cyfrannu at wella canlyniadau poblogaeth a ddynodwyd yn y CIS ar gyfer Sir Fynwy ac yn adrodd i mewn i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae’r tirlun Partneriaeth yn Sir Fynwy yn llawn gofleidio gweithio amlasiantaethol, gyda chynrychiolaeth o ystod eang o sefydliadau partner, gan gynnwys y trydydd sector, sy’n gweithio’n gydweithredol i wella’r canlyniadau i breswylwyr Sir Fynwy. Mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn ffurfio rhan allweddol o’r mecanwaith cyflawni ar draws y sir, ac mae’n bwysig bod gan y Pwyllgor Dethol drosolwg cadarn o’r gwaith hwn a chyfraniad partneriaid trydydd sector yr Awdurdod yn y tirlun llydan ac amrywiol hwn.
Mae cyllid ar gael i rai o bartneriaid trydydd sector yr Awdurdod, sy’n cyfrannu tuag at ganlyniadau Cynllun Integredig Sengl Sir Fynwy. Mae’r cyllid yn cynnwys y canlynol:
Sefydliad |
Prosiect |
Swm 2016/17
|
GAVO |
Compact Trydydd Sector |
£12,000 |
Canolfan Cyngor ar Bopeth |
Gwasanaeth Cyngor |
£57,105 |
Home Start |
Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf |
£31,000 |
Crossroads, Gofalwyr Ifanc |
Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf |
£50,486 |
Cyfanswm |
£150,591 |
Craffu Aelodau:
Wedi craffu’r adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Gwnaed cyflwyniad a dangoswyd fideo i’r Pwyllgor Dethol ynghylch y mater hwn.
· Mae Home Start wedi gwneud gwahaniaeth. Mae ysgolion yn fodlon â’r deilliannau.
· Mae cyfraniad ariannol yr Awdurdod i GAVO yn sicrhau ein bod yn cael gwerth ein harian o’r gwasanaeth hwn. Mae GAVO yn chwarae rhan bwysig fel un o’n partneriaid.
· Bydd GAVO yn dod i gyfarfod y Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.
· Mae Canolfan Cyngor ar Bopeth (CCB) yn darparu gwaith ardderchog a bydd yn dod i gyfarfod y Pwyllgor Dethol Oedolion yn y dyfodol.
· Nodwyd bod cyfraniad y Cyngor Cymuned i’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn llai yn gyffredinol na’r cyfraniadau a ddarparwyd gan y Cynghorau Tref o fewn Sir Fynwy. Byddai gwybodaeth am braeseptau trethdalwyr yn help i benderfynu faint dylai pob cyngor cymuned ei gyfrannu i’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
· Mae GAVO hefyd yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru.
Penderfynasom dderbyn argymhellion yr adroddiad, fel yr amlinellir isod:
(i) Bod gan y Pwyllgor Dethol trosolwg o’r strwythur a’r tirlun partneriaeth sy’n cyfrannu at gyflawni Cynllun Integredig Sengl Sir Fynwy, dan arweiniad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
(ii) Bod y Pwyllgor Dethol yn adolygu swyddogaeth y trydydd sector a’r modd y mae’n cyfrannu at Gynllun Integredig Sengl Sir Fynwy
(iii) Bod y Pwyllgor Dethol yn adolygu’n feirniadol, gynrychiolaeth, taeniad a rhychwant sefydliadau trydydd sector ar draws tirlun partneriaeth Sir Fynwy a pha mor dda y cânt eu cynrychioli ar hyn o bryd dan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
(iv) Bod y Pwyllgor Dethol yn adolygu a bod ganddo drosolwg clir o’r trefniadau cyllido a ddyrannwyd gan Gyngor Sir Fynwy i sefydliadau trydydd sector.
|
Dogfennau ategol: