Agenda item

Town Team Update with Aaron Weeks

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Dîm y Dref oddi wrth Aaron Weeks, cynhwysai’r rhain:

 

Diweddariad Cyswllt

Yn ddiweddar galwodd Tîm Tref Cil-y-coed gyfarfod rhwng Cyngor Sir Fynwy, London & Cambridge a Waitrose, pan ddaeth yn eglur nad oedd gan y prosiect unrhyw fwriad i symud i’r cam nesaf o waith adeiladu yn Ionawr, prosiect y cawsom sicrwydd yn ei gylch fisoedd cyn y Nadolig. Daeth yn amlwg, yn ystod y cyfarfod bod y ffigyrau gan y ddwy ochr yn gwbl wahanol, yn amrywio o orwariant o £30+Mil i orwariant o £100+Mil. Yn ystod y bore cytunodd Waitrose a London & Cambridge i dalu costau’r gwaith o ail-wynebu maes parcio Waitrose, a fyddai’n lleihau’r gost. Gwnaeth L&C yn glir eu bod yn buddsoddi yn y prosiect a’u bod wedi ymrwymo iddo, ond nid oeddent yn barod i roi unrhyw gyllid pellach i’r prosiect. Dywedodd Waitrose hefyd eu bod wedi ymrwymo, ond ni fyddent yn rhoi unrhyw incwm pellach i’r prosiect. Dywedodd CSF hefyd fod y Cyngor wedi ymrwymo i’r prosiect. .

 

Gorffennodd y cyfarfod gyda’r holl bartïon yn cytuno i fynd ymaith a dod yn ôl ymhen wythnos wedi ystyried y canlynol:

·         Union gostau a gorwariant y prosiect

·         A oedd yn hyfyw i Waitrose godi unrhyw incwm pellach o’r prosiect.

·         A oedd unrhyw opsiynau cyllid pellach y gellid eu hymchwilio, megis vvp, arian cyfatebol ayyb. 

·         Mae’r costau wedi dod yn ôl, sy’n dangos bod y gorwariant yn £90 mil neu oddeutu £90 mil . Nid yw Waitrose yn gallu codi unrhyw incwm pellach, ond mae wedi cytuno i gymryd hanner cost y prosiect i roi wyneb newydd.

 

Bydd diweddariad i ddod.

 

Prosiect Marchnadoedd

Yn dilyn ymlaen o’n prosiect peilot yn 2015, mae Tîm Tref Cil-y-coed yn rhedeg 10 marchnad bellach yn 2016 ac wedi cyflwyno achos busnes i gyfarfod diwethaf y bwrdd rhaglenni, a argymhellwyd i’w gymeradwyo. Cynhwysai hyn ymgyrch marchnata eang i hyrwyddo marchnad Cil-y-coed a’n marchnadoedd arbenigol. Mae hefyd yn cynnwys prynu stondinau marchnad, wedi’u brandio â logo tîm tref Cil-y-coed, a bydd yn helpu i leihau costau ac amser yn sylweddol wrth gynnal marchnadoedd. Bydd y rhain hefyd ar gael i’w llogi am £4 y dydd yn unig.

Ein marchnad gyntaf eleni oedd marchnad Gymreig er budd yr Eisteddfod, yn ystod y digwyddiad fe godwyd £250 i’r Eisteddfod, sy’n cynnwys ffioedd y llain. Fe godwyd oddeutu £50 gennym wrth werthu tocynnau raffl i ennill y car.

 

Siopau Codi’n Chwap yn bwrw Cil-y-coed

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect i agor siop codi’n chwap o fewn y canol tref (yr uned drws nesaf i deithio Morgan)  Bydd busnesau’n gallu rhentu’r siop oddi wrthym ni ar gost o £10 y dydd neu £50 yr wythnos, hyd at fwyafswm o bythefnos.  Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt brofi – masnachu o fewn y dref, heb y risg o orbenion uchel neu brydlesau maith. Os, wedi cyfnod, y dymuna’r busnes aros yn hwy, rydym eisoes wedi gosod cytundebau yn eu lle i gynnig tenantiaethau 3,6,9 neu 12 mis ar gyfer unedau gwag eraill o fewn y dref.

 

Y nod yw darparu bywiogrwydd a bwrlwm o fewn y canol tref, tra rydym yn rhoi rheswm ychwanegol i siopwyr i ailymweld â’r dref, gan y bydd busnesau’n newid yn rheolaidd. Bydd Grwpiau Pwyllgora hefyd yn gallu defnyddio’r uned siop, yn rhad ac am ddim, i’w galluogi i osod sioe neu weithgarwch untro ymlaen o fewn y dref. Bydd yr uned a’r prosiect yn weithredol erbyn canol Mai (er mai yn gynnar ym Mehefin y mae’r agoriad swyddogol yn debygol, o ganlyniad i logiadau eisoes yn eu lle). Rydym wedi bod yn wirioneddol lwcus i allu cymryd y brydles am gyfnod o 12 mis yn hollol rydd o rent. Gyda bod yn gymwys ar gyfer gostyngiadau treth yn ogystal mae’r prosiect cyfan yn costio llai na £5,000. Lluniwyd y dyluniadau ar gyfer y prosiect gan fyfyriwr celf Blwyddyn 10 o ysgol Cil-y-coed, a bydd  Webber Design yn gwneud ein holl ddeunydd marchnata a dylunio yn rhad ac am ddim, a datgelir hyn o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

 

Wi-Fi

Ers i’r prosiect gael ei roi o’r neilltu t llynedd o ganlyniad i ddiffyg ymrwymiad gan Spectrum Internet rydym nawr wedi dod o hyd i gyflenwr arall Solvings UK sydd wedi dod o hyd i brosiect amgen rhatach i ddarparu Wi-Fi yn rhad ac am ddim i ganol tref Cil-y-coed. Gwneir cysylltiadau o fewn y colofnau Teledu Cylch Cyfyng, fydd yn allyrru signal Wi-Fi, a bydd yn gwasanaethu’r  canol tref cyfan, heb yr angen i osod ceblau ar hyd adeiladau, pwyntiau hygyrchedd caled o fewn llefydd busnes ayyb. Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn disgwyl cymeradwyaeth gan Roger Joy ac Andrew Mason yng Nghyngor Sir Fynwy, a dylai’r gosodiad gymryd llai nag ychydig wythnosau wedi i hyn gael ei gymeradwyo.

 

Prosiect Dyluniad Dinesig

 

Mae’r adroddiad terfynol wedi’i gynhyrchu gan Roberts Limbrick, sydd wedi’i gylchynu i’r Cyngor Tref a rhanddeiliaid. Yn anffodus, mae’n hamser terfyn wedi llithro i ddarparu adroddiad amlinellol i mewn i’r cam nesaf, o ganlyniad i’r nifer fawr o brosiectau rydym ar hyn o bryd yn ymwneud â hwy, ond mae gwaith wedi bod yn digwydd yn y dirgel gyda’r landlordiaid newydd yn y dref, a siarad â  rhanddeiliaid allweddol ynghylch y prosiect yn fanylach.