Agenda item

Community Connections Befriending Scheme ~ Discussion on how the "Community Connections Befriending Scheme" is assisting people to avoid social isolation

Cofnodion:

Rhoesom groeso i Miranda Thomson, Rheolwr, Cynllun Cyfeillio Cysylltiadau Cymunedol, a oedd yn bresennol i ddarparu gwybodaeth ar y gwasanaeth i’r Pwyllgor Dethol Oedolion.

 

Prosiect a ariennir gan y loteri yw’r Cynllun Cyfeillio Cysylltiadau Cymunedol i fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol ac unigrwydd i bobl h?n ar draws Sir Fynwy. Mae’n brosiect Canolfan Gymunedol Bridges, sefydliad elusennol annibynnol lleol wedi’i leoli yn Nhrefynwy.  Mae’r cynllun yn recriwtio gwirfoddolwyr ac yn eu paru gyda phobl sy’n ynysig, gan eu cefnogi hefyd i i fynd allan i’r gymuned.

 

Roedd y cynllun wedi bod yn rhedeg am ?// a hanner o flynyddoedd a gyda’r grant loteri’n dirwyn i ben gwnaed cais am gyllid pellach.

 

Edrychodd yr Aelodau ar ffilm fer a gwahoddwyd hwy i wneud sylwadau.

 

Craffu Aelodau:

 

Ychwanegodd Arweinydd Newid Arferion, Newid Bywydau fod canlyniadau gweithio gyda’r cynllun Cysylltiadau Cymunedol wedi bod mor gadarnhaol yr argymhellwyd ei dreiglo i weddill yr Hybiau fel bod yr holl Sir yn elwa o’r agwedd gadarnhaol.

 

Gwnaeth swyddog sylw, bod manteision y cydweithredu i ni fel Cyngor wedi rhoddi i dîm Y Sir sy’n Gwasanaethu elfen o hyder yn y modd rydym yn galluogi ac yn cefnogi gwirfoddolwyr.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir P. Farley fuddiant personol, manteisiol fel ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Lesiant Henoed Cas-gwent.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylw fod y cynllun yn tynnu sylw at y ffaith fod nifer o bobl fregus iawn yn y Sir, a chwestiynodd a oedd gwirfoddolwyr yn ymwybodol o gefndir ac anghenion yr oedolion bregus. Mewn ymateb fe glywsom, yngl?n â pharatoi, roedd gwirfoddolwyr wedi  derbyn cwrs cynefino, gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os yw person yn gweithio un i un gydag oedolyn bregus, roedd angen darparu geirdaon, a derbyn hyfforddiant. Cymeradwywyd yr hyfforddiant gan swyddogion Cyngor Sir Fynwy.  Byddai’r hyfforddiant a’r cymorth hefyd yn cael eu mabwysiadu gan y cynllun ceir oedd ar y gweill. Byddai’n rhaid i wirfoddolwyr sy’n gyrru, fel rhan o’r cynllun cyfeillachu, ddarparu copïau o’u dogfennau ac fe roddid iddynt dempled o lythyr ar gyfer yswirwyr.  Roedd therapyddion galwedigaethol wrth law i ddarparu cyngor yngl?n â’r ffordd i fynd i mewn ac allan o gerbydau, a’r modd gorau o gefnogi pobl.

 

Awgrymodd Aelod, lle’r oedd gofal un i un, gallai fod yn fanteisiol bod dau berson yno i roi cymorth ychwanegol.

 

Holodd Aelod beth fyddai’r canlyniad petai’r cais am gyllid yn aflwyddiannus. Mewn ymateb clywsom na fyddai’r cynllun yn gallu parhau yn yr un ffordd, gan y byddai’r cynllun yn cyflogi staff  a heb gydlynwyr prosiect ni fyddai’n bosibl cwrdd â’r gwirfoddolwyr na’u cefnogi. Roedd y cynllun yn edrych ar y ffordd i gefnogi grwpiau cymdeithasol a oedd yn bodoli eisoes pe na bai’r nawdd yn cael ei gymeradwyo, ac a allai asiantaethau eraill fabwysiadu’r perthnasau un i un.  Gobeithid derbyn cyllid drwy’r Gronfa Ofal Annibynnol. Nodwyd bod y cais am gyllid o £250,000, dros gyfnod o ddwy flynedd, a byddai’n cyflogi pedwar aelod o staff. 

 

Holodd Aelod a oedd sefydliadau eraill tebyg ar draws Lloegr a Chymru, y gallem gysylltu â hwy. Clywsom fod cyswllt gyda sefydliadau eraill, ac roedd 22 o gynlluniau tebyg, ar draws Cymru, yn bennaf dan elusennau mawr cenedlaethol. Roedd diddordeb cynyddol pendant mewn cyfeillachu.    

 

Nodwyd bod unigrwydd ac ynysu wedi cael effaith enfawr ar iechyd ac fe’i cyfrifid ar yr un lefel ag ysmygu a gordewdra.

 

Nododd Aelodau bryderon, gydag anogaeth byw’n annibynnol, po fwyaf y gwasanaeth cyfeillachu, mwyaf llesol y gwasanaeth. Yn y tymor hir, byddai’r cynllun yn gyfrwng lliniaru achosion iechyd meddwl arbennig.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fod yr Awdurdod yn gweld cyfeillachu fel rhan o agwedd gyflawn o gwmpas cydgysylltu cymunedol yn symud i mewn i rywbeth yn seiliedig ar leoliad. Gallai fod ychydig wahaniaeth mewn gwahanol gymunedau yn dibynnu ar yr adnoddau, y capasiti o gwmpas gwirfoddoli, a’r cysyniad o fod yn greadigol o gwmpas adnoddau. Hefyd yr angen i edrych ar nawdd ariannol penodol i fwyhau’r adnodd i mewn i’r Sir, a chyfleoedd a sianelir gan y bwrdd iechyd. Roedd cynigion yn eu lle ac fe roddid gwybod ymhen mis a oedd y cais yn llwyddiannus. Roedd yr elfen allweddol arall  o gwmpas gofal sylfaenol a chymryd mantais o bartneriaethau gyda Meddygon Teulu ac eraill o fewn y rhwydwaith gofal cymdogaeth.

 

Holwyd, petai’r cais am gyllid yn aflwyddiannus, faint fyddem ni’n ei golli wrth beidio â chael parhad y gwasanaeth. Mewn ymateb, clywsom pa mor bwysig oedd cyfeillachu, ac fel mae’n chwarae rhan fawr mewn cadw pobl yn iach ac yn hapus. Roedd yn anodd darparu dadansoddiad o gostau’r buddiant.

 

Clywsom fod gwasanaeth cyfeillachu ar y ffôn a hwnnw’n wasanaeth anffurfiol.

 

Mynegodd y Cadeirydd fod rhai bylchau difrifol i’w hystyried. Ar draws Sir Fynwy’n gyfan gwbl, roedd elfennau na chawsant eu crybwyll. Nodwyd nad oedd y Pencampwr Personau H?n, y Cynghorydd Sir G Burrows, yn gallu bod yn bresennol heddiw, ond roedd hefyd Gydgysylltydd Personau H?n i fod, a ymddangosai’n safle gwag. Mae clytwaith o gwmpas sefydliadau allweddol a oedd yn rhan o’r isadeiledd, megis Gweithredu 50+, yn gryf mewn rhai mannau ond nid ar draws y sir. Fel Cyngor Sir mae angen i ni wneud llawer yn well ar lefel strategol.

 

Mynegodd y Cadeirydd y byddai’n argymell bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu agwedd gryfach ar draws y Sir am nifer o resymau, un i sicrhau na chawsai un rhan o’r Sir ei hesgeuluso. Roedd yn bwysig cydnabod y materion o gwmpas cyllido, a holwyd a ddylai’r Cyngor Sir ystyried gwneud buddsoddiad mwy pendant. Gyda llawer o gryfderau mewn meysydd gwahanol, dylid trosi’r rhain yn fodel strategol.

 

Eglurodd swyddogion eu bod yn defnyddio’r Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant fel y grym mewn llesiant yn ei ystyr ehangach, ac edrych fel i weithredu dyheadau’r Ddeddf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Miranda Thomson a’r swyddogion am y drafodaeth ysbrydoledig gan gydnabod y gwaith ardderchog.